gan Gruffydd Meredith
Mae angen bod yn hynod wyliadwrus o’r ymateb a’r ddeddfwriaeth newydd sydd wedi ei basio yn sgil y Corona feirws , ac angen mynnu fod ein gwleidyddion yn gwyrdoi’r ddeddfwriaeth cyn gynted ac sy’n bosib er mwyn gwarchod ein rhyddid a’n hawliau dynol rwan ac yn y dyfodol.
Ni ddyle effeithiau niweidiol unrhyw feirws ein hatal rhag trafod a gofyn cwestiynau pwysig. Nid yw cwestiynu yn beryg. Ond mae atal rhyddid barn i ofyn cwestiynau a thrafod unrhyw bwnc, yn cynnwys cwestiynau a thrafodaeth ynglŷn â’r corona feirws, yn beryg.
Ac mae angen gallu trin a thrafod materion gwyddonol ac iechyd heb i hyn orfod amharu yn ddi angen ac afresymol ar ein hawliau a rhyddid sylfaenol. Mi allwn ofalu am a gwarchod iechyd y cyhoedd tra hefyd yn gofalu am a gwarchod ein hawliau sylfaenol. Nid wyf yn credu fod angen dewis rhwng un neu’r llall, rhwng du a gwyn.
Felly at y mater y dylai achosi consarn arbennig yn fy marn i – yr ymateb a’r ddeddf anhygoel o ddraconaidd gan yr awdurdodau a’r llywodraethau fel datrysiad honedig i’r sefyllfa gyda’r corona feirws.
Mi ddyle fod yn amlwg yn gyffredinol yn fy marn nad yw be a elwir yn corona feirws, be bynnag ei darddiad gwreiddiol a’i effaith, yn cael ei gam ddefnyddio gan rai elfennau o fewn corfforaethau, llywodraethau ac awdurdodau yn gyffredinol, i drio gorfodi system o ‘normalrwydd newydd’ gormesol arnom ni oll.
Yn sgil mater y corona feirws, mae ein cyrff llywodraethol wedi rhoi i’w hunain bwerau sydd yn tynnu ymaith ein hawliau dynol sylfaenol a’n rhyddid personol, ac sydd yn rhoi iddyn nhw y gallu, tu hwnt i bob proporsiwn, i ddechrau ceisio ein monitro a’n tracio lle bynnag yr ydym, a boed ein bod yn iach neu ddim, a’n gosod o dan be sydd yn anodd peidio ei ddisgrifio fel math o house arrest – os cawn eu ffordd hynny yw.
Rhuthrwyd trwodd y Corona Virus Bill – neu’r ‘Health Protection (Coronavirus Restrictions) (Wales) Regulations 2020’ i roi iddo ei deitl Saesneg llawn (nid oes fersiwn Cymraeg eto mae’n ymddangos). Mae hon yn ddogfen anferth o gannoedd o dudalennau a ymddangosodd, yn hynod gyfleus ac megis dros nos – gyda dogfennau deddfol o’r math fel arfer yn cymud misoedd neu flynyddoedd i’w drafftio.
Er bod y ddeddf yn gyffredinol ac mewn egwyddor, ru’n fath dros wledydd Prydain, mae agweddau o’r ddeddf yn amrywio yn dibynnu ar y wlad. Mewn chwe mis bydd aelodau San Steffan yn gallu cymud pleidlais ar gadw neu gael gwared a nifer o bwyntiau’r ddeddf sydd yn berthnasol i Loegr. Ond bydd pwyntiau sydd yn berthnasol i Gymru yn aros fel y maent am ddwy flynedd mae’n ymddangos – a chwe mis ychwanegol ar ben hynny os oes angen ac os nad ydi’r Gweinidogion Cymreig wedi penderfynu yn wahanol cyn hynnu. Er, gall weinidogion llywodraeth Cymru hefyd edrych ar a newid y man reoliadau eraill ar gyfer Cymru bob 21 diwrnod.
Felly be am y ddeddf newydd yma? Be mae o’n golygu i ni ar lawr gwlad?
-
Mae’r ddeddf yn un o’r rhai mwyaf draconaidd i’r Deyrnas Gyfunol yn gyffredinol ei weld mewn hanes modern. Mae’n rhoi’r hawl, er enghraifft, i’r heddlu stopio a chadw person maent yn syml yn ei hamau o fod yn heintus, er mwyn asesu’r person – a hynnu am gyfnod amhenodol ac mewn man o’u dewis.
-
Gall achosion llys hefyd gael eu cynnal dros ffon neu fidio, gyda barnwyr yn unig yn gallu penderfynu os dylai gwrandawiadau fod drwy fidio neu sain yn unig – gyda hyn hefyd yn arwain at y peryg y gall rheithgorau arferol llysoedd gael eu diddymu – rhywbeth hynod o beryg a bygythiad enfawr i gyfraith a chyfiawnder yn gyffredinol.
-
Mae’r ddeddf hefyd yn rhoi’r pŵer i’r awdurdodau ohirio etholiadau.
-
Mae’r ddeddf yn gallu gwrachod yn gyfreithiol y rhai sydd ‘yn trin y salwch’ – rhywbeth arbennig o berthnasol gellid tybio, os ydi brechlynnau sydd heb eu profi yn llawn yn cael eu rholio allan ym mhobman gan y corfforaethau rhyngwladol.
-
Mae’r ddeddf hefyd yn gwarchod yn gyfreithiol rhag unrhyw fethiant neu gamwedd clinigol o ran yr NHS pan yn trin y clefyd. Pam hyn ar gyfer y corona feirws yn arbennig ond nid unrhyw glefyd arall?
-
Mae’r ddeddf hefyd yn rhoi hawl i drefnwyr angladdau preifat i gofrestru marwolaethau, gyda dim ond un llofnod ei angen i wneud hyn, gan adael y maes yma yn agored i gamddefnyddio posib, ac, yn ôl nifer, yn golygu mewn rhai achosion y galle marwolaethau anghyfreithlon yn y ddalfa er enghraifft, gael eu cuddio.
-
Mae’r ddeddf hefyd yn rhoi hawl i ddim ond un doctor bennu fod person angen cael ei secsiynnu/sectionio yn hytrach na’r angen am ddwy farn doctor fel ydi’r arfer.
-
Un rhan amlwg o’r ddeddf ble mae gwahaniaeth amlwg rhwng Cymru a Lloegr yw Rheoliad 11 o’r ddeddf Gymreig. Yno gwelir fod gan nifer o awdurdodau ac aelodau o gyrff cyhoeddus na sydd yn heddlu, y pŵer i fynnu eu ffordd i mewn i adeilad neu gartref preifat – yr hyn a ddisgrifir fel ‘Power of Entry’:
“A relevant person may enter premises, if the relevant person (a) has reasonable grounds for suspecting that a requirement imposed by these Regulations is being, has been or is about to be contravened on the premises, and (b) considers it necessary to enter the premises for the purpose of ascertaining whether the requirement is being, has been or is about to be contravened”.
Yn ychwanegol mae rheoliad 11 (2) (a) o’r ddeddf Gymreig yn ychwanegu:
“A relevant person entering premises in accordance with Paragraph (1) may use reasonable force to enter the premises if necessary.” For the purposes of Regulation 11, a ‘relevant person’ includes persons such as a police constable and a PCSO.”
O dan y gyfraith flaenorol, doedd yr heddlu ddim ond gyda’r hawl i fynnu ei ffordd mewn i gartref neu adeilad preifat gyda warant gan lys, gyda chaniatad y perchennog neu os yn ceisio dal troseddwr tybiedig.
O ran llywodraeth ac aelodau Senedd Cymru rydym yn aros i weld sut fydd yr holl aelodau yn delio gyda’r angen i warchod hawliau a rhyddid sylfaenol dinasyddion Cymru yn gyffredinol, rwan ac yn y tymor hir. O edrych ar y peth yn wrthrychol, mae rhan fwyaf o hanes gwareiddiad hyd yma yn dangos mai cymud mwy a mwy o bŵer gan y bobol y mae llywodraethau yn ei wneud yn gyffredinol os nad yn cael eu hatal neu eu cwestiynu a’u scrwtineiddio yn effeithiol gan y bobol.
I orffen, mae’n dod yn gynyddol amlwg i lawer mae un o’r prif naratifau sydd hefyd yn cael ei wthio yn sgil hyn oll ydi’r syniad o brofi, tracio a facsîn gorfodol i bawb, ynghyd a chynyddu technoleg a chynllun biometrics ‘ID2020’. Bwriad cynllun ID 2020 mae’n debyg yw creu pasbort digidol unigryw ar gyfer pob unigolyn drwy ffurf meicrochip, technoleg nano neu sgan megis barcode/sgan inc sydd yn cael ei osod ar neu yn ein cyrff, ac sydd yn cynnwys ein holl fanylion personol pwysig (gan gynnwys manylion ariannol a bancio yn ôl nifer) ac a all ein tracio a’n monitro ni i gyd o fewn y surveillance state bondigrybwyll sydd yn ceisio cael ei wthio arnom yn gynyddol.
Mae llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn Llundain yn arbennig, yn dod o dan y chwyddwydr yn gynyddol erbyn hyn, gyda chwestiynau difrifol a hynod bwysig yn cael eu gofyn ynglŷn â phwy sydd wir mewn rheolaeth o’r llywodraeth yno. Mae nifer cynyddol o bobol yn pwyntio allan fod pwerau a dylanwad ‘Big Pharma’ a’r corfforaethau rhyngwladol sydd yn ceisio gwthio brechlynnau ar y llywodraeth ac felly ar yr holl boblogaeth (ac yn elwa yn fasnachol o hyn), yn afresymol ac yn hynod beryg.
Mae’r corfforaethau rhyngwladol honedig yma yn cynnwys y Gates Foundation, GAVI ac eraill, ac erbyn hyn wedi cyrraedd pwynt peryglus ym marn nifer cynyddol o bobol – sefyllfa sydd hefyd yn bygwth y system ddemocrataidd ei hun ym Mhrydain a thu hwnt. Y cwestiwn mawr ydi – pwy sydd wir yn rheoli llywodraeth Y Deyrnas Gyfunol erbyn hyn? Pobol etholedig yn dilyn cwrs democratiaeth ac atebolrwydd i’r bobol ynteu gorfforaethau rhyngwladol megis y Gates foundation, GAVI ac eraill, sydd wedi cymud drosodd yr awenau mewn coup sinistr sydd yn hynod niweidiol i’n rhyddid yn gyffredinol?
Mae’n ymddangos i fi fod ein llywodraethau a’r prif gyfryngau wedi eu prynu allan gan ambell biliwnydd anetholedig ynghyd a gwahanol gorfforaethau rhyngwladol. Nid llywodraeth sydd mewn pŵer yn Llundain bellach yn fy marn i, ond theatr ffarsical ble mae corfforaethau rhyngwladol yn rheoli a gwthio’r agenda, a’r cyfryngau yn ail adrodd yr agenda sydd yn cael ei roi iddynt fel parotiaid, gan esgus ei alw’n newyddion. Croeso i ffasgiaeth gorfforaethol a chomiwnyddol mewn geiriau eraill.
Os na fyddwn yn ofalus iawn ac yn gwthio yn ôl yn erbyn deddfau draconaidd megis y Corona Virus Bill, mae’n weddol anochel y bydd gwaeth i ddod – llawer iawn gwaeth. Mae’n ymddangos fod llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn lost cause ond mae ganddom lywodraeth ein hunain yng Nghymru sydd, gobeithio oleiaf, ddim eto o dan ddylanwad y corfforaethau ffarmalegol yn yr un modd nac ar yr un raddfa.
Mae cymdeithas wyliadwrus a gofalgar yn beth da wrth gwrs ond, pan mai’n dod at faterion i wneud gyda’r ddeddfwriaeth corona er enghraifft, onid oes peryg fod rhai pobol yn gallu cael eu gor ddylanwadu gan y cyfryngau a’r gweisg torfol Llundeinig i or-ymateb ac actio fel heddlu eu hunain, a ‘deud ar eraill’ am y peth lleiaf? Mae’r dechneg hynod effeithiol yma o hunan heddlua wedi ei ddefnyddio gan wladwriaethau droeon o’r blaen drwy hanes wrth gwrs, gan gynnwys yn yr Undeb Sofietaidd a Tsieina. Dwi’n deall fod ymateb o’r fath yn aml yn dod o ofn a/neu consarn dilys a diffuant ond allwn ni ddim gadael i ofn redeg cymdeithas.
Ac, am ba bynnag reswm, mae mwyafrif ein gwleidyddion wedi methu a siarad yn erbyn neu hyd yn oed ofyn cwestiynau sylfaenol am y ddeddf ddraconaidd yma – yn cynnwys gofyn cwestiynau pwysig o ran hawliau a rhyddid sylfaenol dinasyddion Cymru, rwan ac yn y dyfodol.
Ond mae wastad gobaith ar y gorwel. Mae’r pwysau yn cynyddu ar ein gwleidyddion i wyrdoi’r ddeddfwriaeth corona cyn gynted ac sy’n bosib, fel bod ein rhyddid a’n hawliau dynol yn cael eu gwarchod ar gyfer y presennol a’r dyfodol.
Yn ogystal â delio gyda’r holl fusnes corona ‘ma, mae elfen ysbrydol a hynod o bositif yn dod o hyn i gyd hefyd yn fy marn i. Mae’r wybodaeth am agenda hyll a gormesol y globaleiddwyr a’r elît corfforaethol, ffarmalegol a thechnolegol i geisio ein gormesu a’n caethiwo o dan eu totalitariaeth, rwan yn dechrau dod i’r amlwg i bawb ei weld.
Ac mae’r deffroad yma mewn ymwybyddiaeth yn wych i’w weld. Boed i fwy a mwy ddeffro, ac i fwy a mwy o olau gael ei ddisgleirio ar gelwyddau budur gelynion dynoliaeth.Yn y cyfamser, yn unol â beth a addawyd gan y gwleidyddion hynnu oedd yn awyddus i basio’r ddeddf corona yma mor
gyflym, rhaid tynnu lawr y ddeddf mor fuan â phosib er mwyn gadael i’n rhyddid a’n hawliau lifo nôl atom fel y dylai pethe fod.
Am fwy o wybodaeth a ffeithiau am Covid 19 a’r ymateb iddo ewch i wefan y grŵp Cymreig ‘We the People’ https://wethepeople.wales/
Mae sianel a gwefan UK column hefyd wedi bod yn arbennig o dda ar y pwnc arbennig yma.
I weld yr holl grantiau sydd wedi eu rhoi gan y Gates Foundation ewch i wefan y Gates Foundation.
Gwerth hefyd yw edrych ar wefan Swiss Propaganda Research am fwy o wybodaeth a thystiolaeth grediniol.
Mae’r OffGuardian hefyd yn un o lawer sydd wedi bod yn dda iawn yn adrodd yn wrthrychol ar fater y corona feirws.