gan Gruffydd Meredith
Gwelir dathliadau Pride dros Gymru a gweddill Prydain yn flynyddol erbyn hyn gan gynnwys rali fawr drwy ganol Caerdydd bob haf. Mae’r rhain fel arfer yn ddigwyddiadau ble mae pawb i weld yn mwynhau ei hunain ac yn dathlu yn gyhoeddus ac yn agored heb fynd dros ben llestri. Gwelir hyn oll yn digwydd o dan faner LGBTQI (rhywioldeb lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, cwestiynu neu queer, a rhyngrywiol.)
Mae pedwar cwestiwn amlwg yn codi yn hyn o beth yn fy marn i:
1. Oes wir angen dathlu unrhyw rywioldeb mewn gorymdeithiau cyhoeddus yn y fath fodd erbyn hyn? Onid ydi hyn bellach ychydig yn hen ffasiwn a di angen, yn enwedig o ystyried fod y pwynt am oddegfagwrch a pharch tuag at rywioldeb eraill na sydd yn hetero rywiol yn arbennig, wedi ei wneud a’i dderbyn gan y mwyafrif llethol erbyn hyn? – mwyafrif rwy’n tybio sydd unai yn cytuno gyda rhyddid a hawl eraill i fod gyda neu garu pwy bynnag y mynent neu sydd heb unrhyw farn arbennig am y peth un ffordd neu’r llall.
2. Ond os mae dathlu holl rywioldeb a dewis pawb yw pwrpas y dathliadau yma ble mae’r ‘S’ am strêt yn y teitl LGBTQI? Onid LGBTQIS ddyle’r acronym yma fod er mwyn bod yn gynhwysol o bob rhywioldeb ac i gynnwys pobol heterorywiol yn y dathliadau yn ogystal?
3. Pam fod angen cael y rhestr cyfyngus yma o lythrennau mympwyol sydd yn newid drwy’r amser beth bynnag? Ydio wir yn angenrheidiol taflu pawb i focs gyda llythyren arbennig ar eu cyfer? Be am jisd ddathlu fod pob unigolyn yn unigryw a gwahanol ac ein bod oll yn lwcus i gael profi bywyd ar y ddaear anhygoel yma?
4. Pam fod angen i’r llywodraeth, yr heddlu, yr ambiwlans, y frigâd dan ac amrywiol awdurdodau a chyrff cyhoeddus fod yn rhan o’r dathliadau yma, yn enwedig os yw hyn yn ymwneud a phres cyhoeddus ? Ers pryd mae yn fusnes i gyrff cyhoeddus, awdurdodau argyfwng a rwan corfforaethau rhyngwladol yn ogystal, wthio unrhyw fath o rywioldeb ar unrhyw un?
Yn dilyn y pwynt uchod am rôl awdurdodau a chyrff cyhoeddus yn hyn oll, ac o edrych ar y pictiwr ehangach, mae esiamplau o’r awdurdodau yn ceisio gwthio agweddau o hyn ar y cyhoedd hefyd wedi ei weld yn ddiweddar gyda chynghorwyr arbennig i lywodraeth Cymru yn ceisio mynnu y dyle Llywodraeth Cymru gymryd ffwrdd hawliau rhieni i dynnu plant o addysg rhyw. Mae’r cynghorwyr eisiau i’r cwricwlwm newydd, a fyddai yn dechrau yn 2022, gynnwys addysg rhyw a dysgu am faterion LGBTQI gorfodol i bob plentyn rhwng 3 a 16 oed.
Daw hyn ar ôl i ymgynghoriad blaenorol weld gwrthwynebiad enfawr, gyda 87.5% o’r ymatebion yn ymwrthod y cynlluniau i orfodi addysg rhyw a LGBTQI ar blant 3 -16 oed. Ond ymddengys nad yw barn a dymuniad rhieni a’r cyhoedd yn gyffredinol yn golygu llawer o ddim. Er gwaethaf y gwrthwynebiad ysgubol, dywedodd un o’r cynghorwyr, Yasmin Khan, mewn ymateb, y dylai’r cynlluniau “fod yn hollol orfodol” beth bynnag.
Os mae dathlu holl rywioldeb a dewis pawb yw pwrpas y dathliadau yma ble mae’r ‘S’ am strêt yn y teitl LGBTQI? Onid LGBTQIS ddyle’r anagram yma fod er mwyn bod yn gynhwysol o bob rhywioldeb ac i gynnwys pobol heterorywiol yn y dathliadau yn ogystal?
Eisoes gwelwyd gwrthwynebiad chwyrn gan rieni yn Lloegr i gynlluniau tebyg. Mae’r gwrthwynebiad yn aml yn erbyn dysgu addysg rhyw ac LGBTQI gorfodol, yn enwedig mewn ysgolion cynradd, gyda’r mwyafrif os nad oll yn gwneud pwynt o ychwanegu nad ydyn nhw yn erbyn pobl hoyw na’r rhai sy’n cwestiynu neu’n cael trafferth â’u rhywioldeb neu ryw yn gyffredinol.
Ond er gwaethaf hyn, y cyhuddiadau gwallus ac annheg sydd yn cael eu gwneud yn erbyn y rheiny sydd ddim am weld addysg rhyw a LGBTQI gorfodol i blant, ydi eu bod rhywsut yn erbyn neu yn casáu plant neu bobol hoyw neu rai sy’n ansicr am eu rhywioldeb. Mae hyn yn anwiredd ac yn ffalasi. Mae’r rhieni bron oll yn y materion yma yn annog cydymdeimlad, cymorth a dealltwriaeth tuag at y plant hynny sydd yn mynd drwy amser anodd. Ac mae’n deg dweud yn gyffredinol, fod tegwch a chydymdeimlad yn rhan neilltuol o’r diwylliant Cymreig, sydd wastad wedi dangos parch ag empathi tuag at bawb yn gyfartal be bynnag eu tuedd neu gefndir.
Ymddengys mai ‘Gadewch i blant fod yn blant a phenderfynu beth maen nhw eisiau ei wneud pan ddônt yn oedolion’ yw’r mantra cyffredinol pan ddaw at y rhai sydd ddim am weld addysg rhyw a LGBTQI gorfodol i blant ifanc ysgolion cynradd yn enwedig. Hynny ac annog parch at bawb a ‘dysgwch y basics iddy nhw o ran rhyw ac iechyd rhyw yn yr ysgol uwchradd’. Nid lle’r gyfundrefn addysg yw busnesa tu hwnt i hynnu.
Ond er gwaethaf hyn, y cyhuddiadau gwallus ac annheg sydd yn cael eu gwneud yn erbyn y rheiny sydd ddim am weld addysg rhyw a LGBTQI gorfodol i blant, ydi eu bod rhywsut yn erbyn neu yn casáu plant neu bobol hoyw neu rai sy’n ansicr am eu rhywioldeb. Mae hyn yn anwiredd ac yn ffalasi.
Felly oes, wrth gwrs fod gan bawb yr hawl i gael eu trin gyda pharch, dealltwriaeth a gofal be bynnag ei sefyllfa. Ond na, nid lle llywodraeth na’r awdurdodau yw gwthio addysg ryw a rhywioldeb yn ôl eu mympwy ar blant, yn enwedig plant ifanc.
Mae grwpiau ar-lein fel Questioning LGBT Education hefyd yn adlewyrchiad o’r consarn sydd gan rieni a phawb arall dros Brydain sy’n poeni’n fawr fod LGBTQI mewn ysgolion wedi troi’n fath o indoctrineddio gorfodol gydag agenda pendant tu ôl iddo. Anodd yw dadlau yn erbyn hynny yn fy marn i.
Uchod: Dr Elly Barnes “The bottom line is to completely smash heteronormativity”. Ymgyrch agored a theg sydd yn parchu pawb ynteu agenda unochrog ac anoddefgar i ymosod ar hetero rywioldeb yn arbennig?
A thu hwnt i ysgolion gwelir fflagiau LGBTQI yr enfys yn cael ei hedfan ar adeiladau llywodraeth Cymru a gan gyrff cyhoeddus ac awdurdodau lleol dros Gymru yn ddogmataidd a fel mater o reol di gwestiwn erbyn hyn. A gwae’r cyrff a’r awdurdodau lleol hynnu na sydd yn dewis hedfan y faner; fel y gwelwyd yng nghyngor Sir Gar, bydd y mob cyfryngau cymdeithasol bach ond swnllyd ar eu hol gyda’u torchau o dân a phitchffyrch nes iddynt gydymffurfio yn ddi gwestiwn i’w gorchmynion i godi’r faner enfys neu wynebu mob justice. Enghraifft arall o be all gael ei alw yn orthrwm ar y mwyafrif tawel.
Ers pryd mae yn fusnes i gyrff cyhoeddus, awdurdodau argyfwng a rwan corfforaethau rhyngwladol yn ogystal, wthio unrhyw fath o rywioldeb ar unrhyw un?
Mae grwpiau yn cynnwys grwpiau Cristnogol hefyd wedi lleisio eu gwrthwynebiad i gynlluniau’r llywodraeth yng Nghymru a thu hwnt. Yn ôl The Christian Institute, gan rannu gwerthoedd Cymreig iawn yn fy marn i, mae angen dysgu plant i barchu ei gilydd oherwydd eu bod yn cyd rannu dynoliaeth a bodolaeth yn hytrach na chael eu hymrannu a’u hymwahanu gan be mae’r sefydliad yn ei ddisgrifio fel ‘ffocws obsesiynol ar labeli’ – rhywbeth y mae nifer cynyddol yn poeni sy’n sail i addysg rhyw, addysg LGBTQI a rhaglenni addysg yn gyffredinol.
mae angen dysgu plant i barchu ei gilydd oherwydd eu bod yn cyd rannu dynoliaeth a bodolaeth yn hytrach na chael eu hymrannu a’u hymwahanu gan be mae’r sefydliad yn ei ddisgrifio fel ‘ffocws obsesiynol ar labeli’ – rhywbeth y mae nifer cynyddol yn poeni sy’n sail i addysg rhyw, addysg LGBTQI a rhaglenni addysg yn gyffredinol
O bosib hyd yn oed mwy sinistr yw gweld yr holl ddiwylliant LGBTQI ac identity politics yn gyffredinol yn cael ei wthio yn galed gan y corfforaethau rhyngwladol megis crefydd newydd. Pan welir McDonald’s, Starbucks, Barclays a’u tebyg yn dechrau gwthio’r pethau yma yn selotaidd ac yn ddi gwestiwn ar y cyhoedd efallai ei fod yn amser da i ddechrau gofyn be yn union sydd wir yn mynd ymlaen yma?