Mastiau a thechnoleg dadleuol 5G yn codi fel madarch dros brifddinas Cymru

gan Gruffydd Meredith

Mae mastiau a theclynnau derbyn a defnyddio technoleg 5G i’w gweld yn gynyddol dros Gaerdydd ar ôl i’r brif ddinas fod yn un o’r nifer o ddinasoedd dros Brydain ‘i arloesi’ drwy rolio allan y dechnoleg rhwydwaith ffonau symudol ddiweddaraf y flwyddyn yma. Mae hyn yn digwydd er gwaethaf y ffaith fod y dechnoleg yn destun pryder enfawr gan nifer cynyddol o bobol a gwyddonwyr ar draws y byd. Mae’r pryder yn cynnwys consarn sylweddol am effaith y dechnoleg ar iechyd pobol yn ogystal ag ar anifeiliaid a byd natur.

Yn ogystal â’r mastiau mawr, mae’r polion goleuadau stryd sydd i’w gweld yn y brifddinas, yn cael eu haddasu gyda thechnoleg sydd yn helpu i gario signalau 5G fel y gwelir o’r modiwlau neu drosglwyddwyr newydd sydd yn cael eu hychwanegu a sydd yn sticio allan o’r polion. Credir fod y trosglwyddwyr bach yma yn angenrheidiol gan fod signal 5G angen ei atgyfnerthu bob rhwng 100-200 metr.

Twr 5G newydd arall sydd wedi codi ger y prif stadiwm yng nghanol Caerdydd

Hefyd, mae cannoedd o filoedd o oleuadau stryd ar draws gwledydd Prydain, yn cynnwys nifer yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, wedi cael eu newid i ddefnyddio golau LED, a honnir sy’n rhatach i’w rhedeg ac yn well i’r amgylchedd. Hyd yma mae oeddeutu 30% o’r goleuadau ar draffyrdd a ffyrdd ‘A’ yn Lloegr hefyd wedi’u huwchraddio i ddefnyddio golau LED.

Ond mae adroddiadau gan gyrff fel Public Health England wedi datgan y gall golau LED glaswyn hynod lachar a welir yn nifer o’r lampau newydd yma, achosi niwed i iechyd yn cynnwys niwed i lygaid pobol. Dywedir y gall y golau a ddaw o oleadau stryd LED hynod lachar, yn ogystal ag o sgriniau cyfriadurol, ffonau a theledu, darfu ar rythm naturiol y corff a lleihau lefelau yr hormon melatonin sydd yn cael ei greu yn y chwarren pineal. Mae canser y fron a chanser y prostad yn enwedig, yn gysylltiedig a hormonau.

Y goleadau newydd golau llachar ar lampau stryd Caerdydd

Dwedir fod mwy na 10,000 o astudiaethau gwyddonol peer review yn dangos niwed i iechyd pobl o ymbelydredd tonfeddi RF/radio frequency eithafol fel sydd yn cael ei greu gan dechnoleg 5G yn arbennig. Ac mae nifer cynyddol o ddinasoedd ar draws y byd yn rhoi stop llwyr ar 5G – gan gynnwys dinas Genefa yn y Swistir a hefyd prifddinas yr Undeb Ewropeaidd, Brwsel, sydd hefyd wedi gwahardd technoleg 5G yn ddiweddar.

Y modiwlau ar gyfer trosglwyddo signalau technoleg ddadleuol 5G newydd sydd wedi eu rhoi ar nifer o lampau stryd yng Nghaerdydd yn ddiweddar

Mae dinasoedd a thaleithiau’r Unol Daleithiau hefyd yn gynyddol ystyried gwharadd y dechnoleg – yn cynnwys yng Nghaliffornia ac yn Hawaii ble mae gwrthwynebiad chwyrn i’r dechnoleg.

Twr trosglwyddo signalau ffôn newydd yng Nghaerdydd

Yn agosach i adre, cynghorau Glastonbury, Frome, Totnes a chyngor dinas Brighton & Hove yw’r diweddaraf i wahardd gosod unrhyw fastiau 5G newydd oherwydd y gofid am y risg i iechyd y cyhoedd ac i’r ecoleg leol.

Goleadau stryd a phriffyrdd llachar sydd yn codi consarn oherwydd eu heffaith posib ar iechyd

Mi fydd y gwrthwynebiad i 5G ac i’r cynlluniau hyd yn oed gwaeth am 6G a 7G, yn bownd o gynyddu wrth i fwy o bobol ddarllen a dysgu am y pwnc a sylweddoli peryglon y dechnoleg. Y cam nesa dyle Lywodraeth Cymru ei gymeryd yn fy marn i, ydi i wneud y peth iawn a rhoi stop ar y dechnoleg nes fydd ymwchiliad llawn wedi ei wneud i fewn i’w ddiogelwch. Ac yna ei wahardd yn llwyr os nad oes posib profi fod y dechnoleg yn ddiogel.

Y dyfodol o dan 5G, 6G, 7G? Llun gan Ria Sopala o Pixabay

Prif lun gan Peter Bjorndal o Pixabay

 

Leave a reply / Gadewch neges: