gan Gruffydd Meredith
Mae amser yn brin, felly gadewch i fi drio mynd at y pwynt. Nid yw pob brechlyn o reidrwydd yn ddrwg. Ond mae’r agenda i gario mlaen i’n cloi lawr ac i wthio brechlyn arnom oll, gyda chefnogaeth ddigwestiwn y prif gyfryngau a’r wladwriaeth, yn anwyddonol, yn beryglus, yn awdurdodol ormesol ac angen ei werthsefyll a’i stopio.
Dyma rai o’r rhesymau pam yn fy marn i.
Mae’n weddol amlwg erbyn hyn fod y prawf PCR (Polymerase chain reaction) yn annibynadwy fel ffordd o ganfod os oes gan berson achos o Covid 19 neu ddim. Yn ol y diweddar Kary Mullis, creawdwr y prawf PCR, nid yw’r dechnoleg yn addas ar gyfer canfod presenoldeb unrhyw feirws neu i wneud diagnosis o glefydau.
Mae nifer cynyddol o arbennigwyr erail hefyd erbyn hyn yn datgan yn blaen nad oes unrhyw ffordd i wahaniaethu rhwng pobl sydd yn profi yn bositif a’r rhai sydd wedi cael ryw haint flaenorol ac nad sydd bellach yn heintus. Gall ganlyniad y prawf yn syml brofi yn bositif oherwydd annwyd cyffredin er enghraifft.
Ac un o’r rhesymau pam mae yna hefyd bellach fwy o achosion ydi oherwydd bod nifer fawr o bobl erbyn hyn wedi cael y prawf PCR annibynadwy.
Datganodd Llys Apel Portiwgal yn ddiweddar hefyd fod profion PCR yn anibynadwy ac fod felly angen disystyru canlyniadau’r prawf PCR am Covid 19 – a hefyd fod unrhyw orfodi cwarantîn neu locdown yn seiliedig ar y canlyniadau profion felly yn anghyfreithlon. Mi fydde’r un egwyddor felly hefyd fod yn berthansol i unrhyw frechlyn yn seiliedig ar y prawf PCR.
Yn eu dyfarniad, cyfeiriodd y barnwyr Margarida Ramos de Almeida ac Ana Paramés at nifer o astudiaethau gwyddonol, gan ddod at y casgload yn seiliedig ar y wyddoniaeth yr astudiwyd, fod unrhyw brawf PCR sydd yn defnyddio dros 25 o gylchoedd profi yn hollol annibynadwy, sy’n golygu bod 100% o’r profion felly fod yn annibynadwy. Credir bod y rhan fwyaf o brofion yn rhedeg ar gylchoedd dros 25 gyda dogfen NHS Lloegr (tudalen 16) ar broses profi mewn labordai yn dangos mai 45 o gylchoedd yw’r norm.
Ni glywyd dim am yr achos holl bwysig yma yn y cyfryngau prif ffrwd Pravdaesquea a Phaflofaidd ym Mhrydain. Yn lle, bron heb eithriad, cadwodd y rhain oll i bwmpio allan bron yr union un storiau a phropaganda pro-brechlyn a phro locdown yn ddigwestiwn, gan ei wneud yn weddol amlwg nad yw mwyafrif y cyfryngau a’r wasg honedig rydd erbyn hyn yn rhydd o gwbwl. Neu oleiaf, yn analluog i wneud eu gwaith o scrwtinedidio a gofyn cwesytiynau anodd a holl bwysig.
Mae hydnoed yr WHO (World Health Organisation) o’r diwedd wedi cyfaddef bod Prawf PCR ar gyfer Covid 19 ‘yn broblem’. Gan o bosib geisio bellhau eu hunain o’r prawf dyweder yr WHO mewn datganiad: “Mewn rhai amgylchiadau, mae’r gwahaniaeth rhwng y swn cefndir a’r presenoldeb o’r feirws sydd yn cael ei dargedu (yn y prawf PCR) yn anodd i’w ganfod.”
Ac fel gwelir islaw mae hyd yn oed Boris Johnson wedi cyfaddef yn agored fod 93% o brofion PCR yn ‘anghywir’.
Beth bynnag yr ydych yn meddwl am y feirws, nid yw’n ymddangos fod locdowns nac masgiau yn gweithio beth bynnag. Er yn faes sensitif sydd angen ei droedio gyda pharch a chonsarn am iechyd eraill wrth gwrs, wrth edrych ar ffigyrau swyddogol yr ONS, ymddengys fod marwolaethau ‘mwy na’r arfer’ yn dilyn y locdowns, nid y ffordd arall rownd.
Fel sydd wedi ei ddatgelu eisioes hefyd, mae’r modd y mae marwloaethau honedig o Covid 19 yn cael eu hadrodd yn broblematig, gyda staff meddygol yn cael ei cyfwarwyddo gan yr awdurdodau i nodi marwolaethau fel rhai o Covid hyd yn oed os ydynt yn amau yn unig mai dyna’r achos. Yn y mwyafrif helaeth os nad y cyfan o farwolaethau Covid, mae anwaeledd wedi bod yn bodoli yn barod yn y claf, gan awgrymu yn gryf mai nid yr honedig Covid 19 oedd y prif ffactor allweddol yn nifer helaethaf o’r achosion yma.
I grynhoi hyn – mae hyn oll yn golygu fod yr holl niferoedd o achosion o Covid 19 a adroddwyd ar y cyfryngau prif ffrwd yn ddi ben draw, yn hollol annibynadwy ac felly fod yr holl locdowns – yn enwedig y rhai ers dyfodiad y prawf PCR annibyniadwy – wedi bod yn gwbwl ddi sail, yn ddiystyr, yn ormesol, yn anfoesol ac yn anghyfreithlon, ac yn fygythiad difrifol i iechyd dynol ac i’n rhyddid sylfaenol fel dynoliaeth a gwareiddiad.
Mae’n dilyn hefyd felly fod unrhwy raglen o frechlynu yn seiliedig ar y profion PCR diffygiol yma, hefyd yn gwbwl ddi sail ac yn anwyddonol.
Mae’r holl fesurau yma, yn y bôn, yn golygu bod pobl yn iach yn cael eu profi ac yna eu carcharu yn eu cartrefi am ddioddef o salwch nad ydynt yn dioddef ohono tra mae pobol gwirioneddol sal sydd angen triniaeth a gofal wedi bod yn cael eu troi i ffwrdd a’u hatal rhag derbyn triniaeth ar sgel anferth.
Ac, p’unai ydynt yn sylweddoli hynnu neu beidio, mae pob un o’r mesurau yma gan yr awdurdodau ,yn anochel,yn gefnogol i’r archfarchnadoedd mawr a’r corfforaethau globaleiddiol, gan gynnwys y cwmnïau technoleg arlein enfawr, gyda busnesau bach a chanolig y stryd fawr bellach yn ei chael hi’n anodd iawn i oroesi o ddydd i ddydd – rhywbeth y mae llawer yn gynyddol yn awgrymu nad sydd yn anfwriadol.
Ond beth am y brechlyn ei hun ?
Nid ydym yn gwybod chwaith be yn union sydd yn y brechlyn, os ydio’n gweithio neu pa mor ddiogel ydi’r brechlyn. Nid trio bod ‘yn anodd’ neu chwilio am gonspirasi yw pwrpas neu reswm gofyn cwestiynau am frechlynau – y pwrpas a’r rheswm yw consarn a gofid gwirioneddol am iechyd ein cyd ddyn a chyd ddynes, a’r gofid pellach nad yw gwir ofal a phrotocol gwyddonol yn cael ei ddilyn pan mae’n dod at ddiogelwch a hefyd ddilysrwydd unrhyw frechlyn Covid 19.
Ar lefel sylfaenol iawn, nid oes digon o amser wedi bod i brofi’r brechlyn. Mae hi fel arfer yn cymryd 5-10 mlynedd i ddatblygu a profi brechlyn diogel ond mae’r brechlyn Covid wedi ei ruthro allan mewn llai na 10 mis. Mae hyn yn hynod anwyddonol ac yn mynd yn erbyn egwyddor sylfaenol gofal gwyddonol.
Ac nid ydym yn gwybod effeithiau tymor hir y brechlyn chwaith. A hyd yn oed os ydi’r brechlyn yn be sydd yn cael ei honni y mae, mae’n edrych mae dim ond 2% o’r boblogaeth sydd ei angen beth bynnag. Ac o’r o’r rhai sydd yn mynd i fynd yn sal, fel gydag eraill salwch influenza neu annwyd tebyg, mi fydd oleiaf 99% hefyd yn goreosi beth bynnag – 99% o’r 2% hynny yw.
Ar ben hyn hefyd, yn ôl y British Medical Journal, mae hefyd wedi cael ei nodi nad yw’r brechlynau wedi cael eu profi yn llawn o ran eu bod yn ran darparu imiwnedd rhag y feirws neu ddim nac ar gyfer atal trosglwyddiad y feirws neu ddim.
Mewn erthygl ar gyfer y British Medical Journal, mae’r awdur Peter Doshi yn nodi sut mae cynhyrchwyr y brechlyn Pfizer eu hunain yn cyfaddef nad yw y brechlyn wedi cael ei brofi ar gyfer sicrhau imiwnedd neu ar gyfer atal trosglwyddo. Yn ôl Doshi:
“Mae’r byd wedi betio ar frechlynnau fel ateb i’r pandemig, ond nid yw’r treialon yn canolbwyntio ar ateb y cwestiynau y gallai llawer gymryd yn ganiataol eu bod yn cael eu gofyn.”
Felly, beth yw pwynt y brechlyn?
Ac ar ben hyn eto, penderfyniad yn seiliedig ar grybwyll rhieni yw ‘r penderfyniad ynglyn a rhoi brechlyn i’w plant neu ddim – gyda’r un peth yn wir i bawb eraill gan gynnwys yr henoed a’r methedig. Ond ymddengys fod yr egwyddor holl bwysig yma yn cael ei anwybyddu gan y cyfryngau a’r awdurdodau a’i wthio i’r cyrion fel pe bai ddim yn berthnasol.
Yn synhwyrol, mae llywodraethau Seland Newydd, Awstralia, Japan, Hong Kong a De Corea yn cymeryd eu hamser i edrych ar unrhyw frechlynau cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynglyn a’u argymell i bobol neu ddim.
Cofier hefyd nad yw y brechlyn wedi cael ei brofi ar neu yn cael ei argymell ar gyfer y canlynol:
- Pobl dan un ar bymtheg oed.
- Merched beichiog (neu menywod sy’n bwriadu dod yn feichiog yn y dyfodol agos).
- Pobl gyda cyd-afiachusrwydd difrifol.
- Pobl sydd eisoes yn cymryd meddyginiaethau eraill.
- Pobl sydd gyda alergeddau.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi rhybuddio meddygon am y potensial o anffrwythlondeb posib yn nghsywllt y brechlyn Covid Pfizer ond nid yw’n ymddangos fod cleifion wedi ei rhybuddio yn sylweddol am hyn – yn sicr ddim yn y prif gyfryngau.
Felly, y cyngor swyddogol sydd eisoes wedi ei osod yw y gall y brechlyn fod yn niweidiol i rai neu bob un o’r bobl hynny.
Ar ben hyn, mae holl gynhyrchwyr y brechlynau i gyd wedi cael eu hindemnio yn gyfreithiol yn y Deyrnas Gyfunol, yr Unol Daleithiau a gwladwriaethau eraill, sy’n golygu na all pobol fynd ar eu hol drwy gyfraith os bydd pobl yn marw neu yn cael eu hanafu gan y brechlyn neu frechlynau yma.
Ar ben hyn, hefyd, mae rhai elfennau am gynhwysion y brechlyn/au yn wybyddus i arbenigwyr. Mae nifer o wyddonwyr yn esbonio gyda chonsarn fod fersiynau o’r brechlyn yn defnyddio technoleg arbrofol a elwir yn gene editing, yn benodol genyn olygydd mRNA – technoleg gwyddonol arbrofol a honnir sydd yn gallu cyflwyno ffordd o olygu genynau dynol drwy gyflwyno gwybodaeth newydd i mewn i’r celloedd, ac nad sydd wedi ei ddefnyddio mewn brechlynnau o’r blaen. Ac arbrofi mae nifer cynyddol o wyddonwyr ac arbennigwyr yn ei rybuddio all greu canlyniadau trychinebus o Ffrankestenaidd yn y dyfodol
Gwerth yw cofio hefyd, yn ôl Llywodraeth y DU ei hun, nad yw COVID-19, o Fawrth 19,2020, yn cael ei ystyried i fod yn glefyd heintus uchel (high consequence infectious disease / HCID) yn y Deyrnas Gyfunol.
Dylem hefyd gofio bod yne gonsensws gwyddonol enfawr yn erbyn locdowns a brechiadau gan arbenigwyr a gwyddonwyr o bob cwr o’r byd – er nad yw gwyddoniaeth wedi ei seilio ar gonsensws wrth gwrs. Mae’r datganiad Barrington er enghraifft, sydd yn gofyn am roi stop ar bolisiau niweidiol Covid 19, hyd yma wedi ei arwyddo gan dros 52,627 o ymarferwyr meddygol, gwyddonwyr, epidemiolegwyr clefydau heintus a 712,344 o ddinasyddion.
Gwelir hefyd ddatganiad tebyg gan y World Doctor’s Alliance
Wrth gwrs, bydd nifer fawr yn ceisio gwadu dilysrwydd datganiadau pwysig fel y rhain, gan labelu unrhyw farn nad sydd yn cyd fynd a’u naratif nhw fel nonsens neu ‘farn asgell dde’ neu ‘wadwyr gwyddoniaeth’, a defnyddio enghreifftiau o unigolion sy’n arwyddo pethau o’r fath drwy ddefnyddio enwau gwirion wedi ei gwneud i fynu, fel esgus i ddwyn anfri ar yr arbenigedd anferth sydd yn gefnogol i’r datganiadau neu ddeisebau fel arall.
Yn gysylltiedig, mae’r nifer enfawr o bobol sydd yn trio trin a thrafod y materion hanfodol yma yn rhesymol, yn cael eu hymosod arnynt a’u ‘ffaith gywiro’ – neu mewn geiriau cael eu barn wedi ei gywiro gan y rhai sydd yn ei ystyried ‘yn amhriodol’ gan bropagandwyr sydd yn aml yn gysylltiedig â’r cyfryngau brif ffrwd a’r ‘wladwriaeth’ gynyddol Orwelaidd. Mae’r safleoedd ‘ffaith gywiro’ eu hunain yn gynyddol yn cael eu hystyried yn annibynadwy erbyn hyn, ac yn safleoedd ble y barnir gan nifer cynyddol, fod naratifau twyllodrus, a sbin a rhethreg gelwyddog yn cael eu gwthio.
Mae hefyd yn bwysig nodi yr honiadau nad oes unrhyw ganlyniadau o dreialon annibynnol o’r brechlyn Covid eto wedi eu cyhoeddi mewn papur peer review. Os yn wir, mae hyn yn unig yn ddiffrifol o anwyddonol ac yn anhygoel o broblematic i ddweud y lleiaf.
Mae hefyd lawr o son am basports imiwnedd Orwelaidd sef dogfennau digidol sy’n dangos eich statws brechu ac a all eich heithrio rhag cael eich cloi i lawr neu’ch ymbellhau os ydech chi wedi bod yn fachgen neu ferch dda a ‘dilyn y drefn’. Nid yw’n anodd dychmygu sut, oni bai y stopir hyn, y bydd cymdeithas yn llithro i fewn i fyd Orwelaidd gyda system gwbwl ormesol mewn lle megis system ‘credyd gymdeithasol’ Tseina – neu waeth.
Mae hyn yn wallgofrwydd sydd angen stopio. Mae’r rhaglen a’r naratif i geisio gwthio’r brechlyn Covid yn anfoesol ac yn anghywir.
Ond mae hyn i gyd yn ein dwylo ni’r bobol. Nid yw’n edrych fel fod y ‘prif gyfryngau’ yn mynd i’n hachub, nac hefyd ein gwleidyddion sydd yn gyffredinnol wedi bod yn gwbwl llyweth ac iwsles mewn dal pwer i gyfrif mewn unrhyw ffordd pan mae’n dod at y cloi lawr, y rhaglen frechlynu a’r mater o’n hawliau sylfaenol yn cael eu dwyn oddi arnom gan yr awdurdodau.
Gallai hyn fyth ddigwydd yn y gorllewin dywed llawer. Ond mae’n digwydd reit rwan o dan ein trwynau.
Gwrthdaro buddiannau Big Pharma a’r corfforaethau technoleg rhyngwladol
Mae hefyd bryder enfawr ynghylch y cyrff a’r buddianau hynnu a honnir sydd yn dylanwadu tu hwnt i reswm ar Lywodraeth y DU mewn perthynas a pholisiau Covid 19 a brechlynu, megis SAGE, GAVI, CEPI, Coleg Imperial Llundain ac eraill. Ac mae tor o wybdoaeth gyhoeddus ar gael hefyd yn honni gwrthdaro buddianau rhwng llywodraeth y DU a’r corfforaethau big pharma; rhwng prif ymgynghorydd meddygol Llywodraeth bresennol y DU, Chris Whitty, rhwng Canghellor y Trysorlys, Rishi Sunak, rhwng Patrick Vallance sydd yn arwain y Llywodraeth fel arbenigwr ar banel cynghori brechlynnau, a nifer eang o gorfforaethau a buddsoddwyr rhyngwladol yn cynnwys y Bill and Melinda Gates Foundation sydd ynghlwm ac annog brechlyn/brechlynnau Covid 19 yn ogystal a’r dechnoleg o’u cwmpas. Honnir mai’r Gates Foundation yw un o brif arianwyr GAVI, CEPI a Coleg Imperial Llundain, a hefyd un o brif ariannwyr y World Health Organisation a nifer o fudiadau cysylltiedig eraill.
Heb anghofio Matt Hancock – yn euog o actio or-emosiynol hynod wael ac od os dim arall.
Am fwy am yr holl gysylltiadau ac arianwyr yma gweler ddwy erthygl ragorol a manwl gan Vanessa beeley ar y pwnc yma ac yma.
Mi ddyle fod yn amlwg i unrhyw un gyda’r gallu mwya elfennol o resymegu, ei fod yn ymddangos fod gwerthdaro buddianau sylweddol yn mynd ymlaen yma.
Rhyfedd a hefyd ychydig yn byrfyrtlyd o ddoniol yw gweld nifer fawr o’r rheiny sydd yn aml yn hunan-adnabod fel pobol flaengar, cosmopolitan neu chwith ryddfrydol, yn treulio gymaint o amser yn gweiddi a rhygnu am y ‘tori scymbags’ drwg ayb – ac eto yn gwbwl hapus ac eiddgar i ddilyn pob diktat a gorchymyn gan yr un Torïaid pan mae’n dod at locdowns a’r rhaglen ormesgar ac anwyddonol i frechu pawb a phopeth yn ddigwestiwn, ac i gymeryd i ffwrdd eu hawliau dynol elfennol ac, mewn effaith, eu carcharu yn eu cartrefi eu hunain. Dyma yw beth a elwir yn aml yn cognitive dissonance. Neu, i roi iddo ei gyfieithiad Cymraeg; ‘meddylfryd pen rwd’
Mae’n debygol yn fy marn i, y bydd ymdrechion pellach creulon gan y globaleiddwyr corfforaethol yn y mater yma hefyd – mae pob posib y gallent ryddhau be allai fod yn wir glefyd peryglus arnom, a beio hyn eto, a gyda fwy o afiaeth, ar y ‘protestwyr drwg hynnu’ sydd wedi bod ac yn ceiso cael trafodaeth resymegol ac egwyddorol bwysig i ymwrthod a’r agenda wrth-ddynol a ddieflig yma, rhag cymryd ymaith ein holl hawliau dynol, ein dynoliaeth a’n rhyddid.
Ac fel y maent wedi ei wneud eisoes, mi fydd y globaleiddwyr yn ceisio defnyddio y bobl eu hunain i wthio agenda y globaleiddwyr, ac i roi pobol yn erbyn ei gilydd, i greu rhaniadau, drwgdeimlad a diwylliant o feio a diffyg tryst mewn eraill. Ac i ddefnyddio ewyllus da a daioni cynhenid pobol, fel arf yn erbyn eu hunain ac i gaethiwo eu hunain ac eraill.
A’r nod fel yr ydym wedi ei weld eisoes, ydi i dawelu, i godi cywilydd neu lwgwrwobrwyo yn emosiynol y bobol hynnu sydd yn ceisio siarad dros ddynoliaeth a gwareiddiad. Bydd y rhain unwaith eto yn cael ei galw yr enwau arferol – conspiracy theorists, kooks, ‘gwrth vaxxers’, y dde eithafol ayb ayb hyd syrffed – syrffedus, blinedig a pheryg.
Mae angen i ni gyd fod yn wyliadwrus iawn o’r gwir rymoedd sydd ynghlwm a hyn oll. Mae’r rhai sydd yn ymwybodol o gynlluniau y globaleiddwyr yn deall be sydd yn ceiso cael ei ymgeisio yma.
Does dim ond angen edrych ar gynllun ‘great reset‘ yr anetholedig World Economic Forum i greu grid o reolaeth ddigidol ar draws yr holl fyd fel ymateb honedig i Covid 19, i weld arwyddion o hynnu. Ac os nad ydych wedi ymchwilio i bethe o’r fath, mae gennych ddyletswydd i chi eich hun ac i eraill i wneud hynnu, beth bynnag eich tueddiadau neu blygiadau gwleidyddol.
Fel mae’r dyfyniad enwog sydd yn aml yn cael ei briodoli i Thomas Jefferson yn mynd, “Gwyliadwriaeth dragwyddol yw pris rhyddid’.
Prif lun gan