Ms Radical Blaengar – I lawr a’r batriarchaeth a dynion gwyn cis (a newid hinsawdd)
Agor drysau
Ers blynyddoedd bellach rwyf wedi bod yn ymladd yn erbyn anoddefgarwch. Mae’n frwydr hir, anodd, weithiau yn ymddangos yn ddi ben draw. Rhaid ymladd yn ffyrnig yn erbyn hiliaeth er enghraifft – mae’r dyn gwyn wedi cael ei amser ac mae’n rhaid iddo fynd. Rwyf yn aml yn cael fy synnu at hyfdra dynion gwyn y gorllewin yn cerdded o gwmpas y lle fel taen gyda’r hawl i wneud hynny. Rhag cywilydd y dynion yma yn cerdded o gwmpas gyda’u croen gwyn, eu crysau, eu teis, eu walets dynionaidd, eu trwsysau a’i gwahanol hetiau. Mae jisd rhaid eu sdopio. Ar frys. Mae’r ffaith fod y rhan fwyaf hefyd yn mynnu bod yn dalach na merched yn dystiolaeth bellach o’i hilioldeb ag o’i hagenda misogonistaidd i edrych lawr ar ferched a’u bychanu.
Y dydd o’r blaen mi agorodd un ddrws i fi a gwenu arnaf – wel, doedd Ms Radical Blaengar ddim yn mynd i roi fynu gyda’r fath nonsens. Ar ôl gweiddi yn ei wyneb am funud neu ddau yn esbonio iddo sut fod ei gyfnod fel rhan o’r batriarchaeth gwyn yn dod i ben, penderfynais ymosod yn gorfforol arno. Gwych oedd gweld fy chwiorydd yn ymhél rowndaf wrth i fi ei ‘sbaddu ar lawr – i gyd yn ffilmio ar eu ffonau a’i i pads er mwyn lledaenu’r neges i’r byd fod trais y dyn gwyn yn dod i ben.
Ar ôl gorffen ymosod, ffoniais yr heddlu er mwyn reportio y dyn am ei ffieidddra misogonistaidd. Roedd yr heddlu yn llawn cydymdeimlad â fy nghri a llusgwyd y dyn ffiaidd i ffwrdd ganddynt i aros am ei ddedfryd – gyda phosibilrwydd o 2-3 blynedd o garchar yn ôl yr heddwas caredig a siaradais â hi. O’r diwedd mae cyfiawnder a thegwch yn dechrau cyrraedd y gorllewin ar ôl blynyddoedd hir o orthrwm, hilioldeb a cham-drin.
Protest goddefgarwch a rhyddid barn
Buais i brotest arall y diwrnod o’r blaen oedd ynglŷn â mynnu yr hawl i ryddid barn a thegwch cymdeithasol i bawb. Sylwais ar ddyn gwyn yn sefyll yno nad oedd yn ymuno gyda’r gweiddi a’r protestio. Es ato i siarad ar unwaith ag esboniodd ei fod wedi dod i weld be oedd yn digwydd â’i fod yn gefnogol iawn i warchod hawl pawb i brotestio. Pan ofynnais iddo be oedd ei gredoau gwleidyddol dywedodd ei fod yn geidwadol ofalus ar rai agweddau ac fel arall ar agweddau eraill, yn dibynnu ar y pwnc. Wel, doedd Ms Radical Blaengar ddim yn mynd i gael dim o’r nonsens yma! Gweiddais arno yn ei wyneb nes ei fod wedi dysgu ei wers i fod yn fwy goddefgar o bobol ag, fel dyn gwyn o’r gorllewin, ei fod yn euog o droseddau erchyll ag o gamddefnyddio ei anrhydeddau gwyn.
Wedyn ymosodais arno gan ei guro yn galed gyda fy mhlacard Socialist Workers Party nes ei fod yn gweiddi pethe misogonistaidd a ffasgaidd fel ‘stopiwch ddynes’ ‘help’ a ‘ti off dy ben’. Galwyd yr heddlu a llusgwyd y dyn ffiaidd i ffwrdd i aros am ei achos llys. Buddugoliaeth arall i oddefgarwch a thegwch cymdeithasol.
Pwyllgor cyfartaledd cymdeithasol
Es i gyfarfod ynglyn â chyfiawnder a chyfartaledd cymdeithasol diwrnod o’r blaen. Prif swydd y pwyllgor yw trafod yr angen i bawb mewn cymdeithas i gael eu trin yr un peth ag i bawb gael union yr un hawliau dim bwys be yw lliw eu croen, eu credoau personol, eu rhywioldeb neu eu crefydd. Er mai fi sy’n dweud, siaradais yn dda iawn am yr angen i frwydro yn galed er mwyn i grwpiau megis hoywon, pobol trans, pobol o liw a thras ethnig wahanol a merched i gael hawliau arbennig ag bod angen brwydro’n ddi baid i fynnu fod y grwpiau yma yn cael eu trin yn wahanol i’r gymdeithas ehangach wyn, hiliol a llawn dynion.
I sicrhau’r tegwch holl bwysig yma bydd rhaid sicrhau na fydd gan ddynion – dynion gwyn a dynion gwyn hetero rywiol yr un hawliau cyfartaledd a hoywon, pobol trans, pobol o dras ethnic gwahanol a merched – ag y dylid disgrimineiddio yn eu herbyn er mwyn tegwch i’r grwpiau lleiafrifol. Cytunodd y pwyllgor a chytunwyd i lobio ein haelodau Seneddol a’r Senedd i basio deddfau newydd i sicrhau hyn – buddugoliaeth arall i oddefgarwch a chyfartaledd yn ein cymdeithas.
Democratiaeth ar waith
Buais mewn cynhadledd arall yn ddiweddar i drafod yr angen i annog democratiaeth gynhwysol yng Nghymru sydd yn adlewyrchu’r holl wahaniaeth barn sydd yn bodoli yma ag sydd yn annog goddefgarwch a thrafodaeth – rhywbeth rwy’n teimlo’n gryf iawn yn ei gylch. Rwy’n falch o ddweud y cytunwyd i barhau a chryfhau’r holl drafodaethau gyda’r holl bleidiau blaengar a chytunwyd nad oes lle i drafod unrhyw beth gyda’r pleidiau democrataidd eraill sydd ddim yn dweud y pethau cywir yr ydym eisiau iddynt ddweud – buddugoliaeth arall dros gulni ag anoddefgarwch ac yn erbyn transffobia a Naziaeth.
Eirlys
Gorfu i fi fynd i weld hen ffrind ysgol, Eirlys, y diwrnod o’r blaen. Druan a hi, mae hi wedi priodi dyn o’r enw Dylan a gyda thri o blant. Er nad wyf erioed wedi cwrdd gyda Dylan nag yn gwybod dim amdano, teimlais y gorthrwm erchyll yn llifo ohoni wrth iddi esbonio ei bod yn wraig tŷ a mam llawn amser yn magu plant, ac nad oedd y dyhead na’r amser ganddi i fod mewn swydd 9-5 ar y funud. Dywedodd ei bod yn ‘hynod o hapus’ ag yn teimlo ‘fel ei bod wedi ei chwblhau’. Ond mae’r ddwy ohonom yn gwybod yn iawn mae celwydd pur yw hynny ac mai’r unig beth sydd yn ei stopio rhag siarad allan yn onest am ei sefyllfa, yw gorthrwm a cham-drin amlwg a difrifol ei gwr misogonistaidd Dylan.
Nid oedd golwg o Dylan yn y caffi ble roedd y ddwy ohonom wedi trefnu i gwrdd – dywedodd Eirlys ei fod ‘yn gweithio’ ond rydym i gyd yn gwybod beth yw gwir ystyr hynnu – cael cyfathrach rywiol gyda phuteiniaid sydd dan orthrwm yn y parlwr massage agosaf mae’n siŵr. Hynnu neu edrych ar gêm bel droed gyda’i ffrindiau gwyn hetero-rywiol, cul a misogonistaidd.
Un o’r dyddiau yma rwyf yn mynd i helpu Eirlys i ddianc o’i gorthrwm a’i chamdrin domestic drwy ei herwgipio a’i hedfan i ffwrdd i gartref merched arbennig, i ffwrdd o’r plant swnllyd ag o grafangau gorthrymus Dylan a’i ffyrdd gwrywaidd cul. Mae’n bosib y gwneith Eirlys esgus protestio i ddechrau wrth gwrs ond mi ddaw i sylweddoli mai er ei lles hi y bydd hyn. Wrth feddwl, mi fydde hyn yn gwneud ffilm neu ddrama wych dwi’n siwr – mi allai ddychmygu teitl fel ‘Eirlys – darganfod fy adenydd’ neu ‘Eirlys – dianc o Dylan’. Cyfres ar S4C efallai.
Fforwm hybu hawliau LGBTQRSTKDPGHTITZ
Buais i a ffrind draw i fforwm hybu hawliau LGBTQRSTKDPGHTITZ y diwrnod o’r blaen. Roedd fy ffrind yn arfer bod yn ddyn o’r enw Bert ond bellach mae Bert wedi trawsnewid i Betsi ac, yn amlwg, mae Betsi yn ddynes ym mhob ystyr posib y gair. Mae unrhyw un nad sydd yn credu fod dyn biolegol yn gallu troi mewn i ddynes fiolegol neu o ddynes i ddyn, yn amlwg yn ffasgydd erchyll ac, yn llythrennol, yn Hitler. Ac os ydi gwyddoniaeth a bioleg yn honni nad oes posib i berson newid rhyw, mae gwyddoniaeth a bioleg hefyd yn ffasgwyr erchyll ac, yn llythrennol, yn waeth na Hitler – o bosib mor ddrwg ag Andrew RT Davies.
Beth bynnag, mae Betsi erbyn hyn yn gofyn i gael ei galw a’i hadnabod fel ‘nhw’ felly mi es i a nhw i’r fforwm hybu hawliau LGBTQRSTKDPGHTITZ, yn edrych ymlaen i gael trafodaeth agored ac aeddfed. Pan gyrhaeddom dywedodd perchnogion yr adeilad ble roedd y digwyddiad i fod i gael ei gynnal, fod trefnwyr y fforwm wedi gorfod gohirio’r digwyddiad a bod y nhw (ddim fy nhw i) wedi gofyn i berchnogion yr adeilad i adael i ni wybod (fi a nhw) nad oedd fforwm ymlaen y noson honno. Mi oeddwn i a nhw wedi gwylltio yn fawr gyda’r newyddion yma a gweiddodd nhw ar y perchnogion gan ddweud ei bod nhw (y nhw ddim hi) a’r nhw arall (ddim nhw na hi) yn gwbl warthus am beidio gadael i nhw a fi wybod am y peth.
Erbyn hyn roeddwn yn dechrau teimlo ychydig yn ben ysgafn ac mi es i a nhw am ddiod yn y dafarn agosaf. Yn anffodus mi feddwodd nhw yn fawr iawn gan dynnu ei dillad/ei nhwillad i gyd i ffwrdd a malu peiriant slot machine yn deilchion mewn cynddaredd. Mae’n rhaid i fi gyfaddef fy mod innau wedi ei gôr wneud hi ychydig, a’r peth olaf rwy’n cofio oedd nhw yn chwifio ei biji/ffiji bo o gwmpas y lle yn wyllt gan weiddi mewn llais gwrach ar yr heddwas a oedd yn ei harestio. ei fod yn edrych fel cath ei chyn athro ysgol. Ar ôl y digwyddiad yma mae nhw rŵan yn mynnu cael ei galw’n ein.
Newid hinsawdd
Mi es i gynhadledd wych ar newid hinsawdd y diwrnod o’r blaen. Roedd dau ddyn yno yn y dorf honni eu bod ‘yn awyddus i drafod’ sut yr oeddynt yn credu fod angen trafodaeth annibynnol ehangach ar faterion yn ymwneud a dylanwad dyn ar hinsawdd, fod newid hinsawdd yn fater gwahanol i gynhesu byd eang anthropogenic, nad oedd gwir gonsensws ar y pwnc dan sylw ac nad yw gwyddoniaeth wedi ei seilio ar gonsensws ond yn hytrach ar dystiolaeth a phrofion empirical heb derfyn.
Gofynnais i un os oedd yn credu mewn newid hinsawdd ag atebodd ‘Yndw rwy’n credu fod yr hinsawdd yn newid yn naturiol’ Sut y galle fo fod mor wirion ? Onid oedd o’n gwybod fod newid hinsawdd yn hiliol, misogonistaidd a thransffobic a bod rhaid ei sdopio? Trïais ymresymu a’r ffŵl ond daliodd i drio dweud fod yr hinsawdd yn newid yn naturiol ond ei fod hefyd yn hapus ag awyddus iawn i drafod ag ystyried pa wahanol ddylanwadau eraill a all effeithio ar yr hinsawdd.
Yn naturiol doedd Ms Radical Blaengar ddim yn mynd i dderbyn dim o’r nonsens ffasgaidd yma. Ymosodais arno yn eithafol – dyma’r unig ffordd i ddelio efo’r math yma o ffasgwr. Buais yn ei guro am oddeutu pum munud tra’n gweiddi yn uchel fod rhaid difa dynion hiliol gwrth LGBTQ fel y fo a bod ei gyfnod fel xenoffob patriarchaidd hiliol ar ben. Galwyd yr heddlu ac fe gariwyd y ffasgydd i ffwrdd ar stretcher tra’r oedd yr heddlu yn siarad ag o – yn ei ddwrdio yn bellach am ei hilioldeb sefydliadol gwyn dwi’n siwr. Buddugoliaeth arall yn erbyn eithafiaeth, gorthrwm, hilioldeb a thransffobia
Ymlaen a’r chwyldro
Diolch am ddarllen, ymlaen a’r chwyldro. A chofiwch chi chwiorydd – tra’r ydych yn trio mynd i gysgu ar ôl diwrnod arall yn gorfod delio gyda’ch cydweithwyr misogonistaidd, yn golchi llestri o dan gysgod gorthrymus eich partner neu yn gorfod goddef dyn yn siarad ag edrych arnoch ar yr un pryd yn gyffredinol, mae Ms Radical Blaengar allan yno yn ymladd ar eich rhan, ddydd a nos – o Baris i Ferlin, o Frwsel i Fangladesh. Peidiwch byth a rhoi fynu’r frwydr – y frwydr yn erbyn patriarchaeth, anoddefgarwch a dynion gwyn cis (a newid hinsawdd)
Ms Radical Blaengar
