Datganiad brys o Airstrip One, Oceania, gan Weinidogaeth y Gwirionedd, Ingsoc…
Fe dderbyniwyd adroddiadau yn ddiweddar bod colofn mewn cylchgrawn wedi datgan y canlynol: “Nid oes amheuaeth fod gan Eve Myles goesau hyfryd – sy’n edrych yn well fyth mewn pâr o high-heels. Ac mae hynny’n gwneud Un Bore Mercher yn werth ei wylio.”
Yn syth ar ôl clywed hyn gan aelodau allanol y blaid sy’n monitro’r we, gyrrwyd swyddogion Gweinidogaeth y Gwirionedd yn Ingsoc i dŷ’r colofnydd.
Mewn achos a gynhaliwyd wedi hynny ceisiodd y colofnydd, troseddwr rhif A7538, ‘amddiffyn ei eiriau’:
“Yn fy ngholofn roeddwn yn cwestiynu pam fod cynhyrchwyr y rhaglen wedi penderfynu fod angen gwisgo Eve Myles (sy’n chwarae rhan Faith Howells – mam i dri o blant a chyfreithwraig brysur) mewn high-heels a sgert fer.
“Fy marn yw y gwnaed hyn er mwyn defnyddio sex-appeal Ms Myles er lles ratings y rhaglen. “….fe ddefnyddiais ddull eironig a dychanol er mwyn tynnu sylw at y mater”
Clywyd mwy o dystiolaeth am y drosedd gan aelodau o’r blaid allanol – gwelir eu tystiolaeth Twitter isod:
“Rili? Dwi di cael digon o blatant misogyny ac objectifyo menywod am un wythnos. Siomedig.”
“…angen cael gair dwi’n meddwl. gwarthus bod geiriau fel hyn yn cael eu printio.”
“URGH. Ma hyn yn ffiaidd. Pam bo hyn yn cael digwydd?! Ma’n hollol warthus.”
“Wrth gwrs mae fe’n rhywiaethol, bydd chi byth yn weld cymeriad dyn yn gael eu disgrifio fel hon. Hefyd, Mae cymeriad Eve lot mwy nag jyst coesau a high heels.” (Penderfynodd aelodau Ingsoc nad yw sôn am Poldark, hysbysebion megis un Coca Cola gyda dynion hanner noeth, merched yn canmol coesau’r adaryddwr Iolo Jones ayyb yn berthnasol)
“Mae hyn wedi digwydd ohewrydd fod system batriarchaidd mewn lle gyda dynion i gyd gyda’r pwer dros be sydd yn cael ei argraffu a’i ddweud am ferched yn y wasg a’r cyfryngau” (anwybyddwyd tystiolaeth mae dynes yw golygyddes y cylchgrawn mewn cwestiwn a gytunodd i’r darn gael ei gyhoeddi. Cred Ingsoc nad oes angen i ffeithiau ddylanwadu ar achosion mor bwysig a hwn)
Clywsom farn anffortunus un o’r rheini wnaeth amddiffyn y troseddwr truenus. Anwybyddwyd ei thystiolaeth fel propaganda afresymol a ‘siarad casineb’. Mae posib y bydd achos yn erbyn y droseddwraig yn y dyfodol. Gwelir ei phropaganda anwireddus islaw:
“Colofnydd doniolaf Cymru yn sgwennu yn onest am ein rhaglenni teledu – hir oes i’w golofn a lighten up menwod dosbarth canol Cymru – #realitycheck .”
Rydyn ni hefyd wedi derbyn adroddiad fod dyn yn Co-op y Fflint wedi edrych ar ddynes am 1.5 eiliad neu yn hirach o bosib ac rydyn ni hefyd yn archwilio i gŵyn fod dyn wedi dweud ‘helo’ wrth wraig ar stryd yn Llanhari – mae swyddogion Ingsoc wedi eu gyrru draw i archwilio ymhellach.
Mae Ingsoc hefyd wedi sefydlu panel a fydd yn ein cynghori ar atal dangosiad unrhyw ffilmiau neu raglenni teledu sydd yn cynnwys merched sydd yn cael eu hystyried yn ddeniadol neu’n atyniadol.
Mi fydd gan y panel rym i roi sac i bob merch sydd yn gwneud bywoliaeth o fodelu. Dywedodd llefarydd, ar ran y panel:
“Rydym yn gweithio yn ddiddiwedd i ryddhau’n hunain o ormes erchyll patriarchaidd. Dim ond y bore yma mi fethodd dyn ag agor drws i fi – sydd yn cadarnhau agweddau erchyll ac israddol dynion at ferched. “A’r diwrnod o’r blaen mi ddaliodd dyn ddrws ar agor gan fy ngwahodd i fynd drwyddo o’i flaen, sy’n cadarnhau fod pob dyn yn fisogonist ffiaidd sydd angen ei garcharu”
Ychwanegodd: “Rydym yn mynnu nad yw dynion yn talu unrhyw sylw i ni mewn unrhyw ffordd, be bynnag yr ydym yn ei wneud neu yn ei ddweud. Ac os nad ydynt yn talu unrhyw fath o sylw atom, mi’r ydym yn mynnu’r hawliau deddfwriaethol i’w harestio a’u carcharu am esgeulustod a misogonistiaeth sydd yn israddio merched mewn cymdeithas drwy eu hanwybyddu”
Gall Ingsoc gadarnhau fod y ddeddfwriaeth dan sylw bellach mewn lle. Fel sy’n hysbys i’n haelodau, mae deddfwriaeth eisoes mewn lle sydd yn sicrhau bod unrhyw ddyn sydd yn ceisio siarad â dynes am ba reswm bynnag yn euog o drosedd gasineb.
Rydym ni yn Ingsoc hefyd yn gweithio ar system o ddirwyon ar gyfer unrhyw ddyn a dybir ei fod yn gweld merch yn atyniadol mewn unrhyw ffordd.
Ac yn amlwg mae’n anghyfreithlon i ddyn roi unrhyw gompliment i ddynes ers achos llys enwog Lynne v Richards pan garcharwyd Joni bach Tŷ Canol (Llanybydder) am 20 mlynedd am ynganu’r geiriau enwog: ‘Bore da Glenys, ma’ dy wallt yn shgwla’n neis heddi’.
Diwedd datganiad Airstrip One
gan Gruffydd Meredith