‘Replacement Migration’ – y rhaglen erchyll i ‘gyfnewid’ pobol a gwledydd Ewrop a thu hwnt nad ydym i fod i’w drafod.

gan Gruffydd Meredith

Anodd yw beio neu ddilorni dymuniad mewnfudwyr, boed yn gyfreithlon ai peidio, am chwilio am safon gwell o fywyd. A dylai ceiswyr lloches dilys sy’n dianc rhag rhyfeloedd a grëir yn aml gan wledydd y Gorllewin a NATO, ddisgwyl ein cydymdeimlad a’n cymorth a chael lloches yn y wlad neu’r gwledydd diogel agosaf fel y gwarchodir mewn cyfraith ryngwladol. Ac yn ogystal, dylai unrhyw berson o unrhyw ethnigrwydd, cefndir neu hil, wrth gwrs fod yn rhydd i ddewis bod neu setlo gyda pha bynnag bartner y dymunant, yn unol â beth bynnag yw cyfreithiau dinasyddiaeth y wlad mewn cwestiwn.

Ond nid yw pethe cweit mor syml â hynny. Ychydig sydd yn llawn ddeall fod ganddom arweinwyr a chynllunwyr gwleidyddol sy’n ceisio creu a defnyddio mewnfudo a symudiad gorfodol pobl ar sgel enfawr, at eu dibenion globaleiddiol eu hunain.

Ers blynyddoedd bellach mae’r Undeb Ewropeaidd, law yn llaw a’r Cenhedloedd Unedig ac eraill, wedi bod yn hybu rhaglen arswydus o’r enw ‘Replacement Migration’ – rhaglen a ‘modelu’ sydd yn annog a hybu mewnfudo ac aml ddiwyllianedd di gwestiwn ac allan o bob proporsiwn i fewn i gyfandir Ewrop o’r tu allan.

Mae’n hen dechneg imperialaidd o alluogi symud pobol o wlad neu gyfandir i’r llall er mwyn ymrannu, concro a rheoli. Defnyddiodd Edward y 1af y dechneg yma yn yr 13eg ganrif er enghraifft, i symud niferoedd o Sacsoniaid i mewn i ganol nifer o drefydd Cymru gan wthio a gorfodi’r Cymry allan i’r ymylon yn y trefi hynnu.

Mae’r imperialwyr/globaleiddwyr newydd am geisio cario allan y cynllun yma yn Ewrop i ddechrau, drwy orfodi oleiaf 56 miliwn o bobol o gyfandir Affrica a’r dwyrain canol i mewn i Ewrop erbyn 2050

Mae’r imperialwyr/globaleiddwyr newydd am geisio cario allan y cynllun yma yn Ewrop i ddechrau mae’n ymddangos, drwy orfodi oleiaf 56 miliwn o bobol o gyfandir Affrica a’r dwyrain canol i mewn i Ewrop erbyn 2050 – rhaglen a honnir sydd yn cael ei gario allan gyda chefnogaeth amrywiol asiantaethau a NGO’s ‘dyngarol ac elusennol’ rhyngwladol sy’n cyd weithio ar wahanol bartneriaethau a chytundebau byd eang, megis, honnir, yr International Organisation for Migration, Global Migration Group, The Africa-EU Partnership, World Bank, The Global Compact for Migration, ac o dan fantell y cwlt rhyngwladol a enwid yn Datblygu Cynaliadwy neu Agenda 21/Agenda 2030.

Mewn modelau eraill gan y Cenhedloedd Unedig mae’r ffigwr yma hyd yn oed yn uwch eto, gyda 79 miliwn, 153 miliwn neu hyd yn oed 673 miliwn o bobol newydd posib angen cael eu hannog i Ewrop erbyn 2050 yn ol damcaniaethu a modelu gwallgof y ‘cynllunwyr Ewropeaidd’. Rydym wedi gweld hyn yn dechrau dros y blynyddoedd diwethaf – gyda miliwn o bobol wedi eu cofnodi yn dod i Ewrop o’r tu allan yn 2015 er enghraifft.

Mae hwn yn gynllun sydd yn cael ei hybu a’i annog yn gwbl agored gan y Cenhedloedd Unedig yn ogystal â’r Undeb Ewropeaidd ac i’w weld ar eu gwefannau ac yn eu hadroddiadau. Anodd iawn fydde dadlau mai nid ffurf o buro ethnig fydde canlyniad cynllun o’r fath yn fy marn i – pwy all ddadlau yn grediniol nad yw amcan y rhaglen wedi ei osod allan yn oeraidd o glir yn y teitl ‘Replacement Migration’? A gair Saesneg cymwys arall am hyn oll hefyd credaf, yw, yn syml, ‘invasion’.

Y gyfraith ryngwladol a adnabyddir yn achos ceiswyr lloches go iawn sydd yn dianc o ryfel, erlid neu ormes difrifol yw, unwaith y bydd y rhain yn cyrraedd y wlad ddiogel agosaf ac yn cael noddfa fel y dylent, gallant hawlio statws ffoadur. Dyma pam mae cymorth o Brydain ac Ewrop yn cael ei wario’n well o lawer ar helpu’r rhai mewn angen yn y gwledydd hafan ddiogel hynnu sydd agosaf at wledydd neu barthau ble mae problemau difrifol.

Yng nghyswllt rhyfeloedd a phroblemau diweddar, mae hynny yn golygu gyrru cymorth i Dwrci, Gwlad yr Iorddonen (Jordan), Libanus (Lebanon) a gwledydd heddychlon drws nesa i rai rhyfelgar yn Affrica er enghraifft. Ond os yw’r rhai sy’n honni eu bod yn ffoaduriaid yne yn mynnu symud ymlaen i wledydd eraill o’r gwledydd noddfa yma, neu erioed wedi bod ynddynt i ddechrau, yna maen nhw wedyn yn dod yn ymfudwyr economaidd hunan-ddewisol ac felly anghyfreithlon.

Ac mae gorfodi pobol o du allan i gyfandir neu wledydd, ar gyfandir neu wledydd eraill yn cael ei adnabod fel polisi hiliol ac yn cael ei ddiffinio fel ymgais ar goloneiddio a hil laddiad gan gonfensiwn Genefa 1948 a grëwyd gan y Cenhedloedd Unedig ei hunain.

Ac fel mae Frans Timmermans, Dirprwy Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, a nifer enfawr o swyddogion ac awdurdodau ar draws Ewrop hefyd wedi nodi, mae’r mwyafrif llethol o’r rhai sydd yn dod mewn i Ewrop yn fewnfudwyr economaidd anghyfreithlon ac nid ceiswyr lloches fel mae ein prif gyfryngau wedi ceisio ei honni.

Cyfaddefodd Timmermans fod y canran yma o fewnfudwyr economaidd anghyfreithlon yn oleiaf 60% ond tybir fod y ffigwr yma yn agosach i 80, 90% neu hyd yn oed 100% mewn nifer o achosion er enghraifft rhannau o’r Eidal – gweler waith Anna Bono ac eraill, am fwy ar hyn.

Mae wedi bod yn ddirgelwch i lawer hefyd sut y gall cymaint o ffoaduriaid sy’n honni dioddef tlodi neu’r angen  i ddianc ar frys o wledydd sydd wedi’w rhwygo gan ryfel, i fforddio talu’r oddeutu10,000 Ewro sydd ei angen i groesi Môr y Canoldir i Ewrop. Efallai fod un neu ddau yn gallu ei fforddio ond mae llawer iawn o dystiolaeth megis yr hyn a gyflwynwyd gan awdurdodau Awstria, yn honni i ddangos fod asiantaethau ac endidau rhyngwladol megis NGO’s a llywodraethol sydd wedi eu lleoli yn y gorllewin, yn talu am gludo’r mwyafrif helaeth o’r rhain ac/neu yn eu hannog a’u helpu ar hyd y ffordd.

Ac fel sydd hefyd wedi ei adrodd, mae yn anochel fod nifer o derfysgwyr amlwg gwrth orllewinol yn mynd i fod yn rhan o’r rhai hynnu sydd yn dod i Ewrop yn anghyfreithlon, gyda nifer hefyd yn gwneud yr arsylwad amlwg fod y mwyafrif llethol o’r rheiny sydd wedi bod yn cael eu gadael mewn i Ewrop yn ddynion fydde yn cael eu hystyried ‘o oed militaraidd ac ymladd’ – hynny yw, dynion 18-55 mlwydd oed.

Nifer enfawr o fewnfudwyr yn cyraedd Slovenia. Llun gan Borut Podgoršek, MORS o dan drwydded CC BY 3.0

Ac nid yw trafod rôl y bancwyr globaleiddiol rheibus a rhachwantus yn hyn oll yn cael ei ganiatáu gan y dethol rai sydd yn ceisio tawelu lleisiau’r rhai sydd am drafod a  gofyn cwestiynau chwaith mae’n ymddangos – mae trafod mater o’r fath yn botensial ‘trope gonsbiritorial hiliol a dde eithafol’ arall ym meddyliau’r rhai sydd yn chwilio am bwgi bôs o’r fath ym mhob man.

Ond y nhw, y bancwyr rhyngwladol yma o bob lliw a llun fydd yn elwa yn ariannol o’r cynnydd ym mhoblogaeth Ewrop drwy fenthyg mwy o bres i wledydd yr undeb Ewropeaidd i dalu am y cynnydd mewn mewnfudwyr anghyfreithiol yn ogystal â rhai cyfreithiol. Ac i elwa o’r trethi ychwanegol.

A ni fydd y polisi o orfodi mewnfudo a amlddiwyllianedd di-gwestiwn, yn dod i stop gydag Ewrop. Mae’r elît globaleiddiol yn yr undeb Ewropeaidd a thu hwnt wedi gwneud yn gwbl glir eu bod am weld hyn yn digwydd ar draws y byd.

Ac mae’n amlwg nad oes cysondeb gan bawb pan mae’n dod at hiliaeth. Yn bersonol dwi yn erbyn hiliaeth tuag at unrhyw bobol neu hil. Pan siaredir allan yn erbyn hiliaeth yn erbyn pobol o liw croen tywyll neu gymysg eu hetifeddiaeth yne mae pawb yn haeddiannol gytûn a chefnogol ac am roi stop ar y peth. Ond os dalir yr un safonau ac egwyddor i siarad allan yn erbyn hiliaeth yn erbyn pobol croenwyn/caucasian – sef mwyafrif pobol Ewrop a phobol gynhenid/aborijinaidd Ewrop a rhannau o’r dwyrain canol (a lleiafrif ethnig o oddeutu 11.5% yn y byd yn ôl y safle ‘Worldometer’) – yne yn sydyn mae’r rheolau yn newid, ac yn sydyn, y rhai sydd yn siarad allan yn erbyn y fath ymosodiadau a hiliaeth yw’r rhai sydd yn cael eu hymosod arnynt am fod yn ‘eithafwyr hiliol’.

Mae’n werth pwysleisio ac ail ddweud hyn sawl gwaith; Mae agenda cywirdeb gwleidyddol wedi bod mor llwyddiannus, fel mae’r rhai sydd yn siarad allan yn erbyn hiliaeth yr ymgais ar goloneiddio imperialaidd a globaleiddiol o Ewrop, yw’r rhai sy’n cael eu hymosod arnynt am fod yn ‘eithafwyr hiliol’. Safonau dwbl a gymnasteg feddyliol yn wir.

Yn ôl erthygl yn yr Independent ar yr arbenigwr poblogaeth a demograffeg David Coleman o Brifysgol Rhydychen, bydd pobl wyn o Brydain yn y lleiafrif erbyn 2066 os yw’r lefelau mewnfudo presennol yn parhau. Dywedodd yr arbenigwr fod amcangyfrifiadau Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos, os nad yn cael eu rheoli yn rhesymol, y bydd y niferoedd cynyddol o fewnfudwyr i Ewrop a Phrydain yn achosi i boblogaeth Prydain godi i 77 miliwn erbyn 2051, ac i 85 miliwn erbyn 2083.

Amcangyfrir sefyllfa debyg i’r Unol Daleithiau o edrych ar bethe fel y maent. Eto, pe tae darogan o fath yn cael ei wneud am bobol unrhyw wlad neu gyfandir yn y byd o ba bynnag liw neu dras ethnig mi fyswn yn protestio a cheisio atal y fath anfoesoldeb yn union yr un modd.

A na, yn anffodus nid ‘conspirasi theori asgell dde eithafol’ ydi’r cynllun yma o fudo gorfodol i Ewrop. A ni fydd y polisi o annog a hybu mewnfudo a amlddiwyllianedd di-gwestiwn, yn dod i stop gydag Ewrop. Mae’r elît globaleiddiol yn yr undeb Ewropeaidd a thu hwnt wedi gwneud yn gwbl glir eu bod am weld hyn yn digwydd ar draws y byd mae’n ymddangos. Yn 2019 datganodd Frans Timmermans eto, Dirprwy Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, wrth annerch panel yr undeb Ewropeaid ar hawliau, y canlynol:

Diversity comes with challenges but diversity is humanity’s destiny. There is not going to be, even in the remotest places of this planet, a nation that will not see diversity in it’s future. That’s where humanity is heading and those politicians trying to sell to their electorates a society that is exclusively composed of one culture are trying to portray a future based on a past that never existed–therefore that future will never be.”

Heb anghofio rhethreg wallgofus Guy Verhofstadt, prif gynrychiolydd yr undeb Ewropeaidd ar Brexit gyda Phrydain, a wnaeth yn weddol glir mae imperialaeth dros yr holl fyd yw uchelgais project yr undeb Ewropeaidd ac nid gwarchod teulu cenhedloedd cyfandir Ewrop a’r byd. Mewn araith yng nghynhadledd y Lib Dems yn 2019, sgrechiodd Mr Verhofstadt:

The world order of tomorrow is not a world order based on nation states or countries, it’s a world order that is based on Empires”

Rhan ehangach o’r cynllun globaleiddio yn ol nifer, yw, i ddechrau, i geisio creu ymerodraethau enfawr megis yr Undeb Ewropeaidd, Undeb gogledd America, Undeb Affrica ayb, ac wedyn uno y rhain mewn i un undeb neu gorff canolog mae’n debyg. Ac ers blynyddoedd maith mae’r Cenhedloedd Unedig, corff an ddemocrataidd ac anetholedig arall, wedi bod yn actio fel ryw fath o lywodraeth ryngwladol sydd yn ymddangos i ‘aros am ei gyfle i reoli’ gan geisio gorchymyn i wledydd ac unigolion sut y dylent actio ar draws y byd drwy ei rhaglenni Agenda 21, Agenda 2030 a ‘Datblygu Cynaliadwy’.

Mae’r gwaith o gyflawni’r agenda mewnfudo yma wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd. Cyn 1999, roedd y rhifau mewnfudo net i wladwriaeth y Deyrnas Gyfunol yn amrywio o 0 i 50,000 y flwyddyn. O 1999 ymlaen, yn dilyn polisi a arweiniwyd gan y blaid Lafur o dan arweinyddiaeth y globaleiddiwr Tony Blair, agorwyd y llif ddrysau i fewnfudwyr i Brydain. Bu’r ffigwr mewnfudo wedyn yn nes at gyfanswm o 700,000 y flwyddyn (300,000 net) – ffigwr gwirion o uchel sy ‘n cyfateb i ddinas newydd tua maint Coventry bob blwyddyn.

Mudwyr yn ymosod yn anghyfreithiol ar ffin gyfreithiol gwlag Groeg.

O ran Cymru, gallwn weld tystiolaeth empirical fod rhai newidiadau yn digwydd o ran demograffeg – a hynnu yn ychwanegol i’r mewnfudo ‘traddodiadol’ o Saeson gwyn canol oed a hyn. Heb unrhyw ragfarn, emosiwn neu gasineb gallwn arsylwi er enghraifft, fod niferoedd Mwslemiaid yng Nghaerdydd yn uwch nac y bu. Mae hyn yn ffeithiol gywir ac yn amlwg i unrhyw un sy’n byw yn y ddinas p’unai oes ganddynt farn neu ddim ar y peth.

Dengys sensws ONS fod poblogaeth Fwslemaidd Cymru wedi dyblu i 45,950 rhwng 2001 a 2011, gyda’r rhan fwyaf o’r cynnydd yma i’w weld yng Nghaerdydd a oedd gyda phoblogaeth o 23,656 o Fwslemiaid yn 2011. Erbyn y sensws nesa yn 2021 gallwn ddarogan y bydd y swm yma o bosib wedi dyblu eto.

Crefydd ac nid hil ydi Mwslemiaeth wrth gwrs ond mae unrhyw grefydd neu ddiwylliant newydd fel yma yn gallu golygu gwerthoedd, diwylliant a hyd yn oed y syniad o gyfreithiau newydd estron a photensial fygythiol i ddyfodol unrhyw wlad – gyda datblygiadau newydd o’r fath yn debygol o fod mor heriol i ddyfodol Cymru a heriau’r mewnlifiad Eingl Sacsonaidd ‘traddodiadol’.

Gan aros gyda Chaerdydd a de ddwyrain Cymru am eiliad; mae modd hefyd sylwi fod llawer mwy o fyfyrwyr Tsieinëg yng Nghaerdydd erbyn hyn, mwy o fudwyr economaidd a ffoaduriaid o’r dwyrain canol ac Affrica, mwy o Saeson – gyda llawer o’r Saeson yma hefyd yn Fwslemiaid ac o dras Affricanaidd, Affro Caribïaidd ac Asiaidd erbyn hyn hefyd wrth gwrs. A hefyd, mwy o Gymry Cymraeg. Ydi’r heddlu meddwl wedi deddfu ei fod yn iawn i drafod rhai o’r rhain ond ddim rhai eraill? Ydi pobol rwan ddim yn cael arsylwi a thrafod pethe sydd yn mynd mlaen yn eu gwlad eu hunain ac o’u cwmpas heb risgio cael mob Piwritanaidd honedig ‘woke’ yn eu herlid gyda pitchffyrch a thorchau fflamiedig drwy’r strydoedd yn enw ‘blaengarwrch’?

O edrych ar y peth yn wrthrychol, sut ei fod yn dderbyniol sôn a chwyno am Saeson gwyn eu croen yn dod i mewn i Gymru a defnyddio termau arnynt a all yn dechnegol fod yn sarhaus, ystrydebol a hiliol megis ‘gammon’ ayb, ond ddim yn oce i hyd yn oed sôn am unrhyw fewnfudwyr anghyfreithlon neu bobol o dras ethnig, hil neu genedligrwydd arall? Safonau dwbwl onid e? Ble mae’r cysondeb?

Mewn dipyn o’r wasg orllewinol sydd ohoni, gan gynnwys elfennau o’r wasg Gymraeg a Chymreig, rhyfedd hefyd yw gweld ymosodiadau agored ar ddynion gwyn yn sbesiffig – a hynnu gan sgwennwyr a chyhoeddiadau sydd yn honni bod yn rhyddfrydol a blaengar. Ymosodiadau sydd, os yn dilyn rheolau a safonau honedig flaengar ac ‘wrth hiliol’ nifer o’r sgwennwyr yma eu hunain, yn dangos culni, anoddefgarwch, erledigaeth, discrimineiddio a hiliaeth sylweddol yn seiliedig ar liw croen.

Ymddengys nad yw’r sgwennwyr hunan foddhaus yma, amryw ohonynt yn hynod hoff o ddangos faint o ryddfrydol ddaionus ydynt, yn deall ystyr rhagrith a safonau dwbwl. Be am beidio cael y safonau dwbl yma a chael cysondeb a rhyddid i drafod, canmol neu feirniadu pawb ac unrhyw un, gan gynnwys y rheiny sydd yn symud i Gymru, heb unrhyw ddiscrimineddio dethol a rhagrith rhyddfrydol?

A be am drafod ac ystyried holl gyfoeth ac amrywiaeth diwylliannau, pobloedd a hiliau yn agored, didwyll ac aeddfed er mwyn ceisio deall, dirnad a dathlu gwahaniaethau anhygoel a weithiau heriol holl bobloedd y byd, yn hytrach na cheisio brwsio’r holl bethau yma o dan y carped mewn panic fel na taen yn bodoli, a chogio fod pawb a phob diwylliant yn ddi gwestiwn yr union ru’n peth ym mhob ffordd. Eto, diolch byth am fyd o amrywiaeth a chyfoeth lle nad ydym i gyd yr un peth.

Mae hon yn sgwrs agored, onest, aeddfed ac weithiau anodd o bosib – plorod a phopeth – y mae cenedl Cymru a’i holl ddinasyddion, be bynnag eu cefndir, angen ei chael er mwyn sicrhau’r ffordd ymlaen – gyda’r gobaith, o fy safbwynt i, o allu sicrhau seiliau cadarn i’n hunaniaeth a’n diwylliant anhygoel fel pobol ac fel gwlad tra’n gallu croesawu lefel gynaliadwy a rhesymegol o bobol newydd i’n gwlad fel rydym wastad wedi ei wneud.

Ac i’r rhai hynnu sydd yn awyddus i ddilorni, ymosod ar, a dileu mwyafrif poblogaethau cynhenid Cymru, Prydain a chyfandir Ewrop oherwydd fod y poblogaethau yma yn wyn eu croen a’u hil, efallai ei fod yn amser i’r rhai gyda’r agweddau yma ofyn i’w hunain pwy sydd wir yn arddel agweddau eithafol a hiliol?

Ond mae angen i ni gael y sgwrs yma ble mae pawb yn gallu cael eu llais wedi’w clywed dim bwys pa mor wrthyn neu gytûn. Wedyn mi allith cenedl Cymru symud ymlaen i adeiladu ar seiliau cryfach nac erioed. 

Ac yn bersonol, dwi hefyd ddim yn credu fod yr un hil, pobol neu ddiwylliant yn well nac unrhyw un arall. Gwahanol ac yn amrywio ie, ond ddim gwell. A dwi’n credu fod y gwahaniaethau ac amrywiaeth anhygoel a chyfoethog yma sydd yn bodoli rhwng holl wledydd, diwylliannau a hiliau’r byd, yn bethau sydd angen eu dathlu, eu clodfori a’u caru ac nid eu camddefnyddio fel arfau gwleidyddol neu ormesol i fagu casineb neu erledigaeth, pwy bynnag maent yn cael eu pwyntio atynt.

Felly nid yw dim o’r gwrthwynebu sydd gennyf i’r mewnlifiad di broporsiwn yma i Ewrop, Prydain a Chymru wedi ei seilio ar gasineb at unrhyw bobol neu hil – i’r gwrthwyneb; mae o wedi ei seilio ar edmygedd a pharch tuag at holl wahaniaethau pobol y byd a fy nymuniad i a nifer o bobol eraill dwi’n siwr i weld y gwahaniaethau yma yn cael eu parchu a’u dathlu ac nid eu gorfodi i gael eu ymffurfio mewn i un endid iwnifform globaleiddiol yn erbyn eu hewyllys.

Rhowch o ffordd arall hefyd. Petai miliynau o Ewropeaid gwyn yn cael eu hannog a’u talu i lifo mewn i Siera Leon, Sri Lanka neu Siapan ar sgel enfawr, a choloneiddio y gwledydd hynnu yn fwriadol, gan weddnewid demograffeg a diwylliant y gwledydd yma am byth, mi fyswn y cyntaf i brotestio ac ymgyrchu yn erbyn y fath beth anfoesol ac anghyfreithlon.

Dwi’n credu’r union ru’n peth am y rheiny o’r dwyrain canol ac Affrica sydd yn cael eu hannog a’u hybu gan y globaleiddwyr a’u bancwyr i goloneiddio gwledydd Ewrop yn fwriadol ac ar sgel anferth – a hynny yn gweddnewid demograffeg a diwylliant y gwledydd yma am byth os na geith ei reoli yn synwhrol. Mae hynnu hefyd yn anfoesol ac anghyfreithlon. A’r un pwerau imperialaidd rhyngwladol sydd y tu ôl i’r holl gynlluniau mudo a choloneiddio gorfodol yma ar gyfer y byd. Ac nid oes dim yn arbennig o newydd yn y fath ymgyrchoedd dinistriol mae’r byd wedi gweld eu tebyg o’r blaen – o Genghis Khan i Alexandra the Great, i Caesar a Rhufain i Caliphate Sbaen am gyfnod ar ddiwedd y mileniwn cyntaf i enwi ond rhai.

Ac mae dinasyddion gwledydd Ewrop na sydd yn wyn, ac sydd wedi byw a bod yn Ewrop ers cenhedlaeth neu fwy hefyd yn gwynebu yr union un trawsnewidiad a bygythiad difrifol i’w ffordd o fyw a’u bywydau o fewn pa bynnag genedl Ewropeaidd maent wedi ymsefydlu ynddi. Mae eu llais nhw hefyd yn cael eu hanwybyddu a’i ddiystyru fel nad yw’n bodoli.

Ac mae safon ddwbl ddiffygiol arall yn y ddadl dros fewnfudo ac amlddiwylliannedd diderfyn gorfodol. Mae llawer iawn o boblogaethau a gwledydd y byd tu allan i gyfandir Ewrop yn fono-ddiwylliannol / fono hil (o un hil). Pam nad ydi elfennau o fewn carfannau’r ‘blaengarwyr rhyddfrydol’ (sydd fel arfer yn Ewropeaid ‘blaengar’ gwyn), yn mynnu y dylid gorfodi’r gwledydd hynnu i dderbyn mewnfudo ‘drws agored’ – i ddod yn fwy amlddiwylliannol ac yn fwy ethnig amrywiol? Pam nad ydyn nhw’n mynnu bod Cheina, Japan, Israel, Sawdi Arabia a gwledydd Affrica yn dod yn gymdeithasau amlddiwylliannol ac amlhiliol di-gwestiwn? Pam mai gwledydd Ewrop, ar hyn o bryd, yw’r unig wledydd neu genhedloedd a fynnir a ddylid derbyn mewnfudo ac amlddiwylliannedd gorfodol ac allan o bob proporsiwn? Yma mae anghysondeb a rhagrith mewnfudo gorfodol ac amlddiwylliannedd i’w weld yn glir.

Ai altrwistiaeth naturiol pobol a diwylliant gwledydd Ewrop ydi hyn oll sydd wedi ei heijacio a’i fanipiwleiddio gan bwerau sydd isio ei gamddefnyddio er diben dinistriol eu hunain? Bydd llawer, yn gyfiawn yn fy marn i, yn protestio i amddiffyn Tibet a Palestina er enghraifft rhag cael eu sathru a’u llyncu gan eu cymdogion mwy pwerus oherwydd bod y cyfryngau blaengar rhyddfrydol wedi dweud wrthynt fod hyn yn dderbyniol i’w wneud. Ond nid yw’r un bobl yn amddiffyn yr un hawliau pan mai’n dod at genhedloedd Ewrop.

Drwy orfodi amrywiaeth, amlddiwyllianedd a be sydd yn aml yn cael ei ddisgrifio han nifer fel ffurf o buro ethnig gorfodol ar yr holl fyd, mae’r globaleiddwyr yn datgan yn glir be a ymddangosir i fod yn feddylfryd erchyll o hiliol, i weld byd un ffurf, iwnifform ble nad oes unrhyw amrywiaeth na pharch tuag at wahanol bobol, diwylliannau na hil.

Eu gobaith mae’n debyg yw y bydd pobol y byd yn haws i’w rheoli a’u manipiwleiddio unwaith maent yn un torf unffurf, iwnifform, gydag un diwylliant ‘rhyngwladol’ ac wedi colli be bynnag oedd yn eu gwneud yn unigryw a gwahanol yn y lle cyntaf.

Oherwydd, yn eironig, drwy orfodi ‘amrywiaeth’ ar y byd mae’r globaleiddwyr yn gorchymyn na fydd gwahaniaethau hardd a chyfoethog holl wahanol bobol a diwylliannau’r byd yn cael eu dathlu a’u gwarchod. ond yn hytrach yn cael ei gorfodi i gyd uno mewn i un mono ddiwylliant bydol, i gydymffurfio ac felly i gael eu dinistrio.

Ac yn achos y cynllun Replacement Migration presennol o ran Ewrop – dyma ble mae angen i bawb sydd yn caru Ewrop, sut bynnag y pleidleisiodd pobol yn refferendwm a halibalŵ Brexit, gan gynnwys y rheiny sydd wedi datgan yn daer eu bod yn ddinasyddion Ewropeaidd, i wirioneddol ddechrau siarad allan ac amddiffyn y cyfandir a’r gwareiddiad Ewropeaidd anhygoel hwnnw ynghyd a’i holl bobol. Oherwydd mae gwareiddiad a holl ddiwylliannau cyfoethog Ewrop o dan fygythiad difrifol. A thu hwnt i hynnu, holl ddiwylliannau cyfoethog ac amrywiol y byd.

Mae’r rhai sydd wir yn caru a gwerthfawrogi amrywiaeth a chyfoeth diwylliannol rhyfeddol yr holl genhedloedd a’r bobloedd ar y ddaear, yn gwybod mai dyna’r union rinweddau y mae’r elites byd-eang am eu gwanhau a’u dinistrio yn y pen draw os cânt eu ffordd. A hynny er mwyn eu cynllun diflas a di fflach o drio creu un set o bobol unffurf ac iwnifform i’w rheoli ac i’w gwasanaethu nhw yn y byd.

Mae ein gwleidyddion a’n ffigyrau cyhoeddus, yn anffodus, wedi methu yn eu dyletswydd foesol i ddatgelu’r cynllwynio erchyll yma i, mae’n ymddangos, ddinistrio’r holl genhedloedd.

Ac mae pobl yr holl genhedloedd ar y ddaear yn araf sylweddoli eu bod wedi cael eu twyllo gan yr honedig arweinwyr a chynrychiolwyr hynnu sydd wedi cogio bod yn ceisio eu cynrychioli. Rwan mae’n rhaid i bobol yr holl genhedloedd ddechrau dal y twyllwyr yma i gyfrif a thywynnu goleuni ar eu holl gelwyddau, ac ar gelwyddau’r rheiny uwch eu pennau.

Prif lun: Mudwyr yn ceisio gorfodi eu ffordd yn anghyfreithlon drwy ffin gwlad Groeg o ochor Twrci.

Leave a reply / Gadewch neges: