gan Gruffydd Meredith
Mae diwylliant cywirdeb gwleidyddol ac identity politics wedi bod o gwmpas yn ei anterth ers chwedegau’r ganrif ddiwethaf. Enw arall ar hyn oll yw Marcsiaeth ddiwyllianol neu Neo Farcsiaeth ac mae wedi ei gynllunio i danseilio normau cymdeithas a gwledydd y byd er mwyn gosod y seiliau ar gyfer y chwyldro rhyngwladol llywodraeth ganolog ‘Un Byd’ newydd.
Cefndir
Ar ôl i’r chwyldro Marcsaidd gwreiddiol i uno holl weithwyr y byd yn erbyn eu cyflogwyr a’r cyfalafwyr fethu, daeth criw o academyddion at ei gilydd i geisio creu symudiad newydd er mwyn annog chwyldro rhyngwladol newydd ble methodd y chwyldro Marcsaidd gwreiddiol.
Felly dechreuodd ysgol Frankfurt ei fywyd yn 1923 o dan yr enw Institute of Social Research. Roedd yn ganolfan ymchwil a oedd yn canolbwyntio ar Farcsiaeth ac yn gysylltiedig â Phrifysgol Frankfurt. Roedd arweinwyr ac aelodau enwog o’r sefydliad yn cynnwys Carl Grünberg, Georg Lukács, Felix Weil, Max Horkheimer, Theodor W. Adorno, Erich Fromm, Herbert Marcuse, György Lukács a Jürgen Habermas i enwi ond rhai. Roedd Antonio Gramsci a’r hyn sydd erbyn hyn yn aml cael ei ddisgrifio fel quackery Sigmund Freud hefyd yn ddylanwad mawr ar ddatblygiad y sefydliad.
Un o brif gredoau’r sefydliad a’i chefnogwyr oedd bod y gred neu freuddwyd Farcsaidd wreiddiol a hybwyd gan Karl Marx, Friedrich Engels a Lenin, o uno a chodi yn erbyn eu cyflogwyr, wedi methu, a bod felly angen creu mudiad newydd a mwy effeithiol yn ei le – mudiad nad oedd wedi ei seilio ar chwyldro ‘y gweithwyr’ ond yn hytrach ar danseilio ‘gormes diwyllianol y gorllewin’ drwy harnesu a manipiwleiddio diwylliant ei hun.
Cred yr aelodau oedd bod gwledydd a diwylliant y gorllewin – Ewrop ac America yn enwedig – yn naturiol ormesol. Yn eu tyb nhw roedd gwerthoedd y gorllewin megis rhyddid yr unigolyn a rhyddid barn yr unigolyn, cenedlaetholdeb, y teulu traddodiadol ynghyd a’r gwerthoedd Cristnogol sydd yn gynhenid i ddiwylliant moesol Ewrop, yn arbennig o ddrwg. Ac yn ei barn nhw hefyd roedd y dyn gwyn, ei ‘batriarchaeth ormesol’ a chyfalafiaeth yn gyffredinol yn rhan fawr o’r broblem. Drwy inffaltreiddio a manipiwileiddio diwylliant yn gyffredinol, bwriad yr intelligentsia rhyngwladol yma oedd ceisio israddoli, tanseilio a dileu’r holl werthoedd uwchlaw mewn ymgais i fraenu’r tir yn barod ar gyfer chwyldro byd-eang comiwnyddol fel yr oedd y symudiad Marcsaidd gwreiddiol wedi bwriadu ei gyflawni – chwyldro rhyngwladol ‘iwtopaidd’ a fyddai yn unedig yn ei wrthwynebiad i ormes honedig y gorllewin i ddechrau gyda – cyn symud ymlaen i holl gyfandiroedd y byd.
Yn ystod cyfundrefn orthrymus Hitler yn y 1930au, symudodd y sefydliad a’r rhan fwyaf o’i aelodau amlwg i’r Unol Daleithiau a dod o hyd i gartref newydd ym Mhrifysgol Columbia, Efrog Newydd. Unwaith yn yr UDA, ymledodd eu dylanwad i’r prifysgolion eraill megis Berkeley, Princeton a Brandeis, gan hefyd ymgorffori symudiadau hawliau sifil a gwrth-sefydliadol yr oes. Daeth llyfrau megis Eros and Civilisation a’r papur ‘Repressive Tolerance’ gan Herbert Marcuse a The Authoritarian Personality gan Theodor Adorno yn lyfrau cwlt gwrth sefydliadol yr oes ac yn arfau effeithiol gan y neo Marcswyr yn erbyn be a welent fel system ormesol yr Unol daleithiau a gwledydd Ewrop yn gyffredinol.
Repressive tolerance / Liberating tolerance
Erbyn hyn roedd syniadaeth yr holl aelodau wedi datblygu ac roeddent wedi miniogi’r cynllun ar be yn union oedd angen cymeryd lle’r dosbarth gweithiol fel prif yrrwyr y chwyldro Marcsaidd byd-eang a fethwyd a’i wireddu yn flaenorol. Penderfynwyd mai’r ffordd o wneud hyn fydde creu neu fanipiwleiddio ‘brawdoliaeth o ddioddefwyr’ allan o’r holl grwpiau lleiafrifol a oedd â gwahanol hunaniaethau ac agendâu i’w gwthio ar y pryd ac yn y presennol.
Felly, roedd yr holl symudiadau cymdeithasol oedd yn digwydd ar y pryd yn yr UDA yn arbennig megis ffeministiaeth ail don, comiwnyddiaeth, anffyddiaeth, mewnfudo di reolaeth a ‘byd heb ffiniau’ , dyneiddiaeth, amlddiwylliannedd, nihiliaeth, hedoniaeth, amgylcheddiaeth, rhyddfrydiaeth rywiol a chyffuriau di ddiwedd, grwpiau lleiafrifol ethnig a ‘Black power‘ (a Black Live Matter erbyn heddiw), a ‘blaengawrwch’ di gwestiwn yn gyffredinol, yn creu arf perffaith i’r neo Farcswyr eu harnesu a’u manipiwleiddio er mwyn gwthio eu hagenda eu hunain o ymosod ar yr hyn y credent i fod yn wrthwynebus i’r ‘chwyldro rhyngwladol’ sef y sefydliad Americanaidd ac Ewropeaidd, y teulu traddodiadol, cenedlaetholdeb a chariad at wlad, a’r ‘dyn gwyn drwg a gormesol’ honedig yn gyffredinol.
Rhaid oedd (ac ydi gan eu bod dal wrthi yn ceisio ei ddinistrio) ymgeisio i danseilio’r gwareiddiad gorllewinol yma, ynghyd a ‘r diwylliant traddodiadol a moesoldeb. Neu, mewn geiriau eraill, bydde agweddau protestio ayb yr holl grwpiau yma yn cael eu camddefnyddio, megis arf, i greu rhaniadau a thensiynnau di ben draw rhwng y rhywiau,y gwahanol hiliau ayb, ac i geisio tanseilio a chwalu cymdeithas a gwledydd y byd er mwyn gosod y seilwaith i drefn newydd fyd eang a fydde, yn anochel, yn unffurf ac yn dotalitaraidd ei ffurf.
Nid oedd bellach frwydr i ymladd am hawliau cyfartal i bawb a phob unigolyn o dan yr un cyfansoddiad (yn arbennig yn yr UDA) a’r un gyfraith be bynnag eu daliadau gwleidyddol, eu rhyw, eu crefydd neu liw. Yn hytrach, roedd rwan angen ymgyrchu yn ddi sdop am hawliau arbennig a gwahanol ar gyfer nifer di ri o grwpiau arbennig yn seiliedig ar eu hunaniaethau a’u teimladau, er mwyn ymosod ar, a ‘rhannu a rheoli’ ”y sefydliad’ o bob cyfeiriad posib, a’i danseilio a’i chwalu o’r tu fewn. Ac yn gwbl groes i syniadaeth Martin Luther King, yn ogystal â rhyw, daeth lliw croen yn bwysicach nac erioed ac yn arf ynddo’i hun. Yn wahanol i foeswers Dr King, nid cymeriad y person oedd yn cyfri mwyach ond y melanin yn ei groen neu ei chroen.
Fel soniwyd, yn ôl y Marcswyr newydd, roedd ac mae ‘patriarchaeth’ a chyfalafiaeth pob dydd hefyd yn dal popeth a phawb yn ôl ac ar fai am bopeth. Ac roedd ac mae angen i unrhyw un a oedd â barn wahanol i’r Marcswyr gael eu hanwybyddu, eu sarhau neu eu tawelu. Gwneir hyn yn arbennig o glir yng ngwaith un o aelodau enwocaf y mudiad cynnar, darlithydd ac un o brif actifyddion Ysgol Frankfurt, Herbert Marcuse. Mae papur enwog Marcuse ‘Repressive tolerance’ a gyhoeddwyd ym 1965, yn nodi’n glir ac mewn du a gwyn sut yr oedd yn credu bod angen i rhai goddefiadau ‘gael eu rhyddhau’ (eu stopio) pan mae’n dod at farn y bydde fo a’i gyfeillion yn anghytuno ag o. Yn ei bapur enwog ar y pwnc ‘Repressive tolerance’, dywed Marcuse:
“Liberating tolerance, then, would mean intolerance against movements from the Right and toleration of movements from the Left”
Sylwer mai diwylliant neu draddodiadau mwy cymdeithasol geidwadol neu draddodiadol sy’n cael eu targedu yma nid y dde neo-ryddfrydol (neu gyfalafiaeth fonopoli i fod yn fanwl gywir) eithafol i wneud gyda’r bancwyr rhyngwladol, arian a chyllid a’r diwydiant rhyfela – mae’r sefydliadau rhyngwladol rhemp a pwdwr hynnu yn cael eu anwybyddu a chael llonydd gan y neo-Farcswyr yn gyffredinol – rhywbeth pwysig a pherthnasol iawn i’w nodi wrth geisio edrych ar y pictiwr mawr a dangos mai nid grŵp o ideolegwyr naïf yn credu yn ddidwyll yn eu hegwyddorion sydd tu ôl i hyn oll.
Mae’r dyfyniad yma uwchben gan Marcuse yn mynd at graidd y symudiad ac yn dangos mae symudiad gwbl anoddefgar ac anrhyddfrydol ydi hwn sydd yn cuddio o dan glogyn goddefgarwch a rhyddfrydiaeth ‘flaengar’. Aeth Marcuse ymlaen i fod yn aelod blaenllaw o’r OSS (Office of Strategic Services) – asiantaeth ryfel a deallusrwydd rhyfel llywodraeth yr Unol Daleithiau yn ystod yr ail ryfel byd, a rhagflaenydd i’r CIA / Central Intelligence Agency.
Critical Theory
Mae Critical theory yn dechneg arall a gafodd ei greu a’i bregethu i fyfyrwyr gan aelodau’r ysgol Frankfurt fel rhan o symudiad yr ysgol – gan Max Horkheimer yn enwedig. Yn rhan o Farcsiaeth ddiwylliannol yn gyffredinnol, pwrpas Critical theory oedd/ydi beirniadu ac ymosod ar bopeth sydd yn graidd i ddiwylliant haniaethol Ewropeaidd yn arbennig – yn cynnwys y teulu, traddodiad a diwylliant cenedlaethol, teyrngarwch i genedl a chenedlgarwch, moesoldeb a gwerthoedd moesol a Christnogol, perthnasau hetero rywiol dynion a dynesau a’i gilydd a chyfalafiaeth bob dydd.
Y nod oedd ac ydi, drwy’r system addysg ac academia, gwleidyddiaeth, y cyfryngau a diwylliant yn gyffredinol, dileu a dinistrio’r holl nodweddion yma ac yn eu lle, gosod ffordd cwbl newydd o feddwl ac o fyw fydde yn araf deg yn datblygu i fod ‘y norm newydd’ ac yn rhan o un diwylliant rhyngwladol o dan drefn bydol newydd (New world order). Gwelir hyn yn weddol amlwg yn un o ddyfyniadau Horkheimer o’r cyfnod:
“The Revolution won’t happen with guns, rather it will happen incrementally, year by year, generation by generation. We will gradually infiltrate their educational institutions and their political offices, transforming them slowly into Marxist entities as we move towards universal egalitarianism.” – Max Horkheimer
Y sefyllfa erbyn heddiw
Roliwch ymlaen i heddiw, dros hanner canrif yn ddiweddarach ac mi allwn weld, hyd yma, fod y peiriannwyr cymdeithasol meglamaniacal yma wedi bod yn dra llwyddiannus yn eu hymgyrchoedd i drawsnewid diwylliant a chymdeithas. Erbyn hyn mae diwylliant honedig ‘woke’ cywirdeb gwleidyddol ac ymosod ar ryddid barn yn sefydliadol, a bellach i’w weld yn rhan greiddiol o brifysgolion, colegau ac ysgolion yn y gorllewin a thu hwnt.
Mae’r ‘frawdoliaeth o ddioddefwyr’ hunan gyfiawn wedi tyfu i gynnwys pob grwp lleiafrifol posib gan gynnwys grwpiau i wneud gyda gwahanol hiliau honedig leiafrifol, yn ogystal a grwpiau i wneud gyda rhywioldeb, gan gynnwys pobol trans a’r sbectrwm newydd ac enfawr o wahanol rywioldebau o dan fantell LGBTQI ayb.
Gwelir safe zones a rheolau ‘dim platfform’ yn codi o fewn y prifysgolion a thu hwnt, a gwaherddir nifer o siaradwyr gwadd rhag siarad er mwyn ‘gwarchod teimladau’r myfyrwyr rhag barnau neu safbwyntiau gwahanol a all eu hypsetio’ – gan arwain llawer i nodi fod nifer o genhedlaeth neu genedlaethau a ddisgrifir yn aml fel cyfuniad o bluod eira ‘Woke‘ a SJW’s (Social Justic Warriors) yn, a wedi ei chreu, sydd yn hapus i weiddi a beirniadu eraill ond yn gwbl analluog i ddelio gyda gwahaniaethau neu safbwyntiau barn sydd yn wahanol i’w rhai nhw.
Ac mae unrhyw farn sydd wedi ei benderfynu ganddynt i fod ‘yn annerbyniol’ unai yn cael ei wahardd neu ei labelu yn ‘siarad casineb’ a’i sensro. Os oes un lle ble dyle confensiynau, agweddau a daliadau pobol gael eu herio a’i procio, a ble gellir dadlau ac ystyried pob syniad o dan haul er mwyn datblygu gallu a sgiliau’r unigolyn i feddwl a chanfod barn ei hunan yn y byd, prifysgolion a cholegau ydi un o’r llefydd amlwg hynnu.
Ond dim mwyach mae’n ymddangos. Rwan, ynghyd ag ysgolion, maent yn ymdebygu mwy i ganolfannau indoctroneiddio Orwelaidd lle mae’r rhaid i bawb feddwl yr un fath neu gael eu cosbi am wrongthink os nad ydynt yn cydymffurfio.
Ffeministiaeth fodern – ymosodiad bwriadol ar ferched, nid eu hachubiaeth
Ychydig sy’n amgyffred y posibiliad mae ymosodiad ar ferched yw ffeministiaeth fodern – ffeministiaeth ail don, trydydd a phedwaredd ton yn enwedig.
Anaml mae yn cael ei grybwyll mai ddim ond yn 1918 y pasiwyd Deddf Seneddol i roi hawl i i ddynion dros 21 oed bleidleisio, p’un a oeddent yn berchen ar eiddo ai peidio, ac i fenywod dros 30 oed yn ogystal.
Ddeng mlynedd wedyn, yn 1928, o’r diwedd enillodd fenywod hefyd gydraddoldeb etholiadol pan roddodd Deddf 1928 y bleidlais i bob merch dros 21 oed. Felly mae’r syniad yma mae gormes dynion yn gyffredinol sydd tu ôl i bopeth yn ychydig o ffalasi o’r dechrau. Gormes ar holl ddynion a merched gan ethol rai sydd wedi ac sydd yn dal i fod mewn bodolaeth yw hyn wedi bod erioed-ethol rai sydd fel arfer yn perthyn i’r elit sefydliadol ariannol a gwleidyddol – ac elit sydd wedi ac sydd dal gyda’r pŵer i yrru miliynau o ddynion ifanc i ryfel i gael eu lladd a’u chwythu i ddarnau mewn rhyfeloedd y mae’r elit yma yn aml wedi eu creu ac yn elwa ohonynt yn ariannol.
Ac erbyn hyn, ac yn wahanol i’r holl brotestio sydd yn honni yn wahanol, er bod cydraddoldeb cyfleodd bellach yn bodoli yn gyfreithiol rhwng merched a dynion ym mhob maes, mae’r ymgyrchu ffeministaidd di ddiwedd wedi ei hen herwgipio gan y rhai hynnu sydd am ymosod ar ferched a chryfderau a rhinweddau creiddiol menywaidd a benyweidd-dra.
Ac yn enwedig, ymosod a dilorni dewis a rhyddid merch i fagu teulu a rhedeg y cartref – ac yn arbennig pan yn ifanc ac ar eu mwyaf ffrwythlon. Dilornir y fath beth fel rhywbeth hen ffasiwn, cul ac wedi ei orfodi gan ‘ormes batriarchaidd’. Yn lle, mae’r corfforaethau, y wladwriaeth a’r peirianwyr cymdeithasol wedi bod yn llwyddiannus mewn annog merched i fod yn deyrngar i gwmnïau, i gorfforaethau, i gonsumerism ac, er yn llai pwysig i’r globaleiddwyr,i’r wladwriaeth. Hyn oll, yn gyffredinol, yn hytrach na bod yn deyrngar i’w teuluoedd, eu gwŷr ac i gymdeithas a’r genedl.
Golyga hyn hefyd fod y banciau a’r wladwriaeth yn gwneud mwy o bres o’r dreth incwm ychwanegol o ganlyniad i fwy o ferched yn gweithio, a’r corfforaethau hefyd drwy’r gwariant ychwanegol gan yr un merched o ganlyniad i gael mwy o bres i’w wario. Hefyd, golyga’r ffaith fod mwy o ferched yn dewis gweithio i eraill, fod y wladwriaeth yn gallu ‘cael at y plant’ er mwyn eu indoctrineiddio yn well ac o oed cynharach – yn ogystal a’r cyfle i wneud y plant yn rhan o’r system gyfalafol/gorfforaethol o brynu di ddiwedd yn ifancach.
Gwerth nodi hefyd, yn ôl yr awduron Ellen Chesler, Peter J Johnson a John Ensor Harr, fod y teulu hynod ddylanwadol, y Rockerfellas yn un enghraifft amlwg o deulu neu sefydliad hynod gefnogol sydd wedi (ac yn) annog gymaint â phosib o ferched i weithio yn yr Unol Daleithiau (ac wedyn Prydain a gweddill Ewrop) o’r 1960’au ymlaen yn enwedig, ynghyd a bod yn flaenllaw mewn hybu’r pil atal genhedlu gyntaf drwy gefnogi gwaith Margaret Sanger (Planned parenthood yn nes ymlaen) ac eraill. Hynnu yn ogystal ac annog ‘y chwyldro rhyw’ honedig, Y tyb yw mai nid chwyldro organig hap a damwain oedd hwn ond yn hytrach rhan o’r cynllun i chwalu’r teulu traddodiadol ac i gael mwy o ferched yn gaeth i’r system gyfalafol ac i fod yn ‘unedau consumerist‘ newydd. Mae cyfweliad enwog a hynod ddiddorol gyda’r cyfarwyddwr ffilm Aaron Russo ar y we sydd yn trafod y mater yma yn gelfydd.
Yn yr un modd a’r pwynt uchod, mae’r agenda yma hefyd yn ymosod ar ddynion a chryfderau creiddiol gwryw, a’u gwneud allan i fod yn rinweddau cul, hen ffasiwn a chynhenid ormesol a threisgar. Ac yn yr un modd, rhaid annog dynion i fod yn deyrngar i gwmnïau, i gorfforaethau, i gonsumerism ac i’r wladwriaeth yn hytrach nag i’w teuluoedd, eu gwragedd, i gymdeithas ac i’r genedl.
Mae’r rhan fwyaf dwi’n siŵr yn cefnogi hawliau cyfle cyfartal i ddynion ac i ferched. Ond er hyn, mae merched a benyweidd-dra, yn ogystal â dynion a gwrywdod, drwy gynllun, yn cael eu hymosod arnynt gan y peirianwyr cymdeithasol. Mae harddwch yn ogystal â thueddiad a sgiliau naturiol merched i feithrin a gofalu am blant ac eraill yn cael eu hymosod arnynt yn gyntaf, gyda merched rwan yn cael eu hannog i ddad harddu eu hunain yn fwriadol mewn bob ffordd bosib, i ddinistrio’r agweddau hynnu ohonynt sydd yn ei gwneud yn unigryw fenywaidd, ac i’w hannog i fod yn ‘fwy fel dynion’, yn andrognous neu yn ddi ryw. Yn yr un modd mae dynion yn cael eu hannog i fod mwy fel merched, yn androgonous neu yn ddi ryw.
A rwan mae hyd yn oed yr hawliau cyfiawn elfennol hynnu o gydraddoldeb i ddynes ac i ddyn yn wyneb y gyfraith y gall bawb ei gefnogi ac a frwydrwyd yn haeddiannol amdanynt, o dan fygythiad ac yn cael eu hisraddio a’u diystyru gan y peirianwyr cymdeithasol – hynnu drwy ddod a’r mater diweddaraf i mewn sef materion trans di gwestiwn.
Beth bynnag eich barn neu ddim ar y pwnc, gyda’r mater diweddar yma, gwelir hawl sylfaenol dynes neu ddyn fiolegol i breifatrwydd ac i hyd yn oed ddiffinio eu hunain fel dyn neu ddynes fiolegol, o dan fygythiad gan ei fod yn cael ei fynnu mae jisd label amhendant yw rhyw sydd yn gallu newid ar fympwy. Ar ben y gwallgofrwydd yma, mae ymgais gan awdurdodau i orfodi pobol i wneud disgrifiadau biolegol anwir o eraill neu risgio cael eu harestio am ‘siarad neu annog casineb’.
Yndi, mae ymgyrchu hawliau trans wedi hyd yn oed dechrau mynnu nad oes hawl gan ferched i anghytuno fod merched trans (pobol oedd ‘yn arfer bod’ yn ddynion) yn ferched biolegol ac felly ddim yn gallu gwrthwynebu rhannu unrhyw ofod preifat megis ystafelloedd newid gyda pherson neu bersonau trans – preifatrwydd sydd, hyd y gwn i, wedi cael ei gymud yn ganiataol ers dechre amser. Ac maer’r un peth yn wir am ddynion pan mai’n dod at ddynon trans (pobol oedd yn arfer bod yn ferched).
Mae’r diffyg preifatrwydd yma yn cynnwys stafelloedd newid a thoiledau a all gynnwys plant, boed yn fechgyn neu ferched. Felly ar ôl degawdau o ymgyrchu yn gyfiawn am gyfartaledd i ferched, mae hyn yn barod yn dechrau cael ei ddiystyru a’i sathru arno gan yr ymgyrchoedd gorffwyll. Ond nid yma mae hyn yn mynd i stopio dwi’n ofni. Y cam nesaf y mae’r peirianwyr cymdeithasol am ei wthio os cawn ei ffordd yw transhumanism sef cyfuno neu asio pobol gyda thechnoleg/peiriannau. Yn barod mae gwladwriaethau yn dechrau gwthio’r syniad o roi hawliau dynol i robotiaid. Mwy am hyn islaw.
Dwi’n ofni mae twyll yw rhan fwyaf o ffeministiaeth fodern – ffeministiaeth trydydd/pedwaredd ton yn enwedig. Twyll sydd, yn unol â’r cynllun cywirdeb gwleidyddol, Ysgol Frankfurt a Marcsiaeth ddiwylliannol, wedi ei gynllunio i danseilio cymdeithas fel yr ydym yn ei hadnabod, drwy ddinistrio’r uned deuluol draddodiadol ac i greu amwysedd a thensiwn di ben draw rhwng dyn a dynes a’u perthynas naturiol nhw.
Mae cyfartaledd cyfle wedi ei osod mewn cyfraith. Ond, er anaml yn beth poblogaidd i’w awgrymu, pan mai’n dod at y ‘gap cyflog’ credir gan nifer cynyddol erbyn hyn fod y gwahaniaeth ariannol yma rhwng dyn a dynes wedi ei ddangos i fod yn rhywbeth sydd yn ddibynnol ar ddymuniad dynion yn gyffredinol i weithio oriau hirach, a merched i hefyd gael plant wrth gwrs– y gwahaniaeth rhwng cyflog pendant ac oriau a weithiwyd.
Pwysig cofio hefyd yn fy marn i nad yw cyfartaledd cyfle yn golygu cyfartaledd canlyniad. Hynny yw, er gwaethaf y cyfle cyfartal sydd i ddyn neu ddynes, ni ellid a ni ddylid gorfodi fod yr un canlyniad yn cael ei weld. Er enghraifft, os oes 5 dynes a 5 dyn yn mynd ar gwrs hyfforddi i fod yn weithwyr carffosiaeth, gwiriondeb llwyr fydde gorfodi, yn erbyn ewyllys unrhyw unigolyn, fod 5 dyn a 5 dynes yn dal yn awyddus i weithio fel gweithwyr caerffosiaeth ar ddiwedd y cwrs.
Hynny yw ni ddylid gorfodi fod yr un canlyniad cyfartal yn digwydd gan fod hyn yn ddibynnol ar ddymuniad a hefyd sgiliau neu allu’r unigolyn – a ddim yn rhywbeth y dyle gael ei fynnu neu orfodi. Byse mynnu cyfartaledd canlyniad bob amser yn bob man, yn mynd yn groes i ‘hawliau dynol’ y dynion a’r merched ac , yn, wel, jisd gwirion.
Erbyn hyn, er eto ddim yn rhywbeth arbennig o boblogaidd i’w bwyntio allan ac efallai ddim yn broblem ddybryd beth bynnag, ond mewn nifer o achosion, gellid dweud fod merched hyd yn oed gyda mantais dros ddynion o ran discrimneiddio positif ar gyfer nifer o swyddi – yn y sector gyhoeddus yn enwedig – gan eu bod yn aml yn cael eu ffafrio ar gyfer swyddi yn seiliedig ar eu rhyw ac ar y quotas a’r ticio bocsus ‘cywir’ a welir yn gynyddol i orfodi mwy o ferched i swyddi nad ydynt o anghenraid gyda diddordeb ynddynt. Hyn yn hytrach na chael eu derbyn ar eu merit a’u sgiliau eu hunain fel dwi’n bersonol yn credu’r dyle ddigwydd yn achos pawb pan mae’n dod at swyddi a phethe o’r fath.
Felly gellid dadlau nad oes hyd yn oed gyfartaledd cyfle mewn gwirionedd. Y gwir anghyfleus i lawer yw bod merched eisoes gyda mantais pan mai’n dod at nifer o swyddi.
A rwan mae rhan fwyaf o gwplau a pharau priod yn gorfod gweithio ill dau er mwyn cadw fynu gyda’r biliau a hefyd creu mwy o gyfalaf i wario ar gynnyrch a thechnoleg newydd di ben draw – neu bod yn unedau consumerist teyrngar i’w roi o mewn ffordd arall. Unwaith eto y corfforaethau a’r bancwyr sydd yn elwa.
Ac fel soniwyd, eironi tywyll arall ydi, o dan yr argraff eu bod yn rhan o chwyldro i ‘ryddhau merched’, fod merched yn hapus i dalu mwy o drethi, gwasanaethu a rhoi eu teyrngarwch i’w bosus a’r corfforaethau cyfalafol tra hefyd yn cael eu hannog i edrych lawr a phw pwian y syniad o roi ei teyrngarwch a’i amser i fagu teuluoedd ac i’w gwŷr. Ac eto, mae’r un peth yn wir am ddynion.
Wrth gwrs mae hefyd modd o gyfuno elfennau o’r ddau beth sef fod posib i ferch a dyn rannu dyletswyddau gweithio a magu plant. Ond yn gyffredinol, y snobyddiaeth fodern ydi edrych lawer ar wraig tŷ sydd yn magu plant ac yn peidio dewis gweithio i gwmni neu gorfforaeth – fel tae peidio gweithio i feistr mewn cwmni neu gorfforaeth yn drosedd erchyll ac yn heresi.
Mewn geiriau eraill, gellid dadlau mae rhith ydi’r chwyldro ffeministiaeth fodern wedi bod gan fod merched/gwragedd yn syml rwan yn gweithio a ‘rhoi o’u hunain’ i’r system gyfalafol ble o blaen nid oeddynt yn gwneud hynnu o anghenraid. Gellid dadlau felly fod merched yn arfer bod yn fwy rhydd o’r system gyfalafol/gorfforaethol na dynion yn gyffredinol.
A gellid hefyd ddadlau bod merched a dynion yn fwy caethiwus rwan, ac mewn system fwy ddibynnol a slafaidd o ran cael eu cyflogi gan ‘y system’ nac y mae rhai yn honni yr oeddynt yn y cyfnod cyn cael ‘eu rhyddhau’ gan y chwyldro rhyw a ffeministiaeth fodern. Tybed ai ‘slight of hand’ neu ‘bait and switch’ fydde’r termau cywir am hyn, ble mae rheolau’r gêm yn sydyn cael eu newid a’i switchio ond yr un meistri sydd yn elwa.
Felly mae’r peirannwyr cymdeithasol wedi ac yn defnyddio’r honedig ryddid ffeministaidd i ymosod ar ferched ac ar fenyweidd-dra ei hun, yn ogystal ag ar wrywdod hefyd yn y broses. A thra bod merched a bechgyn ar hyn o bryd yn rhydd i wneud pa bynnag ddewisiadau maent eisiau mewn bywyd; i weithio, i beidio gweithio, cael plant neu beidio, neu gymysgedd o’r rhain, mae’n bwysig amgyffred ac ystyried fod dylanwadau gan y cyfryngau a diwylliant torfol modern yn eu harwain oll ar gafaelion yn fwriadol.
Felly, tra gall unrhyw ferch neu fachgen ddewis mynd yn blymbar, yn wrestlar, gwerthwr carpedi, i ddawnsio ballet, rasio ceffylau yn yn y Sahara, rasio motobeics neu ‘ffindio ei hunain’ yng nghanol y gwres a’r gwartheg yn India, mi fydde werth hefyd cofio mae rhinweddau a natur fenywaidd sydd hefyd yn gwneud merched yn arbennig ac unigryw, a bod natur wedi rhoi iddynt y pŵer anhygoel o greu a meithrin bywyd newydd, ac felly creu cymdeithasau a chenhedloedd y dyfodol.
Ac, yn gyffredinol, os ydi pobol eisiau bod yn wirioneddol radical y dyddiau yma yne mae angen anwybyddu’r holl bropaganda gwrth deuluol a chefnogi’r syniad o uned deuluol unedig ac o dad a mam ‘draddodiadol’ fel sydd i’w ganfod fel norm o fewn holl fyd natur. Ac eto, na, nid yw hynnu yn golygu bod yn ddilornus, o ddiystyru neu fod yn gas tuag at y rheiny na sydd yn ffitio’r mowld yma.
Yn eironig, o be dwi hefyd yn ei weld yn gyffredinol, yn aml daw’r snobyddiaeth a’r pwysau yma i holl ferched fod yn ferched ‘modern’ a ‘rhydd’, gan ferched eraill – sydd yn aml yn ceisio mynnu fod pob merch yn ymwrthod a’r syniad erchyll o orthrymus o ddewis aros adre a helpu i greu cartref ayb. Mae hyn oll hefyd ynglyn a dewis personol unigolyn wrth gwrs. Ymddengys fod yr eironi o drio dadlau yn erbyn holl ryddid personol dynes neu ddyn i ddewis eu trywydd ei hun mewn bywyd yn ôl ei dymuniad nhw, yn aml cael ei golli. Ydi merch neu ddyn yn ‘fwy rhydd’ os yn cael eu gorfodi i weithio i gorfforaeth, bennaeth neu i’r wladwriaeth? Go brin. Os yn gweithio i’w hun ac yn gosod fynu busnes ei hun yne efallai wir.
A pheth arall, rydym yn clywed yn ddi ddiwedd fod merched a bechgyn yr union ru’n peth a gyda’r union yr un gallu ym mhob maes. News fflash -nid yw hyn yn wir. Mae merched a bechgyn yn amlwg yn wahanol, a diolch byth am hynnu – vive la différence. Felly tra bod rhai yn mynnu y dyle merched fynd allan o’i ffordd i wneud popeth y mae dynion yn gallu ei wneud, a dynion yr un peth mewn meysydd traddodiadol merched hefyd, unwaith eto mae realiti yn cael ei anwybyddu.
Dwi’n siŵr fod merched a bechgyn yn gallu gwneud llawer iawn o bethe y mae’r rhyw arall fel arfer wedi rhagori ynddo. Ond mae dal wahaniaethau amlwg a naturiol. Er enghraifft, yn gyffredinol nid yw merched mor gryf yn gorfforol a dynion. Felly mae’n sefyll i reswm nad ydi heddwas benywaidd sydd ar y front line yn mynd i fod cyn gryfed â dyn pan yn gorfod delio gyda throseddwyr treisgar ac allan o reolaeth ar y stryd-mae nifer fawr o gofnodion fidio o heddweision benywaidd yn methu dygymod gyda throseddwyr yn tystio i hyn.
Mae hynnu wedyn yn codi cwestiynau am y peryg o heddweision benywaidd sydd ddim yn gallu gwarchod y cyhoedd gystal a rhai gwrywaidd yn gyffredinol. Hyn heb sôn fod dynion yn reddfol isio gwarchod merched a ddim isio eu gweld yn cael eu niweidio gan ymosodiadau, boed fel heddweision, milwyr ar faes y gad neu unrhyw sefyllfa arall o beryg.Yn yr un modd efallai nad ydi dynion wastad yn mynd i fod cweit gystal gyda phethau fydde yn cael ei hystyried yn fwy addas i gryfderau benywaidd.
Ac wrth gwrs, un peth sydd ddim yn aml gael ei annog neu ei drafod gan ferched a’r cyfryngau heddiw ydi i ddathlu eu benyweidd-dra naturiol, eu harddwch a’u rhinweddau benywaidd traddodiadol yn gyffredinol, ac i ystyried magu plant a dechrau teulu – mae awgrymu neu drafod pethau o’r fath yn gyffredinol yn fath o heresi fodern arall. Mae gwir bŵer merched yn eu rhinweddau benywaidd naturiol yn fy marn i, nid yn yr agenda syrffedus i fod yn union fel dynion ac i gystadlu gyda dynion er mwyn ceisio profi rhywbeth drwy’r amser. Er, fol nodwyd, mae hyn i gyd am ddewis personol yn y pen draw wrth gwrs.
Ac o be allai weld, mae merched yn cael eu gwneud i deimlo’n euog ac yn cael ei israddoli am ddewis bod yn wragedd tŷ neu am aros adre yn edrych ar ôl plant, fel tae hyn yn ryw fath o drosedd erchyll yn hytrach na dewis a rhan o broses naturiol magu teulu a meithrin plant i’r byd.
Ond y gwir yw, o fewn y tua 20-30 mlynedd dwethaf yn enwedig, fod sefyllfaoedd domestig o’r fath wedi mynd o fod y norm, i gael eu disgrifio fel rhai cul a cheidwadol. Ond, fel soniwyd, erbyn heddiw mae ‘ceidwadaeth’ o’r fath yn radical gan mae’r norm erbyn hyn, yn ôl y naratif cyfryngol, ydi hedoniastiaeth di derfyn, teuluoedd anrhaddodiadol, anfoesoldeb , narsisistiaeth a rhyw arbrofol a ‘anturus’ gyda chymaint bobol o ba bynnag ryw neu rywioldeb bosib – yr agweddau yma ydi’r normau newydd – bron gellid dweud eu bod, yn eironig, wedi tro yn normau ceidwadol erbyn hyn. Ac felly agweddau traddodiadol neu nodweddiadol geidwadol ydi’r gwir radicaliaeth neu alternatif modern erbyn hyn mai’n ymddangos. Gyda ymddiheuriadau am y gymnasteg feddyliol.
Ac na, nid oes ryw gonspirasi gudd a phatriarchaeth ormesol yn rheoli cymdeithas a gwneud yn siŵr fod merched yn cael eu cadw lawr a’u gormesu. Y gwir yw, tan tua dechrau 2020 oleiaf, nad yw merched (a dynion hefyd) yn y gorllewin erioed wedi cael pethe mor dda â sut mae pethe wedi bod yn y degawdau diwethaf – erioed wedi cael gymaint o ryddid, o gyfleon, o gydraddoldeb cyfle ac o ddewisiadau a rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain mewn bywyd.
Ac os am brotestio am ormes go iawn yn erbyn merched, be am fynd i Saudi Arabia, i India neu amryw o wledydd Affrica ble mae gormes a thrais erchyll go iawn yn cael ei gario allan yn erbyn merched (a hoywon). Ac oes, wrth gwrs fod yne ddynion o gwmpas yn gyffredinol ac yn agosach at adref sydd yn troseddu yn erbyn merched ac sydd angen i’r gyfraith ddelio a nhw yn y modd cywir. Ac oes, wrth gwrs fod dynion misogonistaidd yn bodoli sydd yn trin merched yn wael, yn yr un modd fod merched misandristaidd sydd yn casau dynion yn bodoli. Oes, shock horror, mae pobol wael yn bodoli yn y byd…
Rhaid gofyn y cwestiwn teg a rhesymol hefyd – ymhle erbyn hyn yn y gorllewin dweder, nad oes gan ferched hawliau cyfartal yng ngwyneb y gyfraith? (ac o ystyried fod gwahaniaethau cyflogau wedi cael eu hesbonio fel y gwahaniaeth mewn dewisiadau personol rhwng y ddau ryw) Ymhle?
Felly rhaid hefyd gofyn y cwestiwn i ferched ac i ddynion sydd yn dilyn dogma selotaidd ffeministiaeth fodern yn ddi gwestiwn – onid ydi ffeministiaeth fodern wedi bod yn dric creulon ar ferched ac ar ddynion, ac, yn hytrach na’u hachubiaeth, wedi yn lle bod yn ymosodiad ar ferched, ar fenyweidd-dra ac ar wrywdod yn gyffredinol?
Materion tranz….zzz
Un o’r materion diweddaraf yn syrcas gwiriondeb identity politics ag a welir yn gynyddol, ydi’r hysteria i’w wneud gyda materion trans. Mae gan bawb wrth gwrs yr hawl i gael eu trin gyda pharch, dealltwriaeth a gofal be bynnag ei sefyllfa. Ac mae pob person yn rhydd i fynegi ei hunain, ei rhywioldeb ac i wisgo be bynnag mae’n nhw eisiau cyn belled â’u bod yn cadw at gyfraith gwlad a ddim yn anafu neb.
Ond beth bynnag y gwahanol farnau, mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng rhywioldeb person a rhyw biolegol person. Mae digon o arbenigwyr yn y byd sy’n gallu cyflwyno’r dystiolaeth yma yn well na fi dwi’n siŵr ond y ffaith syml yw y gall unrhyw feidrolyn weithio allan fod y gwahaniaeth yn y ddau ryw yn ffaith fiolegol greiddiol sydd yn ymwneud a dynes fiolegol gyda’r cromosomau XX a dyn biolegol gyda’r cromosomau XY – gyda nifer fach iawn o hermaphrodites (neu bobol rhwngryw / intersex) gyda marciau cromosomaidd a/neu organau rhywiol amrywiol yn bodoli hefyd fel eithriad i’r norm – rhwng 0.018% a 1.7% o’r boblogaeth mae’n ymddangos yn dibynnu ar y gwahanol farnau meddygol o ran diffiniadau. Ac oes mae ffashiwn beth a norm mewn natur – ac nid yw dweud hynnu yn gyfystyr a diystyru neu ddilorni eithriadau i’r norm.
Ond ni ellid newid ffeithiau syml fel be ydi bioleg greiddiol pobol, dim bwys faint bynnag o weiddi a wneir i’r gwrthwyneb – heb fynd i fyd dychrynllyd a dystopaidd y doctoriaid geneteg ac eugenics hynnu sydd a’u pryd ar chware Duw a cheisio creu dynoliaeth robotaidd synthetig newydd oleiaf.
Ac nid oes gan neb yr hawl mynnu fod eraill yn derbyn be bynnag maent yn credu ynddo fel ffaith – yn arbennig pan yn dod at fynnu, yn erbyn ewyllus eraill, fod yr eraill hynnu yn defnyddio disgrifiadau biolegol sydd yn ffeithiol anghywir.
I’w roi mewn ffordd arall eto – mae gan unrhyw un berffaith hawl i ddisgrifio ei hun fel teimlo fel dyn, fel dynes, fel ceffyl, jiráff, ci, wiwer, fel Elvis Presley neu fel Jimmy Tarbuck os mae dyne yw eu dymuniad. Ond nid ydi hynnu yn golygu mae jiráff, Elvis neu Jimmy Tarbuck ydynt, ac mae ceisio hawlio hynnu fel ffaith fiolegol neu ffeithiol yn wallgofrwydd ac yn anwiredd. Petai newid ffeithiau fel hyn yn bosib yn y dull (pardwn y term) – wili nili yma, mi fyswn wedi hen hawlio mae’r frenhines ydwi a fy mod felly yn hawlio ei holl gyfoeth. Neu Bill Gates ydwi mewn ffurf ci ac yn mynnu yn gyfreithiol fy mod yn haeddu ei holl gyfoeth tra’n gorweddian o gwmpas ei wahanol balasau yn y byd yn buta mefus a chyfarth ar y postmon.
Tranhumanism/Artificial Intelliegence a’r ‘pedwerydd chwyldro diwydiannol’
Cyn hir mi fydd pethe yn ymwneud gyda materion trans, hil a ffeministiaeth hefyd yn gwneud lle i’r mater nesa diweddaraf i gael ei wthio gan y globaleiddwyr – sydd yn debygol o fod y mater wirioneddol orffwyll a pheryg o transhumanism, AI/Artificial Intelligence ac awtimediddio sef ymgyrch arall y globaleiddwyr truenus i geisio rhoi ‘hawliau dynol’ i robotiaid a hefyd gyfuno pobol cig a gwaed gyda pheiriannau a’r dechnoleg ddiweddaraf er mwyn creu ‘pobol neu ‘pobots’ (pobol/robots) AI newydd’.
Mae arwyddion o’r bwriad yma yn cael eu gweld a’u clywed yn barod. Unwaith eto, y nod yw tanseilio cymdeithas, dynoliaeth a gwareiddiad fel rydym yn eu habod, er mwyn ennill grym a rheolaeth i system un byd dotalitaraidd y globaleiddwyr, ble mae’r dechnoleg ddiweddaraf ynghyd a ‘gwyddonwyr’ yn ein rheoli oll.
Rheoli geiriau, iaith a rhyddid barn
Ar ddiwedd 2018 arestiwyd dynes o Loegr yn ei chartref ac o flaen ei phlant, a’i dal yn y ddalfa gan y wladwriaeth am ddisgrifio dynes trans (oedd yn arfer bod yn ddyn) fel dyn yn hytrach na dynes. Yn Awst 2019 gorfu iddi fynd o flaen llys barn i wynebu cyhuddiadau ‘o ddewis ‘y geiriau anghywir’.
Mi ddyle fod yn weddol amlwg i bawb o edrych ar hanes pa mor beryg yw’r math yma o gyfreithiau, sydd yn cynnwys cyfreithiau diweddar mympwyol a pheryg ‘siarad casineb’ a greuwyd gan y wladwriaeth – gwladwriaeth sydd am reoli pa eiriau y gallwn ddweud neu beidio drwy greu cyfreithiau ble mae person yn gallu mynd i garchar am ddim ond ddewis gair, geiriau neu farn nad yw’r awdurdodau yn barnu i fod yn dderbyniol.
Mae llywdodraeth y Deyrnas Gyfunol hefyd wrthi yn ceisio creu ddeffwriaeth ‘Online harms’ sydd yn esgus bod ynglyn a gwarchod pobol ond sydd mewn difrif ynglyn a sensoriaeth fympwyol a pheryg ar farn eraill gan y wladwriaeth.
A phan mae canwr byd enwog megis y canwr Sam Smith yn cyhoeddi, fel y gwnaeth yn 2019 gyda chefnogaeth y prif gyfryngau yn cynnwys y BBC, ei fod o hyn allan i gael ei adnabod fel ‘nhw’ neu ‘rheiny’ yn hytrach na ‘fo’, ac yn mynnu fod pawb yn cadw at y termau gwallgof ac anwir yma, yne gallwn ddatgan yn glir fod hyn yn ymosodiad ar resymeg ac felly yn ymosodiad ar wareiddiad.
Ac felly mae dyletswydd arnom ni i alw allan ac ymwrthod a gwiriondeb o’r fath. Oherwydd, i’r rhai sydd yn gyfarwydd gyda gwaith Bertrand Russell, George Orwell, y brodyr Huxley ac eraill, mae angen sylweddoli mai bwriad y peiriannwyr cymdeithasol yw cyfyngu ar nid yn unig y geiriau y gallwn ddefnyddio ond hefyd y rhyddid meddwl sydd yn perthyn i ni oll – a hynnu nes ein bod, yn llythrennol, yn galw eira yn ddu a nos yn ddydd. Dwi’n credu ei fod yn amser i bobol o bob cefndir i ddechrau datgan yn glir “Nid yw’r ymerawdwr/wyr yn gwisgo unrhyw ddillad” a rhoi stop ar y gwiriondeb peryg yma sydd wedi amlygu ei hun yn y blynyddoedd diweddar yn enwedig. Digon yw digon.
Meic Stevens ac eraill yn Llys y twitter
Dwi ddim wastad yn ffan o be mae sawl person sydd yn wyneb y cyhoedd yn ei ddweud na’r ffordd y maent yn ei ddweud ond dwi erioed yn cofio mynnu nad oes ganddynt hawl i ddweud be maent eisiau. Ar adegau dwi ddim hyd yn oed yn ffan o be dwi fy hun yn ei ddweud neu’r ffordd rwy’n ein ddweud ond dwi’n trio maddau i fy hun heb or hunan fflangellu.
Ond os ydi pawb yn mynd i grio mewn i’w fests a chael strops gwirion bob tro mae rhywun yn unai dweud rhywbeth ffeithiol gywir neu ddweud rhywbeth nad ydynt yn ei hoffi yne mae pethe yn mynd i fynd yn flêr iawn i gymdeithas.
Yn haf 2019 cyhuddwyd y canwr Cymraeg Meic Stevens yn Llys y twitter am ‘fod yn hiliol’ a’i fanio bron yn syth o nifer o wyliau cerddorol Cymreig.
Trosedd ddieflig Meic yn ôl rhai mae’n ymddangos, oedd disgrifio ac arsylwi fod niferoedd Mwslemiaid yng Nghaerdydd yn uwch nac y bu. Heb unrhyw ragfarn, emosiwn neu gasineb, mae hyn yn ffeithiol gywir ac yn amlwg i unrhyw un sy’n byw yn y ddinas p’unai oes ganddynt farn neu ddim ar y peth. Dengys sensws ONS fod poblogaeth Fwslemaidd Cymru wedi dyblu i 45,950 rhwng 2001 a 2011, gyda’r rhan fwyaf o’r cynnydd yma i’w weld yng Nghaerdydd sydd gyda poblogaeth o 23,656 o Fwslemiaid. Erbyn y sensws nesa yn 2021 gallwn ddarogan y bydd y swm yma o bosib wedi dyblu eto. Ddim mai hil ydi Mwslemiaeth beth bynnag wrth gwrs, ond yn hytrach crefydd.
Mae modd hefyd sylwi fod llawer mwy o fyfyrwyr Tsieinëeg yng Nghaerdydd erbyn hyn, mwy o figrants economaidd a ffoaduriaid o’r Dwyrain canol ac Affrica, mwy o Saeson – gyda llawer o’r Saeson yma hefyd yn Fwslemiaid ac o dras Affricanaidd, Affro Caribïaidd ac Asiaidd erbyn hyn hefyd wrth gwrs – a hefyd, mwy o Gymry Cymraeg. Ydi’r heddlu meddwl wedi deddfu ei fod yn iawn i drafod rhai o’r rhain ond ddim rhai eraill? Ydi pobol rwan ddim yn cael arsylwi a thrafod pethe sydd yn mynd mlaen yn eu gwlad eu hunain ac o’u cwmpas heb risgio cael mob Piwritanaidd honedig ‘Woke’ yn eu herlid gyda pitchffyrch a thorchau fflamiedig drwy’r strydoedd yn enw ‘blaengarwrch’?
Rhagrith a chulni rhyddfrydol. Y Saint daionus hunan gyfiawn blinedig, honedig ‘woke’
O edrych ar y peth yn wrthrychol, sut ei fod yn dderbyniol sôn a chwyno am Saeson gwyn eu croen yn dod i mewn i Gymru a defnyddio termau arnynt a all yn dechnegol fod yn sarhaus, ystrydebol a hiliol megis ‘gammon’ ayb, ond ddim yn oce i hyd yn oed sôn am unrhyw bobol o dras ethnig, hil neu genedligrwydd arall? Safonau dwbwl onid e? Ble mae’r cysondeb?
Mewn llawer o’r wasg orllewinnol, gan gynnwys dipyn o’r wasg Gymraeg a Chymreig, rhyfedd yw gweld ymosodiadau agored ar ddynion gwyn yn sbesiffig – a hynnu gan sgwennwyr a chyhoeddiadau sydd yn honni bod yn rhyddfrydol a blaengar. Ymosodiadau sydd, os yn dilyn rheolau a safonau honedig flaengar ac ‘wrth hiliol’ nifer o’r sgwennwyr yma eu hunain, yn dangos anoddefgarwch, erledigaeth a hiliaeth sylweddol yn seiliedig ar liw croen.
Ac mae’n amlwg nad oes cysondeb gan bawb pan mae’n dod at hiliaeth. Yn bersonol rwyf yn ebyn hiliaeth tuag at unrhyw bobol neu hil, a phan siaredir allan yn erbyn hiliaeth yn erbyn pobol o liw croen tywyll yne mae pawb yn haeddiannol gytun a chefnogol i atal y fath beth. Ond os dalir yr un safonau ac egwyddor i siarad allan yn erbyn hiliaeth yn erbyn pobol croenwyn/caucasian – lleiafrif ethnig o oddeutu 11.5% yn y byd – yne yn sydyn mae’r rheolau yn newid ac yn sydyn, y rhai sydd yn siarad allan yn erbyn y fath anoddefgawrch a hiliaeth yw’r rhai sydd yn cael eu hymosod arnynt am fod yn ‘eithafwyr hiliol’.
Ymddengys nad yw’r sgwennwyr hunan foddhaus yma, amryw ohonynt yn hynod hoff o ddangos faint o ryddfrydol ddaionus ydynt, yn deall ystyr rhagrith a safonau dwbwl. Be am beidio cael y safonau dwbl yma a chael cysondeb a rhyddid i drafod, canmol neu feirniadu pawb ac unrhyw un sydd yn symud i Gymru heb unrhyw ddiscrimineddio dethol a rhagrith rhyddfrydol?
Y byd ar ben ar ôl i ddyn ganmol coesau merch
Ym mis Mai 2019 dedfrydwyd Cymro arall, y colofnydd Huw Onllwyn, yn Llys y cyfryngau cymdeithasol am, mae’n ymddangos, ganmol neu wneud arsylwad ar goesau’r actores Eve Myles oedd yn gwisgo high heels mewn rhaglen o’r enw Un Bore Mercher. Y Patriarch erchyll ag o. Gyda Mr Onllwyn gyda’r hyfdra i actio fel tae dynion gyda barn ar bethe neu yn gallu ffindio rhai merched yn ddeniadol neu rywbeth. Rhag ei gywilydd. Yn amlwg nid yw Ms Myles yn ddynes annibynol sydd yn gwneud penderfyniadau a dewisiadau ei hun. Mae’n rhaid fod giang o ddynion patriarchaidd gorthrymus yn cadw’r actores hynod lwyddianus ar dennyn ar bob set ffilmio a mynnu ei bod yn gwisgo be bynnag maent yn ei gorfodi i wisgo, gan gynnwys high heels – a hynnu o dan fygythiad chwip neu bastwn. Gorthrwm gwarthus ac erchyll o ddynes ddiniwed wedi ei gorfodi i weithio am ambell grwstyn a gwely gwellt i gysgu arno mae’n rhaid.
Be nesa, dyn a dynes yn cael sgwrs a’i gilydd, neu..na, allai ddim ei ddweud…yn…yn cusanu?? ..neu…, neu….waeth???? Aargh, ffoniwch yr heddlu, mae gwrywdod tocsic yn llifo dros y wlad megis sleim gwyrdd snotiog ffilmiau Ghostbusters, ac ni fydd dianc nes fydd pob merch wedi ei gorfodi i gadw WD40 yn ei handbag a deall rheolau off side.
Gwleidyddion ddim yn deall egwyddor greiddiol rhyddid barn
Mae adegau cynyddol yn codi gyda nifer o ffigyrau gwleidyddol a chyhoeddus yn Senedd Cymru, San Steffan, Ewrop a thu hwnt sydd yn achosi consarn am amlygiad diwylliant cywirdeb gwleidyddol eithafol ynghyd a’r cyfyngu cyffredinol yma ar ryddid barn.
Ac mae’n ymddangos i fi fod nifer o’n gwleidyddion presennol, yng Nghymru ac ar draws y byd, ddim cweit wedi deall sut yn union mae rhyddid barn yn gweithio. Pan mae gwleidydd Cymreig neu unrhyw un arall yn gwneud sylwad a mynegi barn bersonol na sydd yn cael ei gysidro yn wleidyddol gywir neu, er enghraifft, fynegi barn am normau cymdeithas, mae nifer o wrthwynebwyr yn aml yn dod ynghyd i sensro a rhoi stop ar lais y person hwnnw, gan fynnu nad yw ei farn neu eiriau o neu hi ‘yn dderbyniol’ ac nad oes ganddynt hawl penderfynu beth yw’r norm mewn cymdeithas neu ddim er enghraifft – tra wedyn yn esbonio iddo fo neu hi be ydi’r normau modern derbyniol y dyle pobol eu parchu a’u dilyn.
Y safonau dwbwl a’r eironi sydd yn ymddangos i gael ei golli yma wrth gwrs ydi nad ydi hi chwaith i fynu i neb arall i farnu neu sensro barn eraill ynglŷn â be y mae o neu hi yn ei ystyried ydi’r norm neu ddim gan fod hyn yn farn bersonol sydd yn amrywio o berson i berson. Nid fel hyn mae rhyddid barn na rhyddid meddwl yn gweithio – mae cymdeithas sydd yn arddel rhyddid barn yn gorfod cydnabod hawl pawb i’w barn yn ogystal â’u hawl i dramgwyddo eraill os ydynt yn dewis gwneud hynnu.
Crynodeb o brif amcanion y globaleiddwyr:
Islaw mae crynodeb o rai o brif amcanion y globaleiddwyr am lywodraeth un byd – gyda llawer o’r pwyntiau yma yn berthnasol i agenda cywirdeb gwleidyddol.
- Dinistrio’r teulu traddodiadol gan fod y teulu traddodiadol yn uned greiddiol gryf sydd yn gallu amddiffyn unigolion, cymdeithas, cenedl, a gwareiddiad.
2. Dinistrio a chael gwared â gwledydd ac o genedlgarwch a chenedlaetholdeb yn gyffredinol
3. Dinistrio hawliau etifeddiaeth.
4. Dinistrio hawliau eiddo personol a phreifat.
5. Dinistrio a chreu cymhlethdodau a thensiynau di ri yn y berthynas naturiol rhwng dyn a dynes, ac i ymosod ar y syniad o ryw ei hun.
6. Annog diwylliant a rheolaeth drwy dechnoleg a gwyddoniaeth a gwthio’r syniad o awtomeiddio, ‘transhumanism’ ac AI (Artificial Intelligence) sef y syniad o droi pobol mewn i endidau digidol a thechnolegol sydd yn ddibynnol ar ac yn cael eu rheoli gan dechnoleg a/neu wyddoniaeth, yn cynnwys y syniad o frechlynnau a/neu feicro chip neu farc gorfodol tebyg er mwyn tracio a rheoli pawb.
7. I ddysgu pob math o rywioldeb i blant mor ifanc â phosib – popeth mae’n ymddangos, heblaw’r syniad o ryw a pherthynas ‘draddodiadol’ rhwng dyn a dynes o fewn perthynas neu uned deuluol heterorywiol.
8. Tanseilio awdurdod athrawon.
9. Mewnlifiad gorfodol ar sgel anferth (ac ar draws y byd yn derfynol) er mwyn dinistrio hunaniaeth a diwylliant gwledydd a chenhedloedd, fel bod neb yn unlle gydag unrhyw hunaniaeth a diwylliant unigryw i ymladd ar ei ran a’i warchod.
10. Rhyfeloedd ac ofn di derfyn yn y cyfryngau a chreu bogeymen a ffigyrau terfysgol a bygythiadau newydd megis terfysg, rhyfeloedd, materion a pandemics meddygol ayb yn gyson er mwyn cadw pawb mewn ofn a phryder-ac felly yn haws eu rheoli a’u cyfeirio i’r cyfeiriadau/corlannau gwleidyddol ‘gorau’.
11. Creu rhaniadau a rhwygiadau rhwng gwahanol grwpiau, diwylliannau a hiliau mewn cymdeilthas (gan ddefnyddio ‘critical race theory’ Marcsiaeth ddiwyllianol yn enwedig yn achos gwahanol hiliau) er mwyn eu rhannu, eu rheoli a’u dinistrio (a hefyd elwir yn gyffredinol yn gywirdeb gwleidyddol / Marcsiaeth ddiwyllianol) ac er mwyn ceisio gosod y seiliau ar gyfer system un byd newydd.
12. Dinistrio pob crefydd ‘un Duw’ swyddogol, yn arbennig Cristnogaeth a gwerthoedd Cristnogol, fel bod ideoleg a meddylfryd o dotalitariaeth lwsifferaidd newydd yn gallu cael ei orfodi ar ddynoliaeth yn lle.
13. System gyfreithiol annheg sydd yn ochri gyda’r troseddwyr.
14. Newid drwy’r amser ac ym mhob maes yn ogystal â chreu mwy o fiwrocratiaeth i greu dryswch ac ansicrwydd, ac i geisio dinistrio morâl.
15. Creu troseddau hil newydd di ben draw a chreu troseddau tebyg ynglŷn â defnydd o eiriau arbennig er mwyn rheoli iaith, mynegiant a rhyddid barn yn gyffredinol.
16. Creu ac annog byd heb ffiniau ac un diwylliant global unffurf drwy gorfforaethau a sefydliadau rhyngwladol a chael gwared ag amrywiaeth diwylliannol gwledydd a chenhedloedd y byd.
17. Ymosod ar ferched a chryfderau a rhinweddau greiddiol fenywaidd a benyweidd-dra drwy, yn enwedig ymosod a dilorni dewis a rhyddid personol merch i fagu teulu a rhedeg y cartref, fel rhywbeth hen ffasiwn, cul ac ‘wedi ei ormesu gan batriarchaeth’ – ac yn arbennig pan fo merched yn ifanc ac ar eu mwyaf ffrwythlon. Yn lle maent wedi annog merched i fod yn uned gonsumerist sydd yn deyrngar i gonsumerism, i gwmnïau a chorfforaethau ac i’r wladwriaeth yn hytrach nag i’w teuluoedd, eu gwyr ac i gymdeithas a’r genedl. Golyga hyn hefyd fod y corfforaethau a’r wladwriaeth yn gwneud pres ychwanegol o drethi incwm a bod y wladwriaeth yn gallu cael ‘at y plant’ er mwyn eu indoctrineiddio yn well ac o oed cynharach – gwerth nodi hefyd, yn ôl yr awduron Ellen Chesler, Peter J Johnson a John Ensor Harr, fod y sefydliad teuluol hynod ariannol, y Rockerfellas foundation er enghraifft, wedi bod yn un corff hynod gefnogol i annog gymaint â phosib o ferched i weithio yn yr Unol Daleithiau (ac a wedyn ddigwyddodd ym Mhrydain a gweddill Ewrop) o’r 1960’au ymlaen, ynghyd a bod yn flaenllaw mewn hybu’r ‘chwyldro rhyw’ a’r pil atal genhedlu drwy gefnogi gwaith Margaret Sanger ac eraill.
18. Yn yr un modd a’r pwynt uchod, ymosod ar ddynion a chryfderau creiddiol gwryw, a gwneud y rhinweddau yma i fod yn rhinweddau cul, hen ffasiwn a ‘chynhenid ormesol a threisgar’. Ac yn yr un modd, annog dynion i fod yn ‘uned gonsumerist’, i fod yn deyrngar i gwmnïau, corfforaethau ac i’r wladwriaeth yn hytrach nag i’w teuluoedd, eu gwragedd ac i gymdeithas a’r genedl.
19. Ymosod ar unrhyw fath o brydferthwch, harddwch a naturioldeb yn gyffredinol, yn cynnwys mewn celf a’r diwylliannau creadigol.
20. Annog ewthanasia fel rhywbeth moesol, derbyniol a normal.
21. Annog dibyniaeth ar y corfforaethau a/neu’r wladwriaeth fel y pen teulu newydd.
22. Dymio lawr popeth yn cynnwys y cyfryngau.
23. Cael gwared o bres/arian corfforol go iawn ac yn ei le cael un math o arian digidol canolog sydd yn golygu fod pawb a phopeth yn haws i’w rheoli, ei manipiwleiddio a’u monitro.
A thra bod y materion gwleidyddol gywir ac yn aml, or emosiynol yma y cyfeirir atynt fel Marcsiaeth ddiwylliannol a critical theory – yn ogystal ac adloniant 24 awr ‘bara a syrcas’ – yn cymeryd mwy a mwy o amser ac egni pobol a gwleidyddion, mae’r materion mawr megis hawliau sylfaenol pobol i wneud gyda phreifatrwydd o’r surveillance state, sut mae’r system arian a bancio yn wirioneddol gweithio, rhyfeloedd anghyfreithlon, pydredd a thwyll o fewn y gyfraith a chyrff cyhoeddus, a neo ryddfrydiaeth economaidd y globaleiddwyr corfforaethol trachwantus, oll yn cael eu hanwybyddu.
Y realiti budur yw mae cael gwared o un system a’i ail osod gyda system llawer gwaeth yw bwriad y Neo Farcswyr – yn wybyddus neu ddim iddyn nhw; system fydde yn cael ei reoli gan decnocratiaeth corfforaethol, wyddonol a thechnolegol fyd-eang ar y top fel y’i ddangosir gan nifer fawr o fudiadau a chyrff rhyngwladol dros y blynyddoedd – a ni blebs oddi tanynt yn cael ein rheoli a’n ‘ffarmio’ mewn system gomiwnyddol gan y pwerau corfforaethol umbenaidd yma uwchben. Mae system debyg iawn i’w gweld yn Tseinia rwan gyda’i Social Credit Scheme dystopaidd. Ac mae llawer yn dadlau mae dyma be sydd ganddom ninnau yn y gorllewin yn barod i raddau helaeth.
Ni fydd amryw yn fodlon ystyried fod hyn i gyd yn mynd mlaen yn fwriadol. Ond p’unai ei fod yn fwriadol neu ddim mae o yn mynd mlaen beth bynnag. Ac mae angen deall fod yr agenda yma i reoli rhyddid barn a rhyddid meddwl pobol yn fygythiad i bawb, beth bynnag eu daliadau.
Mae’n rhaid ymladd am ryddid barn pawb yn cynnwys rhyddid barn pobol rydym yn anghytuno a nhw. Drwy ladd a rhoi stop ar ryddid barn eraill rydym yn lladd ein hawl ein hunain i fynnu rhyddid barn. Mae cymdeithas rydd, waraidd ac agored yn dibynnu ar y rhyddid greiddiol yma i oroesi a ffynnu.
Ac mae angen rhoi sdop ar y dotalitariaeth ffug rhyddfrydol yma drwy annog pŵer a gallu yr unigolyn i ddysgu a dirnad ac i feddwl dros ei hun. Ac i wrthod gormes yn ei holl ffurfiau. Ei drafod, ei wrthod a’i ymladd nes ei fod yn diflannu fel niwl y bore.
Prif lun gan Jennifer Moo CC BY-ND 2.0