Corona feirws – mater sydd yn cael ei gamddefnyddio i drio gorfodi facsîn gorfodol a thechnoleg tracio arnom ni i gyd?

gan Gruffydd Meredith

Mae unrhyw salwch neu farwolaeth o salwch yn amlwg yn beth trist ac angen ei drin gyda gofal a chonsarn. Ac wrth gwrs y gall feirws fel corona neu unrhyw feirws arall fod yn beryg neu farwol i’r rheiny sydd yn fregus eu hiechyd neu mewn risg eisoes i beth o’r fath. Ond ni ddyle effeithiau posib corona neu unrhyw feirws arall ein hatal rhag trafod a gofyn cwestiynau pwysig. Nid yw cwestiynu yn beryg. Ond mae atal rhyddid barn i ofyn cwestiynau a thrafod unrhyw bwnc, yn cynnwys y feirws corona, yn beryg.

Mae posib dadlau am ffigyrau a stats am byth ond dyma ambell arsylwad ynglŷn â Covid 19 ei hun na sydd wedi cael unrhyw sylw neu drafodaeth synhwyrol yn y prif gyfryngau:

  • Yn ôl nifer cynyddol o arbenigwyr meddygol, o’r ffigyrau presennol, nid yw COVID-19 yn ymddangos i fod yn arbennig o ‘fwy peryg’ na feirwsus tebyg, nac yn neilltuol fwy heintus na unrhyw feirws cyffelyb neu epidemig ffliw eraill rydym wedi gweld dros y blynyddoedd. Yn ôl awgrymiad WHO (World Health Organisation) nid yw Covid mor heintus a’r ffliw cyffredin (influenza) ac mae yn 50% yn arafach o ran cael ei wasgaru na’r ffliw cyffredin.

  • Awgrymir gan nifer fod unrhyw botensial greisus drosodd cyn i’r locdown ddechrau a bod achosion corona yn disgyn cyn i’r locdown gael ei gyhoeddi.

  • Fel y gwelid ar ei gwefan llywodraethol, o Fawrth 19, 2020 ymlaen nid yw Covid 19 wedi cael ei ystyried fel HCID ( High Consequence Infectious Disease) gan awdurdodau’r Deyrnas Gyfunol.

  • Yn ôl nifer cynyddol o arbenigwyr meddygol nid oes prawf fod y locdown wedi bod yn angenrheidiol neu fuddiol o gwbl. Mae nifer hefyd yn hawlio y gall gloi pobol yn eu tai fod wedi achosi i’r Covid 19 waethygu a phara yn hirach, gyda’r arbenigwyr yn awgrymu fod awyr iach y gwanwyn yn aml yn llesol i gael gwared ag unrhyw afiechydon a salwch o’r fath.

  • Mae’r data gan ONS ar gyfer Prydain ac EuroMOMO ar gyfer Ewrop hyd yma wedi bod yn rhoi storiâu neu naratif gwahanol iawn i be mae’r prif gyfryngau wedi bod yn eu rhoi. Yn ôl un adroddiad gan yr ISS, gwasanaeth iechyd cenedlaethol yr Eidal er enghraifft, mi oedd 99% o farwolaethau yno yn debygol o fod oherwydd problemau iechyd oedd yn bodoli yn barod yn y claf, ac ei fod felly yn debygol fod marwolaethau o’r corona feirws ei hun wedi eu gor adrodd yn sylweddol gan y cyfryngau.

  • Fel mae nifer cynyddol yn pwyntio allan erbyn hyn, mae nifer enfawr o achosion yn cael eu disgrifio gan y cyfryngau a’r awdurdodau yn gamarweiniol fel marwolaethau sicr o Covid 19 pan nad yw hynnu wedi cael ei sefydlu o gwbl – gyda ffigyrau marwolaethau Covid 19 wedi eu hymchwyddo o ganlyniad. Ac mae’r gwahaniaethau rhwng y rheiny sydd yn marw gyda Covid ac o Covid ( y gwahaniaeth rhwng ‘gyda’ ac ‘o’) wedi bod yn cael eu blyrio – o bosib yn fwriadol yn ôl rhai – gyda ffigyrau marwolaethau Covid 19 eto wedi eu hymchwyddo o ganlyniad. Mewn cyngor llywodraethol, mae staff meddygol yn cael eu cynghori y gallent roi ‘rheswm marwolaeth’ ar y ffurflen farwolaeth wedi ei seilio ar be yw ‘eu tyb’ neu ‘eu cred’– hynnu yw heb brawf diagnostig – rhywbeth sydd yn mynd yn erbyn protocol meddygol sefydledig. Mae’r ONS hefyd wedi datgan fod posib y gall person sydd wedi marw o glefyd ysgyfaint/anadlu ‘cyffredin’ hefyd allu cael eu henwi yn y categori o fod wedi marw o Covid 19, gan chwyddo’r ffigyrau yn ddi angen eto ac eto fynd yn erbyn y protocol meddygol sefydledig.

Yn ogystal â, yn llythrennol stripio ffwrdd ein rhyddid a bron ein holl hawliau dynol sylfaenol, mae’r ymateb tu hwnt i bob proporsiwn i’r feirws yn debygol o achosi mwy o niwed a dinistr na’r salwch gwreiddiol ei hun – gyda’r economi a busnesau teuluol bach a canolig yn arbennig yn gwynebu eu potensial ddinistr llwyr a cholled bywoliaeth i filiynau o bobol – rhywbeth sydd yn debygol o arwain at dlodi difrifol, mwy o salwch a phroblemau iechyd corfforol a meddyliol a chynnydd tebygol mewn hunan laddiadau.

Ac fel gyda nifer o bynciau sydd yn cael eu polareiddio gan y wasg, nid mater du a gwyn o fod ‘o blaid bod yn ofalus neu ddim’ yw hyn. Wrth gwrs fod gofal synhwyrol angen ei ddangos o ran gwarchod a diogelu’r rhai sydd o dan fygythiad o unrhyw salwch ac a all hefyd fod o fygythiad i eraill.

Mae cymud gofal a rhagofalon synhwyrol yn erbyn unrhyw feirws neu salwch yn gwneud synnwyr er mwyn gwarchod iechyd eraill ac eich hunain. Ond mae posib gwneud hyn mewn ffordd resymol a phragmatig fel y mae Sweden, Belarus a Siapan ayb wedi ei wneud ( yn ddigon llwyddiannus hyd yma) ac nid drwy greu’r hysteria a’r draconiaeth rydym wedi ei weld ac rydym yn parhau i’w weld ym Mhrydain, Ewrop a thu hwnt.

Felly at y mater y dylai achosi consarn go iawn – yr ymateb anhygoel o ddraconaidd gan yr awdurdodau a’r llywodraethau fel ‘datrysiad’ honedig i Covid 19.

Mi ddyle fod yn amlwg i unrhyw un fod be a elwir yn feirws Covid 19, be bynnag yw ei darddiad gwreiddiol, yn cael ei gam ddefnyddio i drio gorfodi ‘normalrwydd newydd’ arnom gan ein llywodraethau a gan yr awdurdodau yn gyffredinol.

Mae’r rhain bellach wedi ‘rhoi i’w hunain’ bwerau tu hwnt i bob rhesymeg sydd yn tynnu ymaith ein hawliau dynol sylfaenol a’n rhyddid personol, ac sydd yn rhoi iddynt y gallu i ddechrau ceisio ein monitro a’n tracio lle bynnag yr ydym. Mae’r prif gyfryngau wedi bod yn allweddol mewn gwerthu a gwthio’r neges yma drwy ofn a phropaganda tu hwnt i bob proporsiwn. Gellid dadlau mae’r cyfryngau yw’r gwir feirws peryg yn yr achos yma.

Y peth cyntaf a wnaethpwyd oedd rhuthro trwodd deddf newydd sef y Corona virus bill – neu’r Health Protection (Coronavirus Restrictions) (Wales) Regulations 2020 i roi iddo ei deitl llawn (nid yw’n edrych fod fersiwn Cymraeg eto). Mae hon yn ddogfen anferth o gannoedd o dudalennau a ymddangosodd, yn hynod gyfleus, megis dros nos – gyda dogfennau deddfau o’r math fel arfer yn cymud misoedd neu flynyddoedd i’w drafftio. Gweler mwy am y bill a’r ddeddf yma.

Er fod y ddeddf yn gyffredinol mewn egwyddor ru’n fath, mae agweddau o’r ddeddf yn amrywio yn wahanol wledydd Prydain.

Bydd aelodau San Steffan yn gallu cymud pleidlais ar gadw neu gael gwared gyda nifer o bwyntiau’r ddeddf sydd yn berthnasol i Loegr mewn chwe mis. Bydd pwyntiau sydd yn berthnasol i Gymru yn aros fel y maent am ddwy flynedd – a chwe mis ychwanegol os oes angen, ac os nad ydi y Gwenidogion Cymreig wedi penderfynnu yn wahanol cyn hynnu. Gweler fwy am hyn yma.

Gall Gweinidogion llywodraeth Cymru hefyd edrych ar y man reoliadau eraill yng Nghymru bob 21 diwrnod.

Mae hanes yn dangos mai cymud mwy a mwy o bwer dros bobol y mae llywodraethau yn ei wneud drwy hanes – felly, gallwn dybio mai go brin y bydd unrhyw lywodraeth yn ysu i roi rhyddid yn ol i’r bobol – heb gael ei perswadio a’i gorfodi i wneud gan y bobol hynny yw.

Felly be am y ddeddf newydd erchyll o ddraconaidd yma?

    • Mae’r ddeddf yma yn un o’r rhai mwyaf draconaidd i’r Deyrnas Gyfunol ei weld mewn hanes modern. Mae’n rhoi’r hawl i’r heddlu er enghraifft, stopio a chadw person maent jisd yn ei amau o fod yn heintus, er mwyn asesu’r person, a hynnu am gyfnod amhenodol ac mewn man o’u dewis.
    • Gall achosion llys gael eu cynnal dros ffon neu fidio, gyda barnwyr yn unig yn gallu penderfynnu os y dylai gwrandawiadau fod drwy fidio neu sain yn unig, gan hefyd arwain at y peryg fod rheithgorau arferol llysoedd yn cael ei diddymu – rhywbeth hynod o beryg i gynnal y gyfraith a chyfiawnder.
    • Mae’r ddedf yn rhoi’r pwer i ohirio etholiadau.
    • Mae’r ddedf yn gallu gwrachod yn gyfreithiol y rhai sydd yn trin y salwch – rhywbeth arbennig o berthnasol os ydi brechlynau sydd heb ei profi yn llawn yn cael eu rolio allan.
    • Mae’r ddedf hefyd yn gwarchod yn gyfreithiol rhag unrhwy fethiant neu gamwedd clinigol o waith yr NHS yn trin y clefyd.
    • Mi fydde trefnwyr angladdau preifat yn cael yr hawl cofrestru marwolaethau gyda dim ond un llofnod, gan adael hyn yn agored i gael ei gamddefnyddio ac yn golygu, yn ol rhai ac mewn rhai achosion, y galle marwolaethau anghyfreithlon yn y ddalfa gael eu cuddio.
    • Mae’r ddeddf hefyd yn rhoi hawl i ddim ond un doctor bennu fod person angen cael ei sectionio yn hytrach na’r angen am ddwy farn doctor fel ydi’r arfer. Mae nifer mawr iawn eraill o bwyntiau hynod broblematig yn y ddeddf ddraconaidd yma.
    • Un rhan o’r ddeddf ble mae gwahaniaeth amlwg rhwng Cymru a Lloegr yw Rheoliad 11 o’r ddeddf Gymreig. Yno gwelir fod gan yr awdurdodau bwer i fynnu eu ffordd i mewn i adeilad neu gartref preifat – yr hyn a ddisgrifir fel ‘Power of Entry’:

A relevant person may enter premises, if the relevant person (a) has reasonable grounds for suspecting that a requirement imposed by these Regulations is being, has been or is about to be contravened on the premises, and (b) considers it necessary to enter the premises for the purpose of ascertaining whether the requirement is being, has been or is about to be contravened.

    • Yn ychwanegol mae rheoliad 11 (2) (a) o’r ddeddf Gymreig yn ychwanegu:

A relevant person entering premises in accordance with Paragraph (1) may use reasonable force to enter the premises if necessary.” For the purposes of Regulation 11, a ‘relevant person’ includes persons such as a police constable and a PCSO.

    O dan y gyfraith flaenorol, roedd yr heddlu ddim ond gyda’r hawl i fynd mewn i gartref neu adeilad preifat gyda warant gan lys, gyda chaniatad  perchennog, neu os yn ceisio dal troseddwr tybiedig.

I weld gwahaniaethau rhwng y ddeddf yng Nghymru ac yn ngweddill y Deyrnas Gyfunol gweler yma.

Mae’n dod yn gynyddol amlwg i lawer mae prif naratif sydd yn cael ei wthio yn sgil hyn oll ydi’r syniad o facsîn gorfodol i bawb ynghyd a chynyddu technoleg all ein tracio a’n monitro ni i gyd o fewn y surveillance state sydd yn ceisio cael ei wthio arnom. Mae hyn yn ormodedd i bawb ei ystyried ond ystyried sydd raid os am fyw mewn cymdeithas rydd.

Dyma hefyd ble mae technoleg beryg 5G a’r ‘Smart Grid’ a’r ‘Internet of things‘ dystopaidd yn dod i fewn fel rhan o’r surveillance state, ynghyd a thechnoleg AI/Artifical Intelligence.

Er bod tystiolaeth di ri erbyn hyn fod tyrrau a thechnoleg di wifr 5G hefyd yn gallu gwanhau’r system imiwn yn gyffredinol gan olygu fod salwch neu glefydau yn fwy tebygol o’r herwydd, mae’r prif gyfryngau a’r llywodraeth wedi anwybyddu’r pwyntiau pwysig a nuanced yma am 5G, gan, yn lle, ymosod ar unrhyw un sydd hyd yn oed yn trafod 5G a’u pardduo gyda’r disgrifiadau sarhaus arferol a blinedig.

 

Y Bill & Melinda Gates Foundation (Gates Foundation)

Yma mae’r Bill and Melinda Gates Foundation, neu’r Gates Foundation, yn amlygu ei hun. Ers blynyddoedd bellach mae’r biliwnydd anetholedig Bill Gates a’i Gates Foundation wedi bod yn gwthio’r syniad y dyle’r holl fyd gymeryd y facsînau y maen nhw isio ei gwthio ar bawb – am bris wrth gwrs.

Bill Gates Llun gan OnInnovatin o dan drwydded CC BY 2.O

Mewn erthygl yn y Washington Times esboniwyd mai’r Gates foundation erbyn hyn ydi prif ariannwr yr WHO (World Health Organisation).

Ebyn hyn hefyd mae’r WHO wedi datgan fod y corona feiwrs yn bandemic. Mae’r WHO hefyd wedi mynd ‘mlaen i awgrymu fod angen rhaglen facsineiddio enfawr ar draws y byd.

Yn ddiweddar cyhoeddodd Robert F kennedy, cadeirydd grwp amddiffyn iechyd plant yn America: “The WHO is a sock puppet for the pharmaceutical industry”.

Yn ddiweddar hefyd gwnaeth Gates gyfweliad gyda CBS yn trafod y locdown ble yr arsylwodd, os na fydd yr holl fyd yn derbyn facsîn oherwydd y corona feirws yne o bosib na fydd ‘hawliau sylfaenol yn dod nol o gwbwl’. Gwelwyd rhethreg debyg gyda gan lywodraethau gyda sôn am brofion i bawb ac app tracio ar gyfer ffonau pobol os ydynt isio eu ‘rhyddid normal’ yn ôl. Dwi ddim yn siŵr amdane chi ond, o le dwi’n dod, bygythiad ydi hune.

Yn yr un modd datgelodd Imperial College yn Llundain ffigyrau yn darogan y galle 500,000 o bobol farw o o Covid 19 ym Mhrydain. Dechreuodd Imperial College hefyd wthio’r naratif fod angen profi a facsineiddio pawb.

Yn ôl ymchwil rhagorol gan Vanessa Beeley a hefyd y sianel You Tube a gwefan newyddion UK Column: i fynu at 2018 mi oedd y Gates Foundation wedi rhoi bron i $185 miliwn o ddoleri i raglen facsinau Imperial College (a’i ‘Vaccine Impact Modelling Consertium) – yn ail yn unig i’r Welcome Trust gyda $400 miliwn wedi ei roi ganddyn nhw i fynu at ddiwedd 2018 yn ôl ymchwil Beeley. Gellir hefyd gweld y manylion yma ar wefan Imperial college.

Neil Ferguson o Imperial college, honnir gan Beeley, oedd un o’r rhai wnaeth berswadio llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i newid ei stori ynglŷn â’r ymateb i’r corona feirws – o’r ‘herd immunity‘ gwreiddiol i’r cloi lawr draconaidd a’r sôn am facsîn i bawb ayb. Mae Vanessa Beeley hefyd yn dweud mai Ferguson oedd un o’r brif bobol oedd yn gyfrifol am ‘fodelu gwallus’ a phanic clwy’r traed a’r gennau yn 2001.

Honnir hefyd gan Beeley ac eraill mae’r Gates Foundation hefyd yw un o brif ariannwr GAVI (Global Alliance for Vaccines and Immunization) a ddechreuwyd gan Bill a Melinda Gates i geisio hybu facsîn ar draws y byd i gyd. Gweler yr erthygl yma a’r fidio islaw am fwy gan yr UK Column a Vanessa Beeley ar hyn:

Yn ôl Vanessa Beeley eto (a gwefan llywodraeth y DG), llywodraeth y Deyrnas Gyfunol oedd hefyd ariannwr mwyaf GAVI rhwng 2016-2020. Honnir gan Beeley fod llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi arianu GAVI, drwy UKAID, gyda £1.44 biliwn rhwng 2016 a 2020 ac mi fyddent hefyd yn cynnal cynhadledd GAVI yn 2020. Mae GAVI hefyd yn gweithio yn agos gyda Imperial College Llundain a gwelir ar wefan Imperial College fod y coleg hefyd yn cael eu hariannu yn helaeth gan GAVI yn ogystal a gan y Bill and Melinda Gates Foundation.

Dywed Beeley fod y Gates Foundation hefyd wedi sefydlu y Global Health Leaders Launch Decade of Vaccines Collaboration (GHLLDVC) mewn cydweithrediad gyda WHO, UNICEF, a’r US National Institute of Allergy and Infectious Diseases (NIAID). Gwelir hyn amdanynt ar wefan y Gates foundation:

The Global Vaccine Action Plan will enable greater coordination across all stakeholder groups – national governments, multilateral organizations, civil society, the private sector and philanthropic organizations — and will identify critical policy, resource, and other gaps that must be addressed to realize the life-saving potential of vaccines.

Mae UNICEF yn disgrifio ei hun fel “world’s largest provider of vaccines for developing countries” ac, yn ol Beeley, gyda mynediad at blant mewn dros 150 o wledydd ac ardaloedd o’r byd. Dywed Beeley hefyd fod y pwyllgor llywio y GHLLDVC ,pan lansiwyd, yn cynnwys cynrychiolaeth o adran iechyd llywodraeth y Deyrnas Gyfunol (UK Department of Health).

I gyd fynd a hyn awgrymir gan Beeley a nifer eraill fod rhaglen ID2020 yn rhedeg ochor yn ochor a’r ymgyrch facsinau er mwyn ymgeisio i allu tracio pawb sydd wedi cael facsîn neu ddim gyda thechnoleg neu ‘basbort digidol’ unigryw ac Orwelaidd i bawb.

Nid yw ffurf y dechnoleg tracio a biometrics yma sydd yn ceisio cael ei wthio yn hollol glir eto, gyda rhai yn awgrymu mae chip RFID sydd yn cael ei roi mewn pobol yw’r cynllun ac eraill yn awgrymu mae ryw fath o sgan inc arbennig ar y croen neu dechnoleg nano mewn brechlyn posib sydd yn cael ei chwistrellu i’r corff neu ei lyncu yw’r cynllun. Mae Beeley yn sôn fod cysylltiadau cryf rhwng y cynllun ID2020, GAVI, Microsoft (cwmni cyfrifiadurol a gychwynodd Gates) a’r Rockerfeller Foundation i enwi ond rhai.

Mae nifer cynyddol yn awgrymu mae ‘marc y bwystfil/diafol’ a dechrau system gwbl ormesol fydde cynllun ID o’r fath a bod angen rhybuddio eriall o hyn ac ymgyrchu i ddod a’r cynlluniau sinistr yma i ben. Mae protestiadau ac ymgyrchu yn erbyn cynlluniau Bill Gates ac eraill wedi dechrau yn barod.

Yn ol Beeley a’r UK Column, mae llywodraeth y Deyrnas Gyfunol hefyd wedi bod yn cyd weithio yn agos gyda be ddisgrifir fel un o’i prif cyd bartnerion, y biliwnydd anetholedig Bill Gates a’r Gates Foundation ers blynyddoedd, a hynnu drwy’r Department for International Development (DFID).

Mae’r adran hefyd yn helpu i hybu a chefnogi cynllun Gates Foundation a’r cynllun am facsinau i’r byd mae’n ymddangos. Mae hyn hefyd yn cynnwys cefnogi GAVI – eto un o gwmnïau hybu facsinau a ddechreuwyd gan Gates. Mae posib gweld adroddiad pwyllgor Tŷ’r cyffredin ar DFID a hyn oll ar-lein. Yn yr adroddiad dywedir i GAVI dderbyn £1.5 biliwn gan y DFID rhwng 2011 a 2015. Gellir gweld mwy o ymchwil gan Beeley rhwng llywodraeth a’r diwydiant facsinau yma.

Gwerth nodi hefyd fod y Gates Foundation wedi bod o dan archwiliad yn yr India ar ol i nifer o ferched dderbyn facsinau yn gysylltiedig a’r Gates Foundation yno. Mae cwestiynu tebyg wedi codi yn Affrica ac mewn llefydd eraill.

Yn ôl erthygl ddiweddar yn The Guardian, yn 2008 rhoddodd y Gates Foundation $40 miliwn i Chris Whitty tra’r oedd y gweithio fel doctor yn Affrica. Blwyddyn wedyn daeth Chris Whitty yn ‘Chief Medical Officer’ llywodraeth y Deyrnas Gyfunol sydd wedi bod yn gwthio’r naratif a’r ofn diderfyn am y corona feirws a’r angen am facsinau arnom tu hwnt i bob proporsiwn.

Mae Bill Gates a’r Gates Foundation hefyd wedi ariannu ac ymwneud gyda sefydliad facsineiddio PATH ( Program for Appropriate Technology in Health) a hefyd CEPI (The Coalition for Epidemic Preparedness Innovations).

Yn ol UK Column a Vanessa Beeley, mae llywodraeth y Deyrnas Gyfunol hefyd yn cymeryd cyngor meddygol gan SAGE (Scientific Advisory Group for Emergency) – corff sydd hefyd yn gwthio’r naratif o facsineddio pawb, a hefyd wedi bod yn gwthio’r syniad o’r locdown. Dywed yr UK Column fod Chris Witty hefyd yn eistedd ar fwrdd SAGE.

Heb anghofio CEPI hefyd (Coalition for Epidemic Preparedness Innovations). Cafodd CEPI ei lawnsio yn DAVOS yn 2017 gan lywodraethau Norwy ac India a gan CEPI y Bill & Melinda Gates Foundation, Wellcome Trust a’r World Economic Forum.

Mae CEPI yn disgrifio ei hun fel “innovative partnership between public, private, philanthropic and civil organisations”. Efallai nad yw yn lawer o sypreis i neb fod CEPI yn disgrifio ei gwaith fel hyn:  “…CEPI, the coalition launched one year ago to finance and coordinate the development of new vaccines to prevent and contain epidemics..” Llai o sypreis eto mae’n siwr ydi ei bod hefyd yn gweithio ar ddod o hyd i frechlyn ar gyfer y corona feirws.

Yn olaf mae’r Gates Foundation hefyd wedi ariannu BBC Media Action gyda miliynau o bunnoedd dros y blynyddoedd heb sôn am $20 miliwn a roddwyd i’r BBC World Service yn 2010 mae’n ymddangos. Dim sypreis o bosib felly ydi gweld y BBC yn helpu i wthio neu roi platfform amlwg i’r agenda facsinau gan hefyd roi cyhoeddusrwydd enfawr i Bill Gates a’i ymgyrchu i wthio facsinau, nid yn unig ar bawb ym Mhrydain ond ar yr holl fyd – a ni y bobol fydde y talu am hyn oll.

Gallwch weld manylion yr holl sefydliadau a chwmniau sydd wedi ac yn cael eu hariannu gan y Gates Foundation yma.

Graffeg gan UK Column

Plîs dwedwch eich bod yn dechrau cael y pictiwr mawr erbyn hyn??

Mae’n ymddangos fod problemau ‘conflict of interest’ sylweddol rhwng ein llywodraethau a’r prif gyfryngau sydd yn ymddangos i fod yn gweithio yn agos gyda ambell biliwnydd anetholedig ynghyd a gwahanol a gorfforaethau rhyngwladol.

Nid llywodraeth sydd mewn pŵer yn Llundain bellach yn fy marn i, ond theatr ffarsical ble mae corfforaethau rhyngwladol yn rheoli a gwthio’r agenda, a’r cyfryngau yn adrodd yr agenda sydd yn cael eu rhoi iddynt fel parotiaid gan esgus ei alw’n newyddion. Croeso i ffasgiaeth gorfforaethol mewn geiriau eraill.

Ac nid yn unig y mae’n ymddangos fod nifer fawr o bobol wedi mwy neu lai derbyn – bron yn ddi-gwestiwn – fod eu hawliau dynol a sifil wedi eu tynnu oddi arnynt, ond mae nifer hyd yn oed wedi erfyn a begio i gael yr hawliau yma wedi eu tynnu oddi wrthynt, gan hefyd ymbilio i gael eu carcharu yn eu tai am gyfnod amhenodol mewn be sydd yn anodd peidio ei ddisgrifio fel police state.

Os nad fyddwn yn ofalus ac yn gwthio yn ôl yn erbyn hyn bydd gwaeth i ddod – llawer iawn gwaeth. Nid gormodaeth yw dweud mai dim ond angen edrych ar hanes yr Undeb Sofietaidd, Cheina neu Almaen y 30au sydd angen ei wneud i weld ble mae awdurdodaeth a thotalitariaeth o’r fath yn diweddu.

Nid ychydig o wahaniaeth barn yw hyn. Nid chware plant yw hyn ac nid jôc.

Mae mwyafrif ein gwleidyddion wedi methu a siarad yn erbyn y draconiaeth yma. Ac wedi methu gwarchod ein hawliau mwyaf sylfaenol. Pwy a ŵyr pam fod hynnu – o bosib oherwydd diffyg gwybodaeth ac ymchwil annibynnol ar eu rhan, elfennau o naïfrwydd neu, yn fwy problematig, oherwydd rhesymau mwy hunan wasanaethgar a hunanol – ac o bosib cyfuniad o’r rhain i gyd.

Un o ddyfyniadau enwog Aldous Huxley, awdur Brave New World yw hwn:

A really efficient totalitarian state would be one in which the all-powerful executive of political bosses and their army of managers control a population of slaves who do not have to be coerced, because they love their servitude.”

Dim ond rai misoedd yn ôl, roedd nifer o brotestwyr ‘blaengar’ yn condemnio’r Torïaid drwg yn Llundain. Rai wythnosau yn ddiweddarach roedd nifer o’r un protestwyr yn begio’r un Torïaid i dynnu ffwrdd eu hawliau a’u rhyddid a’u carcharu yn eu tai am gyfnod amhenodol. Ac i gau lawr yr economi fydd yn anochel yn golygu dinistrio busnesau teuluol bach a canolig fel tase hyn yn gwbl normal a naturiol.

I ychwanegu at hyn, mae boffins behavioural insights team llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi llwyddo i gael nifer o bobol i sefyll ar stepen eu drws a chlapio am ddau funud bob wythnos tra wedi eu carcharu yn eu cartrefi gan y wladwriaeth sydd hefyd wedi tynnu eu hawliau sifil i ffwrdd. Dwi’n gwybod mai bwriad da sydd gan y bobol ei hunain, a diolch i staff yr NHS mae pobol yn ei wneud ond mae’n anodd dadlau nad oes elfennau o hyn yn ymddangos yn gwltaidd ac yn Orwelaidd.

Dwi’n gwybod hefyd fod ewyllys da ac altrwistiaeth/allgaredd naturiol pobol wedi cael ei weld ar draws cymunedau Cymru a thu hwnt wrth i bobol helpu ei gilydd allan yn yr wythnosau/misoedd diwethaf, be bynnag eu barn ar y llywodraeth a’r mesurau cloi i lawr – a braf iawn ydi gweld hynnu. A gellid dadlau fod y ffaith fod pobol yn gallu dal i fod mor hael eu hysbryd be bynnag y sefyllfa, yn dweud rhywbeth llawer mwy pwysig am bobol ac ysbrydiaeth yn gyffredinol na pha bynnag gemau sinistr mae’r boffins a’r peiriannwyr cymdeithasol yn ceisio eu chwarae.

Mae trio siarad am bethau fel hyn a thrio rhybuddio eraill o’r holl beryglon difrifol sydd yn codi, yn aml fel ceisio achub anifail gwyllt sydd yn styc mewn ffens neu mewn mieri. Mi ydych yn meddwl eich bod yn gwneud y peth iawn drwy geisio achub a rhyddhau’r anifail, wrth sylweddoli o bosib y neith yr anifail, ar ôl cael ei ryddhau, sgrechian neu gyfarth arnoch cyn rhedeg i ffwrdd yn gyflym byth i gael ei weld eto. Neu ymosod arnoch yn filain tra rydych yn trio ei ryddhau gan eich gorfodi i ystyried dewis rhwng cario mlaen i drio ei ryddhau neu ystyried orfod gadael yr anifail heb drio ei helpu. Neu, os yn llwyddo i’w ryddhau, mae wastad risg y gwneith yr anifail redeg i ffwrdd cyn dod ‘nôl gyda chiwed o’i gyd anifaeliaid gwyllt er mwyn trio eich llarpio a’ch darnio am feiddio ceisio ei achub.

Ond mae wastad gobaith ar y gorwel. Fel soniwyd, mae elfen ysbrydol a hynod o bositif yn dod o hyn i gyd hefyd. Mae’r wybodaeth am agenda hyll a gormesol y globaleiddwyr a’r elît corfforaethol, ffarmalegol a thechnolegol i geisio ein gormesu a’n caethiwo, rwan yn dechrau dod i’r amlwg i bawb ei weld. Ac mae’r deffroad yma mewn ymwybyddiaeth yn wych i’w weld. Boed i fwy a mwy ddeffro, ac i fwy a mwy o olau gael ei ddisgleirio ar gelwyddau budur gelynion dynoliaeth.

Am fwy o wybodaeth a ffeithiau am Covid 19 a’r ymateb iddo ewch i wefan y grŵp Cymraeg We The People sydd yn gofyn cwestiynau a chynnal trafodaeth bwysig ar y mater: https://wethepeople.wales/

Er nad oed rhaid i chi gytuno gyda ei safbwyntiau ar bopeth wrth gwrs, gwerth hefyd yw gwylio’r newyddion a’r dadansoddi diweddaraf ar siannel You Tube grwpiau fel UK Column sydd wedi bod yn arbennig o dda ar y pwnc arbennig yma.

I weld yr holl grantiau sydd wedi eu rhoi gan y Gates Foundation ewch yma: https://www.gatesfoundation.org/how-we-work/quick-links/grants-database

Gwerth hefyd yw edrych ar wefan Swiss Propaganda Resarch am fwy o wybodaeth: https://swprs.org/a-swiss-doctor-on-covid-19/#latest

Mae’r OffGuardian hefyd yn un o lawer sydd wedi bod yn dda iawn yn adrodd ar corona: https://off-guardian.org/

 

 

 

 

Leave a reply / Gadewch neges: