gan Gruffydd Meredith
(Fersiwn byr gyntaf, fersiwn hirach islaw)
New World Order. One World Government. Termau sydd yn cael eu clywed yn gynyddol wrth i fwy o bobol ymchwilio a holi be sydd wir yn mynd mlaen yn ein byd.
Y pryder cynyddol yn syml yw hyn; ers degawdau os nad canrifoedd bellach, fod corfforaethau, bancwyr, arianwyr, unigolion a sefydliadau honedig philanthropic, think tanks, yr elfennau uchaf o fewn cymdeithasau cyfrinachol a chudd, teuluoedd hynod gyfoethog a dylanwadol,ynghyd ag elfennau o fewn awdurdodau, NGO’s (non governmental organisations), cyrff a llywodraethau ar draws y byd, oll yn cyd weithio a chyd gynllunio mewn gwahanol ffyrdd er mwyn ceisio mynd ati i greu un llywodraeth ganolog ar gyfer yr holl fyd.
Llywodraeth ganolog gydag un math o arian digidol canolog, un set o gyfreithiau rhyngwladol, un crefydd newydd ocwltaidd/lwsifferaidd, un llu arfog ac un system ganolog decnocrataidd, dechnolegol, gwyddonol a ffarmalegol o reoli unbenaidd a thotalitaraidd ar gyfer yr holl fyd.
Anodd iawn neu amhosib fydde trafod y pwnc yma heb hefyd sôn am gynlluniau Agenda 21 ac Agenda 2030 i reoli pob agwedd o’r holl fyd, ac a hefyd elwir yn ‘Ddatbygu Cynaliadwy’.
Mae hon yn frwydr yn ei hanfod rhwng gwledydd a chenhedloedd sofran, a’r rhai sydd am greu llywodraeth un byd canolog a thotalitaraidd ac sydd yn ystyried eu hunain yn rhan o’r mudiad rhyngwladol chwyldroadol. Ond hefyd brwydr rhwng yr unigolyn a rhyddid yr unigolyn yn erbyn pwerau hynod dywyll ac aflan (y pwerau tu ôl i’r pwerau) sydd yn ysu i’n rheoli ni oll – a gwaeth – a hynny drwy ddefnydd technoleg a gwyddoniaeth ormesol a grym a gormes yn gyffredinol.
Gellid symlhau hyn eto drwy ddweud mai brwydr ysbrydol ydi hon yn ei hanfod – rhwng grymoedd y da a grymoedd y drwg. Dwi’n dweud hynnu a phopeth arall ar ol blynyddoedd maith o ymchwil i’r holl fater – ymchwil wedi ei seilio ar feddwl agored a dyhead am y gwir ac nid ar ddilyn unrhyw ideoleg neu gredoau pendant. Neu, er fod credoau a diffiniadau ysbrydol pobol yn amrywio wrth gwrs, gellid dadlau, drwy fetaffor os dymunir, mai brwydr yw hon rhwng Duw y greadigaeth yma a lwsiffer a’r angylion ffaeleddus hynnu y dywedir iddynt gael eu taflu allan o’r nefoedd ac sydd am geisio mynnu rheolaeth o’r greadigaeth yn lle y creawdwr mawr.
Ac mae gosodiad ysbrydol neu Dduwiol o’r fath yn ormodedd i lawer dwi’n gwybod – daw aml i rolio llygid, ebychu rhwystredig a golwg o siom neu hyd yn oed wylltineb i lawer wrth glywed y fath beth. Ond nid oes rhaid i chi fod yn dilyn unrhyw grefydd neu goelio mewn Duw o anghenraid i fod yn rhan o’r frwydr yma yn erbyn y drwg – mae’r frwydr yn frwydr berthnasol i ddyfodol credwyr, anghredinwyr, atheistiaid a phobol agnostig – a phawb arall hefyd. A dim ond angen edrych o gwmpas y byd sydd angen i weld a theimlo fod drwg a diawledigrwydd yn amlygu ei hun yn fwy nac erioed, a hynny yn aml heb unrhyw wrthwynebiad.
Felly, i fynd at y pwynt, dyma grynodeb o rai o brif amcanion y globaleiddwyr am lywodraeth un byd:
- Dinistrio’r teulu traddodiadol gan fod y teulu traddodiadol yn uned greiddiol gryf sydd yn gallu amddiffyn unigolion, cymdeithas, cenedl, a gwareiddiad.
- Dinistrio a chael gwared â gwledydd ac o genedlgarwch a chenedlaetholdeb yn gyffredinol.
- Dinistrio hawliau etifeddiaeth
- Dinistrio hawliau eiddo personol a phreifat.
- Dinistrio a chreu cymhlethdodau a thensiynau di ri yn y berthynas naturiol rhwng dyn a dynes, ac i ymosod ar y syniad o ryw ei hun.
- Annog diwylliant a rheolaeth drwy dechnoleg a gwyddoniaeth a gwthio’r syniad o awtomeiddio, ‘transhumanism’ ac AI (Artificial Intelligence) sef y syniad o droi pobol mewn i endidau digidol a thechnolegol sydd yn ddibynnol ar ac yn cael eu rheoli gan dechnoleg a/neu wyddoniaeth, yn cynnwys y syniad o frechlynnau a/neu feicro chip neu farc gorfodol tebyg er mwyn tracio a rheoli pawb.
- I ddysgu pob math o rywioldeb i blant mor ifanc â phosib – popeth mae’n ymddangos, heblaw’r syniad o ryw a pherthynas ‘draddodiadol’ rhwng dyn a dynes o fewn perthynas neu uned deuluol heterorywiol.
- Tanseilio awdurdod athrawon.
- Mewnlifiad gorfodol ar sgel anferth (ac ar draws y byd yn derfynol) er mwyn dinistrio hunaniaeth a diwylliant gwledydd a chenhedloedd, fel bod neb yn unlle gydag unrhyw hunaniaeth a diwylliant unigryw i ymladd ar ei ran a’i warchod.
- Rhyfeloedd ac ofn di derfyn yn y cyfryngau a chreu bogeymen a ffigyrau terfysgol a bygythiadau newydd megis terfysg, rhyfeloedd, materion a pandemics meddygol ayb yn gyson er mwyn cadw pawb mewn ofn a phryder-ac felly yn haws eu rheoli a’u cyfeirio i’r cyfeiriadau/corlannau gwleidyddol ‘gorau’.
- Creu rhaniadau a rhwygiadau rhwng gwahanol grwpiau, diwylliannau a hiliau mewn cymdeilthas (gan ddefnyddio critical race theory Marcsiaeth ddiwyllianol yn enwedig yn achos gwahanol hiliau) er mwyn eu rhannu, eu rheoli a’u dinistrio (a hefyd elwir yn gyffredinol yn gywirdeb gwleidyddol / Marcsiaeth ddiwyllianol) ac er mwyn ceisio gosod y seiliau ar gyfer system un byd newydd.
- Dinistrio pob crefydd ‘un Duw’ swyddogol, yn arbennig Cristnogaeth a gwerthoedd Cristnogol, fel bod ideoleg a meddylfryd o dotalitariaeth lwsifferaidd newydd yn gallu cael ei orfodi ar ddynoliaeth yn lle.
- System gyfreithiol annheg sydd yn ochri gyda’r troseddwyr.
- Newid drwy’r amser ac ym mhob maes yn ogystal â chreu mwy o fiwrocratiaeth i greu dryswch ac ansicrwydd, ac i geisio dinistrio morâl.
- Creu troseddau hil newydd di ben draw a chreu troseddau tebyg ynglŷn â defnydd o eiriau arbennig er mwyn rheoli iaith, mynegiant a rhyddid barn yn gyffredinol.
- Creu ac annog byd heb ffiniau ac un diwylliant global unffurf drwy gorfforaethau a sefydliadau rhyngwladol a chael gwared ag amrywiaeth diwylliannol gwledydd a chenhedloedd y byd.
- Ymosod ar ferched a chryfderau a rhinweddau greiddiol fenywaidd a benyweidd-dra drwy, yn enwedig ymosod a dilorni dewis a rhyddid personol merch i fagu teulu a rhedeg y cartref, fel rhywbeth hen ffasiwn, cul ac ‘wedi ei ormesu gan batriarchaeth’ – ac yn arbennig pan fo merched yn ifanc ac ar eu mwyaf ffrwythlon. Yn lle maent wedi annog merched i fod yn uned gonsumerist sydd yn deyrngar i gonsumerism, i gwmnïau a chorfforaethau ac i’r wladwriaeth yn hytrach nag i’w teuluoedd, eu gwyr ac i gymdeithas a’r genedl. Golyga hyn hefyd fod y corfforaethau a’r wladwriaeth yn gwneud pres ychwanegol o drethi incwm a bod y wladwriaeth yn gallu cael ‘at y plant’ er mwyn eu indoctrineiddio yn well ac o oed cynharach – gwerth nodi hefyd, yn ôl yr awduron Ellen Chesler, Peter J Johnson a John Ensor Harr, fod y sefydliad teuluol hynod ariannol, y Rockerfellas foundation er enghraifft, wedi bod yn un corff hynod gefnogol i annog gymaint â phosib o ferched i weithio yn yr Unol Daleithiau (ac a wedyn ddigwyddodd ym Mhrydain a gweddill Ewrop) o’r 1960’au ymlaen, ynghyd a bod yn flaenllaw mewn hybu’r ‘chwyldro rhyw’ a’r pil atal genhedlu drwy gefnogi gwaith Margaret Sanger ac eraill.
- Yn yr un modd a’r pwynt uchod, ymosod ar ddynion a chryfderau creiddiol gwryw, a gwneud y rhinweddau yma i fod yn rhinweddau cul, hen ffasiwn a ‘chynhenid ormesol a threisgar’. Ac yn yr un modd, annog dynion i fod yn ‘uned gonsumerist’, i fod yn deyrngar i gwmnïau, corfforaethau ac i’r wladwriaeth yn hytrach nag i’w teuluoedd, eu gwragedd ac i gymdeithas a’r genedl.
- Ymosod ar unrhyw fath o brydferthwch, harddwch a naturioldeb yn gyffredinol, yn cynnwys mewn celf a’r diwylliannau creadigol.
- Annog ewthanasia fel rhywbeth moesol, derbyniol a normal.
- Annog dibyniaeth ar y corfforaethau a/neu’r wladwriaeth fel y pen teulu newydd.
- Dymio lawr popeth yn cynnwys y cyfryngau.
- Cael gwared o bres/arian corfforol go iawn ac yn ei le cael un math o arian digidol canolog sydd yn golygu fod pawb a phopeth yn haws i’w rheoli, ei manipiwleiddio a’u monitro.
Sut?
Mae’r gobaleiddwyr yn defnyddio pa bynnag dechneg neu dechnegau sydd yn gweithio i drio cyrraedd eu nod o reolaeth absoliwt – lle bynnag y boed hynnu ar y sbectrwm gwleidyddol – o’r chwith eithafol i’r dde eithafol a phob man yn y canol, a gan ddefnyddio pob ymgyrch, symudiad a meddylfryd gwleidyddol – o gyfalafiaeth monopoli, ffasgiaeth, neo rhyddfrydiaeth a liberteriaeth, i gomiwnyddiaeth, sosialaeth ac anarchiaeth.
A thrwy ddefnyddio hefyd pa bynnag faterion sy’n helpu i gyflawni’r ymgais yma am reolaeth lawn – o faterion sy’n ymwneud ag iechyd, bwyd, yr amgylchedd, diogelwch, hil a materion i wneud gyda hil a diwylliant (gan ddefnyddio ‘critical race theory’ Marcsiaeth ddiwyllianol yn enwedig i’r diben yma), mudo gorfodol ledled y byd neu beth bynnag arall all helpu’r nod terfynol o gael mwy o reolaeth absoliwt. Heb anghofio pŵer cwmnïau technoleg, ‘Big Pharma’ a’r diwydiant ffarmlaegol a brechlynu, a hefyd y diwydiant militaraidd rhyngwladol.
A pham mae’n dod at arian a chreu arian, mae llywodraethau ar draws y byd yn mynnu benthyg mwy a mwy gan fanciau ac endidau preifat rhyngwladol, gan eu caethiwo i fwy o ddyled ddi ddiwedd yn y broses. A hynnu yn lle creu arian cwbl di ddyled eu hunain fel mae gan bob gwlad perffaith hawl ei wneud – yr hyn a elwir yn ‘bres di ddyled’ neu sovereign money y mae nifer fawr o grwpiau yn ei ei hyrwyddo ac sydd wedi cael ei ddefnyddio yn llwyddianus drwy hanes.
Fel sydd wedi ei grybwyll, maent hefyd wedi llwyddo i reoli a manipiwleiddio diwylliant a chreu be a elwir yn agenda hynod lwyddianus cywirdeb gwleidyddol neu Farcisaeth ddiwyllianol, sydd yn ffordd o reoli diwylliant, pobol a chymdeithas, creu rhaniadau a’i ddinistrio a’i ddymchwel oddi fewn. Fel soniwyd, mae ‘critical race theory’ Marcsiaeth ddiwyllianol hefyd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r agenda yma pan mae’n dod at greu rhaniadau a thensiynau rhwng gwahanol bobol a grwpiau mewn cymdeithas.
Yn ogystal a chreu rhaniadau – rhannu a choncro, mae’r dechneg o gompartmentileiddio hefyd yn cael ei defnyddio yn gyson, ble y gall unigolion neu grwpiau weithio o fewn gwahanol adrannau ac is adrannau o fudiad, gorff neu gorfforaeth, heb syniad o be mae adrannau neu unigolion eraill yn ei wneud o fewn yr un corff. Y nod yn hyn oll yw rheolaeth absoliwt sut bynnag ei gyrheiddir.
Trechu’r cynllun gormesol yma
Does neb ohonom ni bobol clai meidrol yn berffaith wrth gwrs, Ond ble gallwch, ymhyfrydwch mewn moesoldeb, cyfiawnder ac yn eich cenedl. Peidiwch â llyncu’r holl bropaganda sydd yn cael ei bwmpio allan yn y cyfryngau yn ddi ddiwedd, na derbyn yr ymosodiad di derfyn ar ein hawliau dynol a normau gwareiddiad. Cadwch feddwl agored a meddyliwch dros eich hunain. Byddwch yn hunangynhaliol a helpwch eich teulu, eich cymdogion, eich cymdeithas, a’ch gwlad i fod mor hunangynhaliol â phosib, mewn bwyd, nwyddau, sgiliau a diogelwch yn gyffredinol.
Ac fel y cyfeiriwyd ato eisoes, edrychwch ar sut y gallai creu arian di-ddyled ryddhau ein neu eich gwlad neu hyd yn oed eich cymuned leol rhag gafael caethiwus dyled di ddiwedd y mae’r globaleiddwyr mor hoff o’i orfodi ar holl wledydd y byd.
Ystyriwch yr elfen ysbrydol holl bwysig i hyn i gyd. Ymchwiliwch a thrafodwch y pethau yma, eu trafod gyda teulu a phobol rydych yn ei abod os yn bosib. Rhowch bwysau er eich gwleidyddion a’u deffro i’r gwirionedd y mae’n rhaid iddynt ei ddeall a gweithredu arno os ydynt yn mynd i fod o unrhyw bwrpas i gymdeithas. Os nad yw eich gwleidyddion lleol neu genedlaethol yn barod i ystyried a gweithredu yn sgil y dystiolaeth sydd ar gael, sefwch eich hunain ac anogwch eich ffrindiau i sefyll – nid oes bwys pa mor boblogaidd yr ydych – y peth pwysig yw ymladd er lles y gwir a dros wareiddiad. Mae’r holl systemau o’n cwmpas yn bwdwr. Rhaid dechre eto. A rhaid ymladd a threchu y barbariaid wrth ein drws.
Ephesiaid 6:12 “Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd.” (Beibl Cymraeg William Morgan)
Am fersiwn hir o’r erthygl yma gweler islaw
___________________________________
Y NWO – Y New World Order – be ydio, be mae o isio a sut mae ei drechu?
gan Gruffydd Meredith
New World Order. One World Government. Termau sydd yn cael eu clywed yn gynyddol wrth i fwy o bobol ymchwilio a holi be sydd wir yn mynd mlaen yn ein byd.
Y pryder cynyddol yn syml yw hyn; ers degawdau os nad canrifoedd bellach, fod corfforaethau, bancwyr ac arianwyr rhyngwladol, ynhghyd ag unigolion a sefydliadau honedig philanthropic, think tanks, yr elfennau uchaf o fewn cymdeithasau cyfrinachol megis y seiri rhyddion a chymdeithasau cudd tebyg, teuluoedd hynod gyfoethog a dylanwadol,ynghyd ag elfennau o fewn awdurdodau, NGO’s (non governmental organisations), cyrff a llywodraethau ar draws y byd, oll yn cyd weithio a chyd gynllunio mewn gwahanol ffyrdd er mwyn ceisio mynd ati i greu un llywodraeth ganolog ar gyfer yr holl fyd, gydag un math o arian digidol canolog, un set o gyfreithiau rhyngwladol, un crefydd newydd ocwltaidd/lwsifferaidd, un llu arfog ac un system ganolog decnocrataidd, dechnolegol, gwyddonol a ffarmalegol o reoli unbenaidd a thotalitaraidd ar gyfer yr holl fyd. Neu awdurdodaeth ffasgaidd fyd eang.
Anodd iawn neu amhosib fydde trafod y pwnc yma heb hefyd sôn am gynlluniau Agenda 21 ac Agenda 2030 i reoli pob agwedd o’r holl fyd, ac a hefyd elwir yn ‘Ddatbygu Cynaliadwy’.
Mae angen i ni ddeall fod ganddom frwydr go iawn ar ein dwylo a bod amser yn brin i stopio hyn rhag digwydd. Mae hon yn frwydr, yn ei hanfod, rhwng gwledydd a chenhedloedd sofran, a’r rhai sydd am greu llywodraeth un byd canolog a thotalitaraidd ac sydd yn ystyried eu hunain yn rhan o’r mudiad rhyngwladol chwyldroadol. Ond hefyd brwydr rhwng yr unigolyn a rhyddid yr unigolyn yn erbyn pwerau hynod dywyll ac aflan (y pwerau tu ôl i’r pwerau) sydd yn ysu i’n rheoli ni oll – a gwaeth – a hynny drwy ddefnydd technoleg a gwyddoniaeth ormesol, a grym a gormes yn gyffredinol.
Gellid symlhau hyn eto drwy ddweud mai brwydr ysbrydol ydi hon yn ei hanfod – rhwng grymoedd y da a grymoedd y drwg. Dwi’n dweud hynnu a phopeth arall ar ol blynyddoedd maith o ymchwil i’r holl fater – ymchwil wedi ei seilio ar feddwl agored a dyhead am y gwir ac nid ar ddilyn unrhyw ideoleg neu gredoau pendant. Neu, er fod credoau a diffiniadau ysbrydol pobol yn amrywio wrth gwrs, gellid dadlau, drwy fetaffor os y dymunir, mai brwydr yw hon rhwng Duw y greadigaeth yma a lwsiffer a’r angylion ffaeleddus hynnu y dywedir iddynt gael eu taflu allan o’r nefoedd ac sydd am geisio mynnu rheolaeth o’r greadigaeth yn lle y creawdwr mawr.
Mae gosodiad ysbrydol a Duwiol o’r fath yn ormodedd i lawer dwi’n gwybod – daw aml i rolio llygid, ebychu rhwystredig a golwg o siom neu hyd yn oed wylltineb i lawer wrth glywed y fath beth. Ond nid oes rhaid i chi fod yn dilyn unrhyw grefydd neu goelio mewn Duw o anghenraid i fod yn rhan o’r frwydr yma yn erbyn y drwg – mae’r frwydr yn frwydr berthnasol i ddyfodol credwyr, anghredinwyr, atheistiaid a phobol agnostig – a phawb arall hefyd. A dim ond angen edrych o gwmpas y byd sydd angen i weld a theimlo fod drwg a diawledigrwydd yn amlygu ei hun yn fwy nac erioed, a hynny yn aml heb unrhyw wrthwynebiad.
Felly, i fynd at y pwynt, dyma grynodeb o rai o brif amcanion y globaleiddwyr am lywodraeth un byd:
-
-
- Dinistrio’r teulu traddodiadol gan fod y teulu traddodiadol yn uned greiddiol gryf sydd yn gallu amddiffyn unigolion, cymdeithas, cenedl, a gwareiddiad.
-
- Dinistrio a chael gwared â gwledydd ac o genedlgarwch a chenedlaetholdeb yn gyffredinol.
- Dinistrio hawliau etifeddiaeth
- Dinistrio hawliau eiddo personol a phreifat.
- Dinistrio a chreu cymhlethdodau a thensiynau di ri yn y berthynas naturiol rhwng dyn a dynes, ac i ymosod ar y syniad o ryw ei hun.
- Annog diwylliant a rheolaeth drwy dechnoleg a gwyddoniaeth a gwthio’r syniad o awtomeiddio, ‘transhumanism’ ac AI (Artificial Intelligence) sef y syniad o droi pobol mewn i endidau digidol a thechnolegol sydd yn ddibynnol ar ac yn cael eu rheoli gan dechnoleg a/neu wyddoniaeth, yn cynnwys y syniad o frechlynnau a/neu feicro chip neu farc gorfodol tebyg er mwyn tracio a rheoli pawb.
-
- I ddysgu pob math o rywioldeb i blant mor ifanc â phosib – popeth mae’n ymddangos, heblaw’r syniad o ryw a pherthynas ‘draddodiadol’ rhwng dyn a dynes o fewn perthynas neu uned deuluol heterorywiol.
-
- Tanseilio awdurdod athrawon.
- Mewnlifiad gorfodol ar sgel anferth (ac ar draws y byd yn derfynol) er mwyn dinistrio hunaniaeth a diwylliant gwledydd a chenhedloedd, fel bod neb yn unlle gydag unrhyw hunaniaeth a diwylliant unigryw i ymladd ar ei ran a’i warchod.
-
- Rhyfeloedd ac ofn di derfyn yn y cyfryngau a chreu bogeymen a ffigyrau terfysgol a bygythiadau newydd megis terfysg, rhyfeloedd, materion a pandemics meddygol ayb yn gyson er mwyn cadw pawb mewn ofn a phryder-ac felly yn haws eu rheoli a’u cyfeirio i’r cyfeiriadau/corlannau gwleidyddol ‘gorau’.
-
- Creu rhaniadau a rhwygiadau rhwng gwahanol grwpiau, diwylliannau a hiliau mewn cymdeilthas (gan ddefnyddio critical race theory Marcsiaeth ddiwyllianol yn enwedig yn achos gwahanol hiliau) er mwyn eu rhannu, eu rheoli a’u dinistrio (a hefyd elwir yn gyffredinol yn gywirdeb gwleidyddol / Marcsiaeth ddiwyllianol) ac er mwyn ceisio gosod y seiliau ar gyfer system un byd newydd.
-
- Dinistrio pob crefydd ‘un Duw’ swyddogol, yn arbennig Cristnogaeth a gwerthoedd Cristnogol, fel bod ideoleg a meddylfryd o dotalitariaeth lwsifferaidd newydd yn gallu cael ei orfodi ar ddynoliaeth yn lle.
-
- System gyfreithiol annheg sydd yn ochri gyda’r troseddwyr.
-
- Newid drwy’r amser ac ym mhob maes yn ogystal â chreu mwy o fiwrocratiaeth i greu dryswch ac ansicrwydd, ac i geisio dinistrio morâl.
-
- Creu troseddau hil newydd di ben draw a chreu troseddau tebyg ynglŷn â defnydd o eiriau arbennig er mwyn rheoli iaith, mynegiant a rhyddid barn yn gyffredinol.
- Creu ac annog byd heb ffiniau ac un diwylliant global unffurf drwy gorfforaethau a sefydliadau rhyngwladol a chael gwared ag amrywiaeth diwylliannol gwledydd a chenhedloedd y byd.
-
- Ymosod ar ferched a chryfderau a rhinweddau greiddiol fenywaidd a benyweidd-dra drwy, yn enwedig ymosod a dilorni dewis a rhyddid personol merch i fagu teulu a rhedeg y cartref, fel rhywbeth hen ffasiwn, cul ac ‘wedi ei ormesu gan batriarchaeth’ – ac yn arbennig pan fo merched yn ifanc ac ar eu mwyaf ffrwythlon. Yn lle maent wedi annog merched i fod yn uned gonsumerist sydd yn deyrngar i gonsumerism, i gwmnïau a chorfforaethau ac i’r wladwriaeth yn hytrach nag i’w teuluoedd, eu gwyr ac i gymdeithas a’r genedl. Golyga hyn hefyd fod y corfforaethau a’r wladwriaeth yn gwneud pres ychwanegol o drethi incwm a bod y wladwriaeth yn gallu cael ‘at y plant’ er mwyn eu indoctrineiddio yn well ac o oed cynharach – gwerth nodi hefyd, yn ôl yr awduron Ellen Chesler, Peter J Johnson a John Ensor Harr, fod y sefydliad teuluol hynod ariannol, y Rockerfellas foundation er enghraifft, wedi bod yn un corff hynod gefnogol i annog gymaint â phosib o ferched i weithio yn yr Unol Daleithiau (ac a wedyn ddigwyddodd ym Mhrydain a gweddill Ewrop) o’r 1960’au ymlaen, ynghyd a bod yn flaenllaw mewn hybu’r ‘chwyldro rhyw’ a’r pil atal genhedlu drwy gefnogi gwaith Margaret Sanger ac eraill.
-
- Yn yr un modd a’r pwynt uchod, ymosod ar ddynion a chryfderau creiddiol gwryw, a gwneud y rhinweddau yma i fod yn rhinweddau cul, hen ffasiwn a ‘chynhenid ormesol a threisgar’. Ac yn yr un modd, annog dynion i fod yn ‘uned gonsumerist’, i fod yn deyrngar i gwmnïau, corfforaethau ac i’r wladwriaeth yn hytrach nag i’w teuluoedd, eu gwragedd ac i gymdeithas a’r genedl.
-
- Ymosod ar unrhyw fath o brydferthwch, harddwch a naturioldeb yn gyffredinol, yn cynnwys mewn celf a’r diwylliannau creadigol.
-
- Annog ewthanasia fel rhywbeth moesol, derbyniol a normal.
-
- Annog dibyniaeth ar y corfforaethau a/neu’r wladwriaeth fel y pen teulu newydd.
-
- Dymio lawr popeth yn cynnwys y cyfryngau.
-
- Cael gwared o bres/arian corfforol go iawn ac yn ei le cael un math o arian digidol canolog sydd yn golygu fod pawb a phopeth yn haws i’w rheoli, ei manipiwleiddio a’u monitro.
-
Sut?
Mae’r gobaleiddwyr yn defnyddio pa bynnag dechneg neu dechnegau sydd yn gweithio i drio cyrraedd eu nod o reolaeth absoliwt – lle bynnag y boed hynnu ar y sbectrwm gwleidyddol – o’r chwith eithafol i’r dde eithafol a phob man yn y canol, a gan ddefnyddio pob ymgyrch, symudiad a meddylfryd gwleidyddol – o gyfalafiaeth monopoli, ffasgiaeth, neo rhyddfrydiaeth a liberteriaeth, i gomiwnyddiaeth, sosialaeth ac anarchiaeth.
A thrwy ddefnyddio pa bynnag faterion sydd yn helpu i gyflawni’r ymgais am reolaeth yma – o faterion i wneud gydag arian, iechyd, bwyd, yr amgylchedd, diogelwch, hil a materion i wneud gyda hil a diwylliant (gan ddefnyddio ‘critical race theory’ Marcsiaeth ddiwyllianol yn enwedig i’r diben yma), mudo gorfodol ar draws y byd neu pa bynnag beth arall posib neith helpu i gael mwy o reolaeth absoliwt. Heb anghofio pŵer cwmnïau technoleg, a ‘Big Pharma’ a’r diwydiant ffarmalegol a brechlynnu sydd yn ceisio eu gorau i gael eu crafangau i mewn i fywydau (a chyrff) pawb. Heb anghofio hefyd y diwydiant militaraidd rhyngwladol.
A pham mae’n dod at arian a chreu arian, mae llywodraethau ar draws y byd yn mynnu benthyg mwy a mwy gan fanciau ac endidau preifat rhyngwladol, gan eu caethiwo i fwy o ddyled ddi ddiwedd yn y broses. A hynnu yn lle creu arian cwbl di ddyled eu hunain fel mae gan bob gwlad perffaith hawl ei wneud – yr hyn a elwir yn ‘bres di ddyled’ neu sovereign money y mae nifer fawr o grwpiau yn ei ei hyrwyddo ac sydd wedi cael ei ddefnyddio yn llwyddianus drwy hanes.
Mae’n bwysig hefyd sylweddoli fod y pwerau global yma yn camddefnyddio’r panic ac ofn am yr amgylchedd a materion gwyrdd fel arf i helpu i annog y galw am lywodraeth ganolog i’r byd ac i geisio mynnu rheolaeth ar holl bobol, holl dir a holl adnoddau’r byd. Eto, does dim ond angen darllen, deall a dadansoddi rhai o feiblau’r globaleiddwyr – Agenda 21/Agenda 2030 a’r cwlt o ‘ddatblygu cynaliadwy’ i ddeall hyn.
Pan glywch wleidyddion a phwysigion yn siarad am a gwthio unrhyw beth i wneud gyda datblygu cynaliadwy, rhaid cofio mai nid siarad am gadwraeth ac am warchod natur, bywyd gwyllt a’n hamgylchedd y maent ond yn hytrach am gynllun rhyngwladol nad oes neb ohonom wedi gofyn na phleileiso amdano, i geisio tynnu ffwrdd ein hawliau ac i greu llywodraeth un byd canolog sydd gyda rheolaeth dros bawb a phopeth, dros holl eiddo a thros holl adnoddau y byd. Yn yr un modd mae partneriaethau preifat-gyhoeddus yn un o hoff arfau y globaleiddwyr, yn arbennig pan mai’n dod at lywodraethau a llywodraeth leol.
A’r tebygolrwydd fydde mae system globaleiddiol yn cael ei reoli gan gorfforaethau/ffasgiaeth gorfforaethol unbenaidd fydde ar dop y system tra y bydde ni blebs yn cael ein rheoli mewn system gomiwnyddol oddi tano boed hynnu yn amlwg i ni neu ddim – gellid edrych ar y system bresennol yn Tsieina am enghraifft o sut y gall hyn ddod i fodolaeth unrhyw le yn y byd. Gellid dadlau mai dyma bron yw’r system rydym ynddi yn barod beth bynnag.
Ac i wneud hyn oll mi fyddent angen cario mlaen i , yn araf deg, dynnu ffwrdd mwy a mwy o’n hawliau sifil a dynol sylfaenol, yn ogystal â’n heiddo personol ac adnoddau’r byd, nes ein bod yn ddim gwell na chaethweision o fewn system ffiwdal dechnolegol unbenaidd yn cael ein gwylio a’n tracio yn ddiddiwedd gan y surveillance state, y dinasoedd ‘Smart’ a thechnoleg AI a’r ‘internet of things’ syrffedus. Ac yn gaethweision i’r system dyled di ddiwedd a diawl ‘y llog a’r llwgu’.
Cywirdeb gwleidyddol, creu rhaniadau, rhannu a choncro a chompartmentileiddio, a threfn o anrhefn
Fel sydd wedi ei grybwyll, maent hefyd wedi llwyddo i reoli a manipiwleiddio diwylliant a chreu be a elwir yn agenda hynod lwyddianus cywirdeb gwleidyddol neu Farcisaeth ddiwyllianol, sydd yn ffordd o reoli diwylliant, pobol a chymdeithas, creu rhaniadau a’i ddinistrio a’i ddymchwel oddi fewn. Fel soniwyd, mae ‘critical race theory’ Marcsiaeth ddiwyllianol hefyd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r agenda yma pan mae’n dod at greu rhaniadau a thensiynau rhwng gwahanol bobol a grwpiau mewn cymdeithas.
Mae’r globaleidwyr hefyd yn arbenigo ar greu rhaniadau a gelyniaethau rhwng cymaint â phosib o wahanol bobol a grwpiau sydd yn cynrychioli gymaint â phosib o wahanol ddiddordebau. Oherwydd mae annog gwahanol bobol i ymladd ymysg ei gilydd ac i wanhau a ‘chanslo ei gilydd allan’, mewn sawl achos, yn gwneud gwaith y globaleiddwyr yn haws ac yn caniatáu iddynt elwa o’r rhaniadau a’r llanast yma ac i gynyddu ei pŵer a’u rheolaeth o ganlyniad – a hynnu gan amla drwy gyflwyno ‘trefn newydd’ allan o’r anrhefn. Hyn oll tra yn annog ni’r bobol i gynyddu ein dibyniaeth ar fod yn unedau o gonsumers materol yn ein bybls digidol di ddiwedd.
Yn ogystal a chreu rhaniadau – rhannu a choncro, mae’r dechneg o gompartmentileiddio hefyd yn cael ei defnyddio yn gyson, ble y gall unigolion neu grwpiau weithio o fewn gwahanol adrannau ac is adrannau o fudiad, gorff neu gorfforaeth, heb syniad o be mae adrannau neu unigolion eraill yn ei wneud o fewn yr un corff. Mae hyn yn wir am y rhan fwyaf o aelodau o’r heddlu a’r fyddin, yn ogystal â nifer o fudiadau cudd gellid tybio.Y nod yn hyn oll yw rheolaeth absoliwt sut bynnag ei gyrheiddir. Y nod yn hyn oll yw rheolaeth absoliwt, sut bynnag ei gyrheiddir.
Problem, ymateb, datrysiad (problem, reaction solution / yr Hegelian dialectic)
Heb anghofio’r dechneg a elwir yn aml yn P.R.S. – problem-reaction-solution – a hefyd elwir yn y Hegelian dialectic. Techneg ddefnyddiol yw hon gan y globaleiddwyr a rheiny mewn pŵer, o greu problem yn fwriadol er mwyn cyflwyno’r newid y maent isio ei weld yn ffurf yr ymateb i’r broblem. Mewn geiriau eraill tric o gyflwyno newid lle nad oes angen.
Mae hyn hefyd yn gysylltiedig gydag ymgyrchoedd ‘False flags‘ ble mae pwerau drwg neu dwyllodrus o fewn llywodraethau neu fudiadau yn caniatáu neu drefnu ymosodiad ar eiddo neu ar eu gwlad eu hunain er mwyn cael esgus i greu ymateb a gweithredoedd i ddial ar yr ymosodiad hynnu. Daw’r ymateb wedyn drwy feio pobol, grwpiau neu wledydd ar gam am yr ymosodiad a thrwy greu cyfreithiau newydd sydd yn cyfyngu ar neu ddwyn ymaith ryddid a hawliau sylfaenol y bobol.
Honnir er enghraifft fod yr ymosodiad ar adeilad Reichstag sef senedd Bundestag yr Almaen yn 1933, yn un enghraifft o ymosodiad false flag – ymosodiad dienw ac anhysbys a alluogodd Hitler i gymud ffwrdd hawliau sifil y bobologaeth a dod a regime unbenaidd i fodolaeth yn y wlad honno. Gellir adio i’r rhestr yma nifer enfawr o ddigwyddiadau eraill drwy hanes.
Crefydd
Mae’r pwerau yma, gyda’u credoau ocwltaidd yn aml iawn, hefyd wedi ffindio ei ffordd mewn i lefelau uwch pob crefydd erbyn hyn, gan yn araf fanipiwleiddio ac arwain y sefydliadau yma i’w naratif byd eang selotaidd a gwrth Dduw nhw, a’u dinistrio oddi fewn yn y broses.
Bara a syrcas, a rheoli a manipiwleiddio diwylliant
Ac yn y cyfamser, tra mae’r holl agenda sinistr yma yn mynd ymlaen yn y byd, rydym ni’r plebs yn cael ein dallu a’n hudo gan dechnoleg, adloniant a chwaraeon 24 awr y dydd, a gan raglenni coginio neu ba bynnag drifia arall yn ddiddiwedd – yr hyn a elwir yn ‘fara a syrcas’ – rhywbeth y perffeithiodd y Rhufeiniad mae’n debyg, cyn i Rufain ddisgyn o dan bwysau ei phydredd ei hun.
Cred nifer o’r globaleiddwyr hefyd yw ei fod yn bwysig iddynt ddatgelu eu cynlluniau i’r byd drwy adroddiadau, drwy symbyliaeth a/neu drwy ffuglen – yr hyn a elwir yn aml yn ‘Revelation of the method’ ac, yng nghontecst ffilmiau a ffuglen, yr hyn a elwir yn ‘predictive programming.’
Mae rheoli diwylliant, ffasiwn a’r cyfryngau yn gyffredinol yn rhan hanfodol o’r cynllun yma o greu byd un llywodraeth ganolog – gyda rheolaeth lawn o ran fwyaf o’r newyddion a materion cyfoes yn rhan holl bwysig o hyn – fel sydd i’w weld mewn lle yn barod i raddau helaeth.
Fel nodwyd, un o’r prif bethe cyntaf mae’r globaleiddwyr hefyd wedi bod yn, ac yn ymosod arno, ydi’r teulu traddodiadol, gan mai’r teulu traddodiadol yw’r uned gryf sylfaenol a greiddiol sydd yn bodoli yn annibynnol ac yn edrych ar ôl ei gilydd, ac sydd hefyd yn helpu i greu a chynnal gwerthoedd a chymdeithas unedig ac felly cenhedloedd, gwledydd a gwareiddiad.
Mae’r globaleiddwyr wedi bod yn gweithio yn galed ers degawdau/canrifoedd i geisio tanseilio a dinistrio nid yn unig y syniad o deuluoedd traddodiadol cryf ac unedig ond hefyd gwledydd a chenhedloedd amrywiol ac unigryw’r byd – hyn oll er mwyn gallu gwneud lle i un system ganolog i’r byd a fydde, yn anochel, yn un gwbl orthrymus.
Ac erbyn hyn, daw y rhan fwyaf o naratif a meddylfryd diwylliant prif ffrwd modern, yn gyffredinol, o agenda cywirdeb gwleidyddol – a elwid hefyd gan lawer yn Farcsiaeth ddiwylliannol ynghyd a’i critical theory bondigrybwyll.
Daw’r agenda fwriadol sybfyrsif yma o Ysgol Frankfurt yn wreiddiol ac mae wedi cael ei wthio yn ddi baid drwy’r system addysg, colegau a phrifysgolion a thrwy ddiwylliant a’r prif gyfryngau ac adloniant yn gyffredinol (ffilmiau/rhaglenni teledu, gemau fidio, cerddoriaeth a’r we) ar draws llawer o’r byd ers degawdau lawer bellach.
Pwrpas yr agenda yma yw gweddnewid, tanseilio a rheoli diwylliant er mwyn helpu i ddinistrio’r syniad o unrhyw sefydlogrwydd, o draddodiad cynhenid, o rinweddau gwryw a benyw gynhenid, o’r teulu traddodiadol, o wledydd a chenhedloedd gyda ffiniau, ac o foesoldeb yn gyffredinol, drwy ddinistrio a thanseilio’r pethe yma drwy ddiwylliant identity politics a ‘wokery’ adweithiol sydd wedi bod yn cynyddu mewn amlygrwydd ac eithafiaeth ers chwedegau’r ganrif ddiwethaf yn enwedig. Y bwriad hefyd felly yw dinistrio holl normau cymdeithas er mwyn gwneud pobol yn haws i’w rheoli a’u cyfeirio tuag at un diwylliant iwnifformaidd, unffurf, rhyngwladol di wraidd na sydd yn perthyn i un gwlad neu bobol yn arbennig.
Ffeministiaeth fodern, a materion trans
Fel soniwyd, mae elfennau creiddiol a naturiol dyn a dynes a’r berthynas rhyngthynt hefyd yn cael ei ymosod arno yn ddi baid o dan y cynllun am lywodraeth ganolog i’r byd. Globaleiddwyr ac ariannwyr rhyngwladol sydd wedi bod tu ol i ran fwyaf o’r brif ymgyrch i wthio yr ymgyrch yltra ffeministaidd fodern fel rydym yn ei adnabod heddiw, a hynnu er mwyn ceisio dinistrio y symbiosis naturiol sydd wedi bodoli rhwng dyn a dynes ers dechrau amser – a thrwy hynnu eto, i danseilio cymdeithas a gwareiddiad a’i daflu mewn i stad o gaos.
Gan ei fod yn ymddangos mai dinistrio’r teulu traddodiadol yw un o’u prif fwriadau, mae’r corfforaethau a’r cyfryngau rhyngwladol wedi bod yn ymosod yn ddiddiwedd ar ferched a chryfderau a rhinweddau greiddiol fenywaidd a benyweidd-dra drwy, yn enwedig ymosod a dilorni dewis a rhyddid personol merch i fagu teulu a rhedeg y cartref.
Trwy ddiwylliant,’ffashiwn’ a phetheuach tebyg, mae hyn wedi bod yn cael ei bortreadu fel rhywbeth hen ffasiwn, cul ac ‘wedi ei ormesu gan batriarchaeth’ – ac yn arbennig pan fo merched yn ifanc ac ar eu mwyaf ffrwythlon. Hynnu yn ogystal a chreu mwy o dreth incwm ac annog mwy o gonsumerism drwy gael mwy o ferched yn gweithio a rhoi eu teyrngarwch i gorfforaethau rhyngwladol yn lle eu gwŷr a’u teuluoedd yn gyffredinol. Maent yn trio gwneud yr un peth o ran ceisio dinistrio rhinweddau a theyrngawrch traddodiadol gwrywaidd hefyd.
A rwan mae hyd yn oed yr hawliau cyfiawn elfennol hynnu o gydraddoldeb i ddynes ac i ddyn o dan y gyfraith y gall bawb ei gefnogi ac a frwydrwyd yn haeddiannol amdanynt, o dan fygythiad gan y mater diweddaraf sef materion trans. Beth bynnag eich barn ar y pwnc, gyda’r mater diweddar yma, gwelir hawl sylfaenol dynes neu ddyn i breifatrwydd ac i hyd yn oed ddiffinio eu hunain neu eraill fel dyn neu ddynes ffeithiol fiolegol, o dan fygythiad. Ar ben y gwallgofrwydd yma, mae ymgais gan yr awdurdodau i orfodi eraill i wneud disgrifiadau biolegol anwir o eraill neu risgio gael eu harestio am ‘siarad neu annog casineb’.
Mae gan bawb wrth gwrs yr hawl i gael eu trin gyda pharch, dealltwriaeth a gofal be bynnag ei sefyllfa neu eu rhywioldeb. Ac mae pob person yn rhydd i fynegi ei hunain, ei rhywioldeb ac i wisgo be bynnag mae’n nhw eisiau cyn belled â’u bod yn cadw at gyfraith gwlad a ddim yn anafu neb.
Ond beth bynnag y gwahanol farnau, mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng rhywioldeb person a rhyw biolegol person. Mae digon o arbenigwyr yn y byd mawr sy’n gallu cyflwyno’r dystiolaeth yma yn well na fi dwi’n siŵr ond y ffaith syml yw y gall unrhyw feidrolyn weithio allan fod y gwahaniaeth yn y ddau ryw yn ffaith fiolegol greiddiol sydd yn ymwneud a dynes fiolegol gyda’r cromosomau XX a dyn biolegol gyda’r cromosomau XY – gyda nifer fach iawn o hermaphrodites (neu bobol rhwngryw / intersex) gyda marciau chromosomaidd a/neu organau rhywiol amrywiol yn bodoli hefyd fel eithriad i’r norm – rhwng 0.018% a 1.7% o’r boblogaeth mae’n ymddangos yn dibynnu ar y gwahanol farnau meddygol o ran diffiniadau. Ac oes mae fashiwn beth a norm mewn natur – ac nid yw dweud hynnu yn gyfystyr a diystyru, anwybyddu neu ddilorni eithriadau i’r norm.
Ond ni ellid newid ffeithiau syml fel be ydi bioleg greiddiol pobol, dim bwys faint bynnag o weiddi a wneir i’r gwrthwyneb – heb fynd i fyd dychrynllyd a dystopaidd y doctoriaid genetegau ac eugenics hynnu sydd a’u pryd ar chware Duw a cheisio creu dynoliaeth robotaidd synthetig newydd oleiaf. Ac nid oes gan neb chwaith yr hawl mynnu fod eraill yn derbyn be bynnag maent yn credu ynddo fel ffaith – yn arbennig pan yn dod at fynnu, yn erbyn ewyllus eraill, fod yr eraill hynnu yn defnyddio disgrifiadau biolegol sydd yn ffeithiol anghywir.
Cyn hir mi fydd materion trans yn gwneud lle i’r mater nesa diweddaraf i gael ei wthio gan y globaleiddwyr sef, yn debygol, y mater wirioneddol gorffwyll a pheryg o transhumanism, AI/Artificial Intelligence ac awtimediddio sef ymgyrch arall y globaleiddwyr truenus i geisio roi ‘hawliau dynol’ i robotiaid a hefyd i gyfuno pobol cig a gwaed gyda pheiriannau a’r technoleg diweddaraf er mwyn creu chreu ‘pobol AI newydd’.
Technoleg/Artificial Intelligence/Transhumanism/ID2020/Scientism a’r pedwerydd chwyldro diwydiannol.
Materion wirioneddol orffwyll a pheryg eraill y mae’r globaleiddwyr yn ei wthio arnom yn gynyddol ydi transhumanism, AI/Artificial Intelligence ac atomeiddia sef ymgyrch arall y globaleiddwyr truenus i geisio rhoi ‘hawliau dynol’ i robotiaid a hefyd i gyfuno pobol cig a gwaed gyda pheiriannau a’r dechnoleg ddiweddaraf er mwyn creu ‘pobol AI newydd’. Eu credo ydi mai jisd peiriannau neu anifaeliaiad materol ydym ni oll beth bynnag, heb enaid a heb unrhyw sbarc ysbrydol yn perthyn iddom. Unwaith eto, y nod yw tanseilio cymdeithas, dynoliaeth a gwareiddiad fel rydym yn eu habod, er mwyn ennill grym a rheolaeth a chreu system un byd totalitaraidd y globaleiddwyr, ble mae’r dechnoleg ddiweddaraf ynghyd a ‘gwyddonwyr’ honedig neu scientism yn ein rheoli.
Mae’r ymosodiad ar amaethyddiaeth a’r ymgais i ail wylltio cefn gwlad hefyd yn rhan o’r cynllun i geisio symud y boblogaeth o gefn gwlad i mewn i’r dinasoedd a’r ardaloedd trefol fe honnir, fel rhan holl bwysig o’r bwriad i geisio monitro pawb mewn dinasoedd ‘Smart grid’ digidol, gyda mastiau a thyrau honedig beryg 5G + a thechnoleg di wifr yn rhan hollbwysig o’r cynllun despotaidd yma. Mae siarad gan rai awdurdodau am 6G a 7G yn barod er bod dinasoedd a gwledydd o gwmpas y byd yn dechrau banio 5G yn barod oherwydd consarn am effaith gwael honedig y dechnoleg yma ar iechyd pobol ac ar yr amgylchedd.
Felly obsesiwn diweddaraf y globaleiddwyr mae’n ymddangos yw gorfodi rheolaeth drwy dechnoleg, gwyddoniaeth a/neu’r maes ffarmalegol. Fel yr awgrymir gan y rhaglen ID2020 ac sydd wedi bod yn cael ei drafod ers blynyddoedd bellach, un o brif fwriad y globaleiddwyr fe honnir, yw ceiso gorfodi pob berson yn y byd i gael chip ID tracio fydde yn cynnwys ‘pasbort digidol’ wedi ei osod ynddynt fel fod posib i bob person gael eu tracio ble bynnag maent yn y byd gan ddefnyddio technoleg megis gwasanaeth 5G ar gyfer ffonau symudol er enghraifft.
Pwrpas arall y cynllun chip tracio yma i bawb fe honnir, ydi er mwyn i’r ‘awdurdodau’ allu gweld gwybodaeth ariannol a gwybodaeth bersonol arall pob person sydd i’w gael o fewn y chip ac yn bosib felly i allu rheoli a monitro (a manipiwleiddio neu stopio) pres pob unigolyn er enghraifft.
Credir fod hyn yn mynd law yn llaw gyda’r ymgyrch gan y globaleiddwyr i geisio gwneud pres ‘dal yn dy law’ go iawn yn obsolete ac i ddod a system arian digidol yn unig i mewn yn ei le fydde wedi ei blethu gyda chip personol ar gyfer pob person gyda gwybodaeth bersonol, bancio ac ariannol pob person ar chip – gan felly olygu fe honnir, y galle arian neu fanylion eraill gael eu hychwanegu, tynnu neu atal yn ol mwmpwy yr awdurdodau.
Fel soniwyd hefyd , mae hyn yn ymddangos i fod yn rhan echrydus o gynlluniau’r ‘Smart grid‘ ble mae pawb wedi eu gorfoi o gefn gwlad i ddinasoedd ‘Smart’ ble mae popeth wedi ei gysylltu a’i gilydd yn ddigidol drwy fastiau 5G+ a phawb yn hawdd eu rheoli a’u monitro drwy’r surveillance state Orwelaidd newydd – drwy dechnoleg abod gwynebau, y chip RFID a thechnoleg Articial Intelligence aflan.
Hyn yn ogystal a thrwy gael rheolaeth ar pa fwydydd a chyffuriau ffarmalegol y dylem oll ei gymud neu ddim yn ogystal a’r syniad o unbeniaeth gwyddonol / Scientism fel y’i disgrifwyd gan Bertand Russell, Aldous Huxley ac eraill. Dyhead am dotalitariaeth erchyll mewn geiriau eraill.
Mae son cynyddol fod clefydau a feirwsau – boed yn rhai go iawn neu honedig, yn un ddull o ddod a rheolaeth o’r fath i fewn yn ogystal. Neu yn fwy manwl, yr ymateb draconaidd i’r pethau yma. Y consarn haeddiannol a chynyddol hefyd yw y gall gyffur neu facsîn gael ei orfodi ar bawb yn sgil feirws neu argyfwng honedig (megis corona) ac y gall y facsîn yma gynnwys nid yn unig agweddau ddinistriol ac andwyol i iechyd a DNA pobol ond hefyd a all gael ei gysylltu i’r cynllun tracio ac ID digidol Orweliadd (megis cynllun ID2020).
Nid fod pob cyffur neu facsîn yn ddrwg wrth gwrs-mae sawl un yn hanfodol i lawer ac yn gallu achub bywydau. Ond nid yw hyn yn golygu fod pob cyffur a phob facsîn yn dda. Dwi’n gwerthfawrogi fod hyn yn lot/gormod i lot o bobol ei ystyried ond rydym yn byw yn y dyfodol yn barod ac mae’n rhaid i ni rwan ddechrau trafod y pethau yma i gyd yn agored ac yn rhesymegol.
Replacement migration a rhaglenni mudo gorfodol y globaleiddwyr ar gyfer y byd
Ffordd arall o drio creu llywodraeth dotalitaraidd un byd ydi drwy ofodi mudo a symud pobol ar sgel enfawr ar draws y byd. Ers blynyddoedd bellach mae’r Undeb Ewropeaidd, law yn llaw a’r Cenhedloedd Unedig ac eraill, wedi bod yn gwthio a hybu rhaglen arswydus o’r enw ‘Replacement migration’ – rhaglen i annog a hybu mewnfudo ac aml ddiwyllianedd di gwestiwn ac allan o bob proporsiwn i fewn i gyfandir Ewrop o’r tu allan.
Ymddengys eu bod am geisio gwireddu hyn drwy ddod ac oleiaf 56 miliwn o bobol o gyfandir Affrica a’r dwyrain canol i mewn i Ewrop erbyn 2050 – rhaglen sydd yn ymddangos fel ei fod yn cael ei gario allan gyda chymorth amrywiol asiantaethau rhyngwladol sy’n gweithio mewn gwahanol bartneriaethau megis yr International Organisation for Migration, Global Migration Group, The Africa-EU Partnership, World Bank , ac o dan fantell y cwlt rhynwladol a enwid yn Ddatblygu Cynaliadwy neu Agenda 21/Agenda 2030. Mewn modelau eraill gan y Cenhedloedd Unedig mae’r ffigwr yma hyd yn oed yn uwch eto gyda 79 miliwn, 153 miliwn neu hyd yn oed 673 miliwn o bobol newydd posib i ddod i Ewrop erbyn 2050.
Mae hwn yn gynllun sydd yn cael ei hybu a’i wthio yn gwbwl agored gan y Cenhedloedd Unedig yn ogystal a’r Undeb Ewropeaidd ac i’w weld ar eu gwefanau ac yn eu hadroddiadau. Anodd yw peidio disgrifio cynllun o’r fath fel rhaglen annifyr o debyg i buro ethnig – onid yw wedi ei osod allan yn oeraidd a chwbwl glir yn y teitl ‘Replacement Migration’?
Ac fel mae Frans Timmermans a nifer enfawr o swyddogion ac awdurdodau ar draws Ewrop hefyd wedi nodi, mae’r mwyafrif llethol o’r rhai sydd yn dod mewn i Ewrop, yn fewnfudwyr economaidd anghyfreithlon ac nid ceiswyr lloches fel mae ein prif gyfryngau wedi ceisio ei honni. Cyfaddefodd Timmermans fod y ffigwr yma yn o leiaf 60% ond tybir fod y ffigwr yma yn agosach i 80, 90% neu hyd yn oed 100% mewn nifer o achosion er enghraifft rhannau o’r Eidal.
Anodd yw beio neu ddilorni mewnfudwyr, boed yn gyfreithlon ai peidio, am chwilio am safon gwell o fywyd. A dylai ceiswyr lloches dilys sy’n dianc rhag rhyfeloedd a grëir yn aml gan wledydd pwdr y Gorllewin/NATO, ddisgwyl ein cydymdeimlad a’n cymorth, a chael lloches yn y wlad neu’r gwledydd diogel agosaf fel y gwarchodir mewn cyfraith ryngwladol. Ac yn ogystal, dylai unrhyw berson o unrhyw ethnigrwydd, cefndir neu hil, wrth gwrs fod yn rhydd i ddewis bod neu setlo gyda pa bynnag bartner y dymunant, yn unol â beth bynnag yw cyfreithiau dinasyddiaeth y wlad mewn cwestiwn.
Ond nid yw pethe cweit mor syml â hynny. Ychydig sydd yn llawn ddeall fod ganddom arweinwyr a chynllunwyr gwleidyddol sy’n ceisio creu a defnyddio mewnfudo a symudiad gorfodol pobl ar sgel enfawr, at eu dibenion globaleiddiol eu hunain. Mae’n hen dechneg imperialaidd o symud pobol o wlad neu gyfandir i’r llall er mwyn ymrannu, concro a rheoli. Defnyddiodd Edward y 1af y dechneg yma yn yr 13eg ganrif i symud niferoedd mawr o Sacsoniaid i mewn i drefydd Cymru gan geisio gwthio’r Cymry allan i’r ymylon yn y broses.
Ac mae’n amlwg nad oes cysondeb gan bawb pan mae’n dod at hiliaeth. Yn bersonol rwyf yn ebyn hiliaeth tuag at unrhyw bobol neu hil, a phan siaredir allan yn erbyn hiliaeth yn erbyn pobol o liw croen tywyll yne mae pawb yn haeddiannol gytun a chefnogol. Ond os dalir yr un safonau ac egwyddor i siarad allan yn erbyn hiliaeth yn erbyn pobol croenwyn/caucasian a chynhenid Ewrop (lleiafrif ethnig o oddeutu 11.5% yn y byd yn ol y safle ‘Worldometer’) fel yn achos mwyafrif pobol Ewrop, yne yn sydyn mae’r rheolau yn newid ac yn sydyn, y rhai sydd yn siarad allan yn erbyn y fath anoddefgawrch a hiliaeth yw’r rhai sydd yn cael eu hymosod arnynt am fod yn ‘eithafwyr hiliol’.
Mae’n werth pwysleisio ac ail ddweud hyn sawl gwaith. Mae agenda cywidreb gwleidyddol wedi bod mor lwyddianus fel mae’r rhai sydd yn siarad allan yn erbyn hiliaeth a’r coloneiddio imperiallaidd a globaleiddiol o Ewrop yw’r rhai sydd yn cael eu hymosod arnynt am fod yn ‘eithafwyr hiliol’. Gymnasteg feddyliol gwbwl ddi synwyr yn wir.
Rhowch o ffordd arall hefyd. Petai miliynau o Ewropeaid gwyn yn cael eu hannog a’u talu i lifo mewn i Sierea Leone, Sri Lanka neu Siapan ar sgel enfawr, a choloneiddio y gwledydd hynnu yn fwriadol gan weddnewid demograffeg a diwylliant y gwledydd yma am byth, mi fyswn y cyntaf i brotestio ac ymgyrhcu yn erbyn y fath beth anfoesol ac anghyfreithlon. Dwi’n credu’r un peth am y rheiny o’r dwyrain canol ac Affrica sydd yn cael eu hannog ac, mae’n ymddangos, eu talu, i goloneiddio gwledydd Ewrop yn fwriadol ac ar sgel anferth gan weddnewid demograffeg a diwylliant y gwledydd yma am byth. Mae hynnu hefyd yn anfoesol ac yn anghyfreithlon. A’r un pwerau imperiailaidd rhynwgaladol sydd y tu ol i’r holl gynlluniau mudo di-broporsiwn a choloneiddio gorfodol yma mae’n ymddangos.
Ac mae dinasyddion gwledydd Ewrop na sydd yn wyn a sydd wedi bod yn Ewrop ers cenhedlaeth neu fwy hefyd yn gwynebu yr union un drawsnewidiad a bygythiad difrifol i’w ffordd o fyw, i’w trefdadaeth a’u cenedl Ewropeaidd o ddewis. Ond mae eu llais nhw hefyd yn cael eu hanwybyddu a’i ddiystyru fel nad yw’n bodoli chwaith.
A na, yn anffodus nid conspirasi theori ydi y cynllun gorfodol o fudo yma i Ewrop a gweddill y byd chwaith. Ac ni fydd y polisi o orfodi mewnfudwyr ac felly gorfodi amrywiaeth ac amlddiwyllianedd, yn dod i stop gydag Ewrop. Mae’r elit globaleiddiol yn yr undeb Ewropeaidd a thu hwnt wedi gwneud yn glir eu bod am wneud hyn ar draws y byd. Yn 2019, eto, datganodd Frans Timmermans, dirprwy arlywydd y comisiwn Ewropeaidd, y canlynol wrth annerch panel yr undeb Ewropeaid ar hawliau:
“…Diversity comes with challenges but diversity is humanity’s destiny. There is not going to be, even in the remotest places of this planet, a nation that will not see diversity in it’s future. That’s where humanity is heading and those politicians trying to sell to their electorates a society that is exclusively composed of one culture are trying to portray a future based on a past that never existed–therefore that future will never be.”
Heb anghofio rhethreg wallgof Guy Verhofstadt, prif gynrychiolydd yr Undeb Ewropeaidd ar Brexit gyda Phrydain, a wnaeth yn glir mae math o imperialaeth un byd yw uchelgais project yr undeb Ewropeaidd ac nid gwarchod teulu cenhedloedd y byd. Mewn araith y flwyddyn honno, sgrechiodd Mr Verhofstadt
“…In the world order of tomorrow, the world order of tomorrow is not a world order based on nation states or countries, it’s a world order that is based on Empires”
Drwy orfodi amrywiaeth/diversity a phuro ethnig gorfodol ar yr holl fyd mae’r globaleiddwyr yma, yn fy marn i, yn datgan yn glir eu dyhead erchyll o hiliol i weld byd unffurf, iwnifform ble nad oes unrhyw amrywiaeth mewn pobol, diwylliant na hil. Oherwydd drwy orfodi ‘amrywiaeth’ ar y byd maent yn gorchymyn na fydd gwahaniaethau hardd a chyfoethog holl wahanol bobol a diwyllianau y byd yn cael eu dathlu na’u gwarchod ond yn hytrach yn cael eu gorfodi i gyd fod yr un peth ac felly yn cael eu dinistrio.
Rhan ehangach o globaleiddio mae’n ymddangos yw , i ddechrau oleiaf, i geisio creu ymerodrathau enfawr megis yr Undeb Ewropeaidd , Undeb gogledd America, Undeb Affrica ayb, ac wedyn uno y rhain mewn i un undeb ganolog. Yn ol nifer, ers blynyddoedd maith mae’r Cenhedloedd Unedig – corff anddemocratidd ac anetholedig arall, wedi bod yn actio fel ryw fath o lywodraeth ryngwladol ‘mewn aros’, gan geisio gorchymyn ar wledydd ac unigolion sut y dylent actio.
Ond mae angen cael y sgwrs yma. Mae hon yn sgwrs agored, onest, aeddfed ac weithiau anodd o bosib – plorod a phopeth – y mae cenedl Cymru a’i holl ddinasyddion, be bynnag eu cefndir, angen ei chael er mwyn sicrhau’r ffordd ymlaen – gyda’r gobaith, o fy safbwynt i, o allu sicrhau seiliau cadarn i’n hunaniaeth a’n diwylliant anhygoel fel pobol ac fel gwlad tra’n gallu croesawu lefel gynaliadwy a rhesymegol o bobol newydd i’n gwlad fel rydym wastad wedi ei wneud.
Ac i’r rhai hynnu sydd yn awyddus i ddilorni, ymosod ar, a dileu mwyafrif poblogaethau cynhenid Cymru, Prydain a chyfandir Ewrop oherwydd fod y poblogaethau yma yn wyn eu croen a’u hil, efallai ei fod yn amser i’r rhai gyda’r agweddau yma ofyn i’w hunain pwy sydd wir yn arddel agweddau eithafol a hiliol?
Ond mae angen i ni gael y sgwrs yma ble mae pawb yn gallu cael eu llais wedi’w clywed dim bwys pa mor wrthyn neu gytûn. Wedyn mi allith cenedl Cymru symud ymlaen i adeiladu ar seiliau cryfach nac erioed.
Yr elfen grefyddol/ysbrydol ocwltaidd a lwsifferaidd tu ôl i’r syniad o lywodraeth un byd
Fel sydd wedi ei grybwyll yn barod, tu ôl i hyn i gyd, a heb yn wybod i lawer o’r rhai sydd yn rhan o’r system rwy’n tybio, mae elfen grefyddol ac ysbrydol. Ond nid elfen bositif yw’r ysbrydiaeth yma. Ymladd ar ran ac addoli duw arall y mae’r rhai ar dop y system globaleiddiol yma mae’n ymddangos, nid y Duw cariadus y mae rhan fwyaf o ddiwylliant Ewrop wedi ei seilio arno. Mae ocwltiaeth a’r gred mewn golau ffug a dinistriol lwsifferaidd yn rhan greiddiol o’r chwyldro rhyngwladol am lywodraeth un byd canolog.
Mae synnwyr cyffredin yn dangos i ni fod yne rhywbeth difrifol o’i le yn y byd ar hyn o bryd yn enwedig, gyda diawledigrwydd ac anfoesoldeb eithafol yn amlygu ei hun ar draws ein byd, ein diwylliant, ein cyfryngau a’n llywodarethau, ac mewn rhyfeloedd gwaedlyd ac anghyfreithlon ble mae miliynau o bobol ddiniwed yn cael eu lladd yn seiliedig ar gelwydd a thwyll gan unigolion nad oes neb hyd yn oed yn eu habod neu wybod eu henwau.
Mewn geiriau eraill, fel soniwyd, yn ei hanfod, be sydd tu ôl i’r frwydr sydd yn mynd mlaen yn y byd ar hyn o bryd ydi brwydr ysbrydol rhwng da a drwg, ac mae be sydd yn mynd mlaen yn y byd yn arwyddocaol o hyn.
O astudio ac edrych ar hanes, mae’n ymddangos fod y pŵerau cudd sydd wedi bod yn gweithio tu ôl i’r llenni ac yn erbyn daioni a dynoliaeth, wedi bod wrthi ers amser hir iawn – nol i ddyddiau Babylon, Sodom a Gomora a phellach fyth yn ôl nifer. A phŵer na sydd yn perthyn nac yn deyrngar i unrhyw genedl, gwlad, hil neu bobol ond sydd, fe honnir, yn gweithio ar ran ac yn rhoi ei deyrngarwch i bwer/au hynod dywyll a dinistriol y byd. Y pwrpas a’r bwriad mae’n debyg yw rheolaeth absoliwt o’r holl fyd a phawb a phopeth ynddo.
Syrffedus weithiau efallai yw gorfod dewis ochor, yn enwedig ble mae’r pwnc yn un cymhleth ac aml haenog. Ond nid yn yr achos yma. Ni ddyle fod amheuaeth fod gofyn pendant i ni i ddewis ein hochor yn gwbl bendant a di gwestiwn yn yr achos yma – gan obeithio mae dros wareiddiad a gobaith fydd y mwyafrif yn dewis ac nid dros ddinistr a thywyllwch.
Conspirasi ffeithiol, nid conspirasi theori
Dwi’n gwybod fod hyn oll yn swnio yn baranoid ac yn ormodedd i lawer. Creuwyd termau megis ‘conspiracy theory’ gan y CIA mae’n debyg, a hynnu er mwyn trio pardduo’r rheiny sydd yn gofyn cwestiynau ‘anghyfleus’ neu gwestiynu unrhyw naratif sydd yn cael ei wthio arnom gan y prif gyfryngau – cyfryngau sydd o dan ddylanwad y corfforaethau rhyngwladol ac sydd yn despret i’n cadw yn llyweth ac o dan reolaeth trwy eu hagenda syrffedus o gelwydd, twyll, ac ofn. Ac agenda maen nhw’n gwybod bod pobl yn gynyddol ymwybodol ohoni ac yn codi yn ei herbyn.
Haneswyr o bwys ar y cynllun a’r system ariannol yn gyffredinol.
Fe welir nifer enfawr o sylwebwyr a haneswyr erbyn hyn yn dynodi neu rybuddio am y bwriad amlwg yma o greu llywodraeth un byd drwy law amrywiaeth anhygoel o unigolion a grwpiau pwerus dros y degawdau a’r canrifoedd. Rhai o’r haneswyr mwy crediniol ar hyn oll gellid dweud, yw Antony C Sutton a chyn athro Bill Clinton, Carrol Quigley. Ysgrifennodd Antony Sutton ddau lyfr hanesyddol arbennig o berthnasol ar y mater; ‘Wall Street and the Rise of Hitler‘ a ‘Wall Street and the Bolshevik Revolution‘. Yn y llyfrau pwysig yma, ysgrifennodd Sutton sut y daeth i’r casgliad, ar ol ymchwilio hirfaith a manwl, bod yr un arianwyr rhyngwladol a sefydliadau corfforaethol pwdr wedi ariannu’r chwyldro Bolsieficaidd yn erbyn Rwsia yn ogystal ag hefyd ariannu a chefnogi regime Hitler yn y 20au a’r 30au.
Ac yn wahanol i’r fytholeg economaidd ac academaidd a ddysgir mewn prifysgolion ac a gyhoeddir ac a ddarlledir yn y cyfryngau prif ffrwd, honnir mai’r arianwyr rhyngwladol yma a’u cyfoedion wnaeth hefyd gefnogi a hybu Karl Marx a Friedrich Engels i sgwennu (neu actio fel figureheads) ar gyfer y maniffesto comiwnyddol. A hynny yn ogystal ag ariannu ideoleg economaidd sydd yn ymddangosiadol i’r gwrthwyneb ag i’r pegwn arall o gomiwnyddiaeth sef cyfalafiaeth a neo-ryddfrydiaeth – a hynnu wedi diwgydd trwy hanes diweddar ac i mewn i’r presennol.
A’r ariannwyr yma hefyd, fe honnir, oedd yn gyfrifol am gefnogi syniadaeth Liberteriaeth eithafol a’r syniad o farchnadoedd honedig ‘gwbl rydd’, ac o neo-ryddfrydiaeth ryngwladol yn gyffredinol – system sydd, fel sosialaeth/comiwnyddiaeth wladwriaethol absoliwt (a hefyd a elwir yn gyfalafiaeth wladwriaethol), hefyd yn fanteisiol i’r pwerau corfforaethol a globaleiddiol sydd yn gallu monopoleiddio a rheoli’r marchnadoedd a’r systemau yma er eu mantais eu hunain, gan ddileu unrhyw gystadleuaeth iach go iawn yn fwriadol tra’n cogio dilyn egwyddorion ideolegol cyfiawn a chogio bod yn gefnogol i’r syniad o gystadleuaeth.
Gellir dadlau bod gan y syniad gwreiddiol o ryddid a chystadleuaeth ‘marchnadoedd hollol rydd’ neo-ryddfrydol agweddau y gellid eu cefnogi mewn egwyddor oleiaf. Ac mae cyfalafiaeth bob dydd yn arbennig yn rhan hanfodol o fywydau’r mwyafrif o bobl ar y ddaear ac yn caniatáu i bobl gael eu gwobrwyo am waith caled, am arloesi ac am lwyddo.
Ond mae’r buddion a’r cyfleoedd y gall neo-ryddfrydiaeth economaidd ryngwladol gynnig hefyd yn ei adael yn agored i gael ei gam-drin a’i fanipiwleiddio. Fel y gwcw, mae’r elit byd-eang bellach wedi gwneud neo-ryddfrydiaeth fyd-eang a thraws ffiniol yn un o’u prif nythod ac yn atal unrhyw ddieithriaid rhag dod i mewn i’r nyth. Felly nid yw hyd yn oed y neo-ryddfrydiaeth a briodolir yn aml i’r globaleiddwyr mewn gwirionedd yn ddisgrifiad cywir. Yn fyd-eang, nid oes marchnad rydd sy’n agored i bawb o gwbl – i’r gwrthwyneb – system o gyfalafiaeth fonopoli a reolir yn dynn gan ychydig o arianwyr a chorfforaethau enfawr a thraws ffiniol sydd bellach yn bodoli erbyn hyn – os nad erioed. System ble mae’r dethol elît ariannol yn rheoli, a ble mae unrhyw gystadleuaeth o bwys yn cael ei wrthwynebu a’i ddinistrio ar bob cyfle.
Eto, yr unig bwrpas ac uchelgais yw rheolaeth absoliwt, dim bwys pa system neu ideoleg a defnyddir.
Mae’r pwerau globaleiddiol hefyd yn hapus iawn i ddeuoliaethol ‘ariannu a rheoli’r ddwy ochor’ o’r gelynion honedig – o gomiwnyddiaeth honedig bur i gyfalafiaeth honedig bur, neu unrhyw ideolegau eraill sydd yn ymddangos i fod yn brwydro yn erbyn ei gilydd. Gwelir hyn yn digwydd dro ar ôl tro drwy hanes, gyda’r un elfennau rhyngwladol yltra cyfalafol yma (eto,cyfalafiaeth monopoli ac nid cyfalafiaeth bob dydd fel rydym yn ei abod), yn ariannu a chefnogi bron pob ochor o wahanol ryfeloedd a symudiadau hanes modern yn enwedig, gan lywio ac elwa o’r canlyniad be bynnag y bo.
Dywed amryw fod y pwerau a’r deallusrwydd dinistriol yma wedi bod yn bodoli fel arianwyr hynod lwyddiannus/dinistriol ers miloedd o flynyddoedd lawer ac yn mynd nol i gyfnod Babylon a Sodom a Gomora, gan wedyn fod yn arianwyr mwyaf llwyddiannus a dinistriol Ewrop a thu hwnt – o’r marsiandwyr ac arianwyr Fenetaidd i arianwyr William of Orange a’r ymgyrch i sefydlu banc Lloegr fel banc preifat i fenthyg pres a chaethiwo Prydain mewn dyled di derfyn – dyled sydd yn dal i dyfu heddiw – dyled diawl y lllog a’r llwgu.
Mewn modd tebyg i Antony Sutton, datgelodd Carroll Quigley lawer am y pwerau yma. Roedd Quigley yn ddarlithydd o fri, yn ‘ddyn ar y tu mewn’ mewn materion llywodraethol yn yr Unol Daleithiau ac yn awdur y llyfrau enwog ‘Tragedy and hope: A History of the World in Our Time’ a ‘The Anglo-American Establishment: From Rhodes to Cliveden’ – llyfrau a ddangosoddd rôl a bwriad holl fancwyr canolog y byd i greu un llywodraeth ganolog. Gweler un o’r dyfyniadau enwog ar hyn o’i lyfr ‘Tragedy and Hope’:
“The powers of financial capitalism had another far-reaching aim, nothing less than to create a world system of financial control in private hands able to dominate the political system of each country and the economy of the world as a whole….…to be controlled in a feudalistic fashion by the central banks of the world acting in concert by secret agreements.”
Mae nifer enfawr o ymchwilwyr a haneswyr erbyn hyn yn datgan yn ddi gwestiwn fod y pwerau globaleiddiol yma wedi bod wrthi ers amser maith, a thu ôl i fwyafrif o ryfeloedd a chwyldroadau ers y chwyldro Ffrengig yn arbennig – gan chwarae rhan amlwg yn eu dechrau ac elwa ohonynt be bynnag y canlyniad. Honnir fod hyn yn cynnwys dau ryfel byd mawr y ganrif ddiwethaf yn ogystal.
Trechu’r cynllun gormesol yma
Does neb ohonom ni bobol clai meidrol yn berffaith wrth gwrs, Ond ble gallwch, ymhyfrydwch mewn moesoldeb, cyfiawnder ac yn eich cenedl. Peidiwch â llyncu’r holl bropaganda sydd yn cael ei bwmpio allan yn y cyfryngau yn ddi ddiwedd, na derbyn yr ymosodiad di derfyn ar ein hawliau dynol a normau gwareiddiad. Cadwch feddwl agored a meddyliwch dros eich hunain. Byddwch yn hunangynhaliol a helpwch eich teulu, eich cymdogion, eich cymdeithas, a’ch gwlad i fod mor hunangynhaliol â phosib, mewn bwyd, nwyddau, sgiliau a diogelwch yn gyffredinol.
Ac fel y cyfeiriwyd ato eisoes, edrychwch ar sut y gallai creu arian di-ddyled ryddhau ein neu eich gwlad neu hyd yn oed eich cymuned leol rhag gafael caethiwus dyled di ddiwedd y mae’r globaleiddwyr mor hoff o’i orfodi ar holl wledydd y byd.
Ystyriwch yr elfen ysbrydol holl bwysig i hyn i gyd. Ymchwiliwch a thrafodwch yr holl bethau yma, eu trafod gyda teulu a phobol rydych yn ei abod os yn bosib.
Nid yw’n ymddangos fod ein gwleidyddion, yn gyffredinol, yn ddigon argyhoeddedig i ddeall be sydd wir yn mynd mlaen yn y byd ac maent, yn gyffredinol, wedi methu a’n rhybuddio ac i atal ymgyrch y globaleiddwyr i gael gafael ar yr holl bwer y maent wedi llwyddo i’w gael. Felly, oni bai eich bod chi’n gallu argyhoeddi’ch gwleidydd cynrychioliadol lleol fel arall,ac y byddan nhw’n dechrau codi llais yn erbyn totalitariaeth fyd-eang — system fydd yn ein caethiwo ni oll os caiff y rheiny sydd yn ei gynllunio eu ffordd – yne yn anffodus bydd y gwleidyddion yma ynghyd a’r system wleidyddol a phartiol bresennol yn dod yn fwy fwy ddibwrpas yn gyffredinol.
Mae’n gynyddol amlwg fod democratiaeth a’r system bleidiau fel y mae erbyn hyn, yn lygredig, ac mae angen ei ail ystyried yn llwyr. Mae’r un peth yn wir o ran y cyfryngau prif ffrwd a’r sianeli newyddion honedig – rhoddodd rhain y gorau i sefyll dros y gwir ac i graffu neu ddal unrhyw wir bŵer i gyfrif amser maith yn ôl – nid yn unig maent wedi stopio gwneud hynnu ers amser, maent hefyd yn berygl i’n dyfodol, i ddynoliaeth ac i wareiddiad.
Ond mae o leiaf werth ceisio rhoi pwysau ar eich gwleidyddion a’u deffro i’r gwir y mae’n rhaid iddyn nhw ei ddeall a gweithredu arno os ydyn nhw am fod o unrhyw bwrpas i gymdeithas. Ac os nad yw’ch gwleidyddion lleol neu genedlaethol yn barod i ystyried a gweithredu ar y dystiolaeth sydd ar gael, sefwch eich hun neu annog eich ffrindiau i sefyll er mwyn oleiaf trio deffro gwleidyddion eraill a dinasyddion i be sydd wir yn mynd ‘mlaen yn y byd – does dim bwys pa mor boblogaidd yr ydych – y peth pwysig yw ymladd dros dda, dros wirionedd ac er gwareiddiad.
Mae’r holl brif systemau o’n cwmpas wedi pydru. Rhaid dechre o’r dechre. A rhaid unwaith eto ymladd a threchu y barbariaid wrth ein drws.
Ephesiaid 6:12 “Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd.” (Beibl Cymraeg William Morgan)