Ni ddylai plant a phobol ifanc dderbyn unrhyw frechlynnau arbrofol. Mae dyletswydd foesol arnom i warchod a diogelu cenedlaethau’r dyfodol ac i atal gormes peryglus rhag cydio yn ein byd

gan Gruffydd Meredith

Yn etholiad Senedd Cymru ar Fai y chweched 2021, sefodd plaid y sefydlais yn ddiweddar, ‘No More Lockdowns’, yn rhanbarthau de ddwyrain a chanol de Cymru yn ogystal ag yn etholaeth Aberconwy. Cawsom 1446 o bleidleisiau (uwchben tair plaid arall) yn y rhanbarth de ddwyrain Cymru ble roeddwn yn sefyll, cafwyd 1298 o bleidleisiau (uwchben pum plaid arall) yn rhanbarth canol de Cymru a chafwyd 246 yn etholaeth Aberconwy.

Rydym yn dra diolchgar i bob un person a aeth allan i bleidleisio ar gyfer ein plaid a chefnogi ein prif neges. Mae’r blaid nid yn unig yn sefyll dros yr egwyddor o sofraniaeth ond hefyd dros yr egwyddorion holl bwysig o ddiogelu rhyddid a hawliau hanfodol pobl Cymru ac i ddad-wneud ac atal rhagor o gyfyngiadau llym neu orfodol sydd wedi ein gwthio arnom yn sgil Covid-19, rwan ac yn y dyfodol.

Mae hyn yn cynnwys yr hawl hanfodol i allu dewis cymeryd neu wrthod unrhyw frechlyn heb unrhyw bwysau neu orfodaeth annheg o unrhyw fath – brechlyn yr ydym yn credu’n gryf sydd yn frechlyn arbrofol a bod angen gwarchod plant, pobol ifanc a chenedlaethau’r dyfodol rhag y fath beth.

Mae pob un bleidlais a dderbyniwyd gennym yn cynrychioli gobaith a rhyddid ar gyfer Cymru a’i phobl, a phobol yn gyffredinol lle bynnag maent yn y byd. Rydym hefyd yn falch iawn o fod wedi ennill sedd ranbarthol yn etholiad Senedd pobl ifanc Cymru rhwng 11 a 15 oed – yr etholiad cyntaf o’i math erioed.

Ymddengys ei fod wedi bod yn ormod o sialens i’r prif gyfryngau yng Nghymru hyd yn oed allu ynganu enw’r blaid neu gydnabod ei bodolaeth ar deledu, radio a’r we, er eu bod wedi gallu rhestru partïon newydd eraill a rhai gafodd llawer llai o bleidleisiau.

Onid gwaith cyfryngau di duedd mewn etholiad yn arbennig, ddylai fod adrodd y ffeithiau ac nid rheoli’r naratif a golygu’r ffeithiau? Pe taech yn gwylio’r prif gyfryngau yng Nghymru yn y Gymraeg a’r Saesneg am y tro cyntaf, yr argraff fydde rhywun yn ei gael fydde nad oes gan unrhyw un wrthwynebiad i gael eu cloi lawr am dros flwyddyn, cael eu hawliau sylfaenol wedi eu tynnu oddi arnynt a’u llwgrwobrwyo yn emosiynol i gymeryd brechlynnau arbrofol.

Yn wir, yr argraff fydde fod pawb yn fwy na hapus i gael ei cloi i lawr a cholli eu hawliau ‘er mwyn yr achos’ – yr achos neu’r naratif sydd wedi ei or liwio a’i or fwydo i ni yn ddiddiwedd gan y prif gyfryngau a gan ‘ymghynhorwyr gwyddonol’ llywodraethol anetholedig.

Nid oes gennym unrhyw syniad beth allai fod effeithiau niweidiol y brechlyn ar yr holl rai sydd wedi eu gymeryd. Mae hyn yn cynnwys y risgiau posib sy’n gysylltiedig â’r ‘sheddio’, technoleg mRNA a’r newidiadau eraill annaturiol y mae llawer o arbenigwyr yn rhybuddio amdanynt o ran y rhai sydd wedi cymryd y brechlynnau arbrofol. Mae hyn i gyd yn hynod o beryglus, yn anwyddonol ac yn mynd yn erbyn egwyddorion gofal gwyddonol. Ac fel y mynegir gan nifer o firolegwyr ac arbenigwyr, mae gwir bryder y gall ganlyniadau’r arbrawf yma fod yn drychinebus i ddynoliaeth.

Mae cyflyru neu orfodi brechlynnau ar bobol hefyd yn anghyfreithlon ac yn mynd yn groes i brotocolau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol fel côd Nuremburg – a gynlluniwyd i atal llywodraethau i ailadrodd erchyllterau meddygol arbrofol a welwyd o’r blaen mewn hanes. Mae’n rhaid diogelu dewis personol pawb.

Ac mae gwthio brechlynnau arbrofol ar bobl heb eu rhybuddio o’r effeithiau niweidiol posib, a heb gael eu caniatad gwybyddus hefyd yn mynd yn groes i’r llw Hippocratic a gymerir gan weithwyr meddygol proffesiynnol.

Mae llawer o oedolion wedi dewis cymryd y brechlynnau arbrofol yma erbyn hyn. Ond mi allwn ddiogelu y cenhedlathau iau rhag cael eu gwthio i gymeryd y brechlynau arbrofol yma. Mae gennym ddyletswydd foesol i’w rhybuddio am y peryglon ac i annog rhieni i amddiffyn eu plant rhag cymryd unrhyw sylwedd arbrofol a di angen.

Mae eisoes wedi yn cael ei drafod gan ein llywodraethau y bydd mwy o gloi lawr a chyfyngiadau yn y misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd i ddod, gyda i fynu at 3 miliwn o swyddogion Covid yn cael ei recriwtio gan gynghorau lleol o dan arweiniad llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar gyfer cyfnod a allai bara hyd nes 2023. Mae hyn nid yn unig yn wiriondeb ond yn berygl clir ac amlwg i’n hawliau ac i gymdeithas rydd. A hyn i gyd ar gyfer salwch tebyg i unrhyw ffliw/ffliw tymhorol arferol sydd yn effeithio ar oddeutu 5% o’r boblogaeth bob blwyddyn, a gyda 99.77% yn gwella ohono yn ôl ffigyrau’r World Health Organisation.

Dwi’n gwybod mae ewyllus da a chonsarn am eraill sydd gan bobol pan mae’n dod at unrhyw salwch am mae hynnu yn beth da wrth gwrs. Ond nid pandemig ydi hwn wedi bod hyd yma. Dyne pam, o fis Mawrth 2020 ymlaen, nid yw Public Health England na Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn ystyried fod Covid-19 yn glefyd uchel heintus (High Consequence Infectious Disease). A oes unrhyw gyfryngau prif ffrwd neu wleidydd wedi sôn wrthoch am hyn? Go brin.

Rhyfedd a hefyd pryderus yw gweld nifer fawr o’r rheiny sydd yn aml yn hunan-adnabod fel pobol flaengar, gosmopolitan neu chwith ryddfrydol ac sydd yn treulio gymaint o amser yn gweiddi a rhygnu am y ‘Toris drwg’ ayb – ond yn gwbl hapus ac eiddgar i ddilyn bron pob diktat a gorchymyn gan yr un Torïaid pan mae’n dod at eu cloi lawr, cael eu hawliau dynol elfennol wedi ei dwyn oddi arnynt a’u gwthio i wneud beth bynnag sydd yn cael ei orchymyn ohonynt, gan anghofio eu hawliau sylfaenol i ddewis neu i ddweud na.

A be am y rheiny sydd yn ymhyfrydu mewn galw eu hunain yn radicaliaid gwrth sefydliadol, yn byncs ac yn anarchwyr honedig? Os oes unrhyw amser mewn hanes ble mae angen ychydig o’r math yma o beth i ail osod y balans a gwthio nol yn erbyn gormes a chysgod hyll ffasgiaeth sydd ar y gorwel, hwn ydi’r pwynt hwnnw. Ond na, tawelwch a chydymffurfio ddaw o’r rhan fwyaf o’r cyfeiriad yma hefyd.

Ychydig o bobol sydd yn sylweddoli ein bod mewn stad o ryfel. Datganwyd y rhyfel yma arnom ni y bobol yn swyddogol pan ddechreuodd llywodraethau’r byd dynnu ffwrdd ein hawliau tu hwnt i bob proporsiwn, ein cloi lawr a’n mygu gydag agenda o ormes, o derfysg seicolegol ac o ofn sydd ddim i wneud gydag diogelu iechyd y bobol. Ond sydd yn hytrach yn defnyddio’r pandemig honedig i wthio agenda ormesol a pheryg y globaleiddwyr a defnyddio ewyllus da a daioni cynhenid pobol, fel arf yn erbyn eu hunain ac i gaethiwo eu hunain ac eraill. A hyn oll gyda chefnogaeth slafaidd a di gwestiwn y prif gyfryngau.

Mae’n debygol y bydd ymdrechion creulon pellach gan y globaleiddwyr corfforaethol yn y mater yma hefyd. Bydd y rheiny sydd yn gofyn cwestiynau pwysig am y brechlynnau yn debygol o gael eu beio am unrhyw fwy o achosion honedig yn y dyfodol, eu ‘haralleiddio’, eu labelu a’i herlid ymhellach gan yr awdurdodau a’r cyfryngau prif ffrwd, gan greu mwy o raniadau, casineb ac ofn fel y’i gwelwyd o’r blaen yn hanes diweddar y byd.

Rhyfel y globaleiddwyr yn erbyn y bobol ac yn erbyn gwledydd a chenhedloedd yw hwn – rhyfel y rhai sydd am ddefnyddio’r diwydiant meddygol, ffarmacolegol a thechnoleg a gwyddoniaeth, i greu un llywodraeth decnocrataidd ganolog i’r byd, rhyfel yn erbyn teulu cenhedloedd amrywiol a chyfoethog presennol y byd a rhyfel yn erbyn rhyddid a hawliau’r unigolyn. A rhyfel sydd wedi hen fynd tu hwnt i wleidyddiaeth y dde neu’r chwith ac sydd rwan ynglŷn â gormes neu ryddid. Rhyfel gweddol dawel a covert hyd yma efallai ond rhyfel jisd ru’n fath. Yn anffodus ni ellir anwybyddu neu ddiystyru hyn fel conspiracy theory dim mwy.

Os gwelwch yn dda ymchwiliwch i’r Great Reset, i Agenda 21, Agenda 2030 a mwy, ac ymchwiliwch o bob ongl bosib am fwy o wybodaeth ac i geisio a deall y darlun ehangach. Mae dyletswydd foesol arnoch i gyd, os nad i’ch hun, yne i’r cenedlaethau i ddod, i wybod a datgelu’r gwir a’r peryglon mae dynoliaeth a gwareiddiad yn ei wynebu.

Ond mae’r gwthio yn ôl yn erbyn yr agenda globaleiddiol beryg yma wedi dechrau. Mae’r gyfundrefn wleidyddol a’r rhan fwyaf o wleidyddion wedi ein methu ac wedi methu siarad allan yn erbyn y gormes cynyddol yma. Mi fydd rhaid i wleidyddiaeth rwan gael ei greu a’i redeg gan bobol nad ydynt wedi eu hyfforddi i fod yn wleidyddion ac, fel sydd yn digwydd yn naturiol rwan, mae’n rhaid i’r bobol greu a rhedeg eu cyfryngau eu hunain gan fod y prif gyfryngau hefyd yn amlwg yn gwbl bwdwr.

Mae’n amser i wrthod rhoi ein sêl bendith i fwy o ormes ac i ddweud na. Os nad ydym yn ymwrthod a’r naratif gormesol yma sydd yn cael ei greu yn y cyfryngau ni fydd unrhyw ryddid neu ddyfodol i Gymru a’i phobl, neu i unrhyw bobl eraill. Y flaenoriaeth rwan yw i atal llywodraethau rhag creu mwy o gloi lawr, ac i atal a dad wneud y gormes a’r cyfyngu ar ein rhyddid a welwyd ers dros flwyddyn. Ac i atal y brechlynnau arbrofol a’r ‘pasbortau rhyddid’ a fydd yn mynd a dynoliaeth i le tywyll iawn os na’i stopir.

Mae angen ffeithiau nid ofn, rhyddid, nid gormes. Oherwydd pan ddaw gormes yn gyfraith, mae’n ddyletswydd gwrthsefyll. A chofiwch, “Gwyliadwriaeth dragwyddol yw pris rhyddid”.

Leave a reply / Gadewch neges: